Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Merfyn Jones
Merfyn 'Smyrff' Jones, y tywyswr mynydd ac aelod o d卯m achub mynydd Eryri sy'n Ateb y Galw'r wythnos hon.
Bydd Merfyn yn tywys y cyflwynydd Radio Cymru, Aled Hughes, wrth iddo wneud ei her ar gyfer Plant Mewn Angen eleni.
Bydd Aled yn ceisio cerdded 135 o filltiroedd mewn saith diwrnod ar hyd Llwybr Pererin Gogledd Cymru, gan gychwyn yn Nhreffynnon a gorffen yn Aberdaron.
Dechreuodd y daith ddydd Sadwrn 9 Tachwedd 2024 gan anelu i orffen ddydd Gwener 15 Tachwedd 2024.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Cael row gan y prifathro am ddengid i ffwrdd o鈥檙 ysgol un amser cinio gyda criw o fy ffrindiau!
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Crib Goch oherwydd ei fod yn heriol a dwi'n mwynhau鈥檙 sialens o fynd 芒 grwpiau amrywiol drosto.
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Gweld Arsenal yn curo Barcelona yn y Champions League yn Stadiwm yr Emirates.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Penderfynol, brwdfrydig a phrysur.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'n么l?
Pasio fy nghwrs arweinydd mynydd gaeaf.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Cefais fynd i weld g锚m Wrecsam yn erbyn Arsenal yn y Cae Ras. Roeddwn i'n un o鈥檙 cefnogwyr oedd yn cefnogi Arsenal yng nghanol cefnogwyr Wrecsam pan ddaru nhw ein curo 2-1!
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Dwi'm yn cofio.
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Dwi'n chwyrnu weithiau!
Beth yw eich hoff lyfr a pam?
Llyfr Antur i鈥檙 Eithaf - atgofion byw ar y dibyn gan Eric Jones oherwydd roedd yn braf darllen am lwyddiant a phrofiadau anhygoel Cymro lleol sydd yn ysbrydoli eraill.
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi鈥檔 cael diod a pham?
Muhammad Ali.
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mae gennyf gasgliad o slipers gwirion ac yn cael rhai newydd pob Nadolig.
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi鈥檔 ei wneud?
Dringo mynydd nad wyf wedi ei wneud o鈥檙 blaen.
Pa lun sy鈥檔 bwysig i chi a pham?
Un o fy hoff luniau yw cyrraedd copa Mont Blanc yn Ffrainc gyda fy ffrind Dafydd.
Petasech chi鈥檔 gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Fy hoff b锚l-droediwr, Dennis Bergkamp.