大象传媒

O Star Wars i Beetlejuice - creu mowldiau ar gyfer s锚r y byd ffilmiau

Mabli Non Jones gyda'r actor a'r canwr Luke EvansFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mabli Non Jones gyda'r actor a'r canwr Luke Evans

  • Cyhoeddwyd

Mae merch o Ddyffryn Ogwen wedi gweithio gyda鈥檙 cyfarwyddwr byd-enwog Tim Burton tu 么l i鈥檙 llenni ar un o ffilmiau mwyaf 2024.

Mae Mabli Non Jones, o Gerlan, Bethesda, yn creu mowldiau ar gyfer ffilm a theledu, gan helpu i greu鈥檙 creaduriaid a鈥檙 prostheteg sydd i鈥檞 gweld ar y sgr卯n fawr.

Llynedd, mi fuodd yn gweithio ar The Acolyte ac Andor, dwy gyfres deledu o fyd Star Wars.

Ac mae'r ffilm ddiweddara iddi weithio arni newydd ei ryddhau 鈥 Beetlejuice Beetlejuice, wedi ei chyfarwyddo gan Tim Burton ac yn ddilyniant i Beetlejuice.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ar 么l i'r holl waith gael ei gwblhau mae'r modelau yn edrych fel pobl go iawn

Daeth Mabli wyneb i wyneb gyda rhai o s锚r mwyaf y byd ffilmiau, gan gynnwys Winona Ryder, Willem Dafoe a Danny DeVito.

Mewn cyfweliad 芒 rhaglen Aled Hughes ar 大象传媒 Radio Cymru, disgrifiodd Mabli sut beth oedd gweithio mor agos gyda鈥檙 s锚r.

鈥淎r y tu fewn, dwi鈥檔 freakio allan!鈥 meddai.

"Dwi鈥檔 dod o Gerlan, dwi鈥檓 yn rili gallu rhoi鈥檙 ddau fyd yna at ei gilydd!"

鈥楤wystfilod ac aliens yn ffrwydro allan o foliau!鈥

Disgrifia Mabli ei gwaith fel 鈥渃reu be' fydd yr actorion yn wisgo 鈥 [er enghraifft] clust, p芒r o ddwylo, unrhyw anafiadau neu friwiau."

Eglurodd: 鈥淎r y ffilm diwethaf nes i weithio arno fo [Beetlejuice], o鈥檇d 鈥榥a lot o bethau gwahanol 鈥 mi oedd 鈥榥a fwystfilod, aliens, coluddion yn ffrwydro allan o foliau, boliau beichiog, babis... bob dim!"

Disgrifiodd y broses o lifecasting 鈥渓le 鈥榙a ni鈥檔 creu negatif o鈥檙 actor yn defnyddio silicon neu alginate, rhoi o dros yr actor, a wedyn yn creu plaster.

鈥淎c wedyn ma鈥 gen ti鈥檙 cerflunwyr sy鈥檔 sculptio pa bynnag anafiadau, clustiau, boliau beichiog, math yna o beth, wedyn ma鈥 hynna鈥檔 dod ata ni i鈥檞 mowldio nhw, yn defnyddio fiberglass rhan fwyaf o鈥檙 amser, neu silicon neu blaster鈥.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwaith paratoi Mabli ar yr actor Luke Evans

Cam cynnar o鈥檙 broses mae Mabli yn gweithio arno, cyn symud y gwaith ymlaen at adrannau eraill.

鈥淎r 么l iddo fo ddod ata ni, mae o鈥檔 cael ei anfon at bobl eraill sy鈥檔 peintio, yn rhoi鈥檙 gwalltiau mewn, ac wedyn at y bobl sy鈥檔 rhoi鈥檙 animatronics 尘别飞苍.鈥

Gweithio gydag un o鈥檙 mawrion

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tim Burton, sydd wedi cyfarwyddo ffilmiau Batman, Edward Scissorhands a Charlie and the Chocolate Factory

Roedd y profiad o weithio gyda Tim Burton, y cyfarwyddwr byd-enwog, wrth ddod 芒鈥檌 ddarluniau yn fyw yn un arbennig.

鈥淒wi鈥檔 cofio Mam yn dweud, fel hogan fach, o鈥檔 i鈥檔 caru unrhyw beth i鈥檞 wneud hefo Calan Gaeaf, yn enwedig ffilmiau Tim Burton," meddai.

鈥淢ae o鈥檔 artist hefyd 鈥 fo sy鈥檔 dewis pa gymeriadau mae o eisiau [yn ei ffilmiau].鈥

Dywedodd Mabli ei fod yn brofiad 鈥渞ili c诺l gallu gweithio hefo fo a dod fyny hefo鈥檙 cynlluniau 鈥檓a ar gyfer be bynnag oedd o eisiau鈥.

Cychwyn yn ifanc

Roedd Mabli yn gwybod ers oedran cynnar pa faes roedd hi eisiau mentro iddo fo.

Yn ddiweddar, ffeindiodd ei mam 鈥渉en recordiad o fi a fy mrawd yn smalio gwneud Uned 5 neu raglen radio, ac oedd o鈥檔 gofyn 鈥榖e ti 鈥榮ho bod pan ti鈥檔 hyn?鈥... 鈥榙wi 鈥榮ho creu aliens ar Doctor Who!鈥 鈥 saith neu wyth oed o鈥檔 i, felly ar yr adeg yna o鈥檔 i鈥檔 gwybod yn barod bo鈥 fi eisiau gwneud o鈥.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae sawl rhan i'r gwaith o greu'r modelau

Ar 么l astudio Celf yn yr ysgol, aeth ymlaen i ddilyn cwrs Celf Sylfaen yng Ngholeg Menai Bangor, cyn symud i lawr i Lundain i astudio Mould Making yng Ngholeg y Celfyddydau Llundain.

鈥淥鈥檔 i鈥檔 rili lwcus, mewn ffordd, mod i 鈥榙i cael llwybr mor hawdd.鈥

Pynciau cysylltiedig