Cyngor Gwynedd: Achos Foden yn 'drasiedi na ddylai ddigwydd eto'

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf 2024

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud ei fod yn gwneud popeth posib er mwyn sicrhau bod sgandal Neil Foden yn drasiedi na fydd yn digwydd eto.

Mae rhaglen 大象传媒 Wales Investigates wedi clywed ei bod yn bosib bod y cyn-brifathro wedi cam-drin disgyblion am dros 40 mlynedd.

Cafodd y pedoffeil 66 oed ei garcharu am gam-drin pedwar o blant yng ngogledd Cymru rhwng 2019 a 2023.

Ond mae ymchwiliad Wales Investigates wedi clywed am honiadau o gam-drin yn dyddio yn 么l i 1979.

Yn 么l dwy fu'n siarad 芒 大象传媒 Cymru, fe gafon nhw wybod gan yr heddlu bod tua 20 o ddioddefwyr posib.

Mae pryderon difrifol hefyd wedi eu codi am adolygiad sydd wedi'i gynllunio i "ddysgu gwersi" o'r achos, er bod Cyngor Gwynedd wedi addo y byddai鈥檙 panel sy'n ei oruchwylio yn "cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen".

Mae'r cyngor yn wynebu achosion cyfreithiol sifil gan ddioddefwyr Foden, allai gostio "miliynau" i'r awdurdod.

'Rhannu fy ffieidd-dra'

Mewn datganiad ddydd Mercher dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn fod pawb yn yr awdurdod yn "rhannu fy ffieidd-dra ynghylch yr hyn y mae Neil Foden wedi'i wneud".

Ychwanegodd eu bod yn "unfryd o鈥檙 farn fod yr hyn a ddigwyddodd i'w ddioddefwyr yn drasiedi na ddylai fyth ddigwydd eto".

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Dyfrig Siencyn y byddai'r cyngor yn "croesawu" rhagor o ymchwiliadau

鈥淣awr fod y broses droseddol wedi'i chwblhau, a bod Neil Foden dan glo, mae Adolygiad Ymarfer Plant annibynnol wedi'i lansio gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru," meddai'r Cynghorydd Siencyn.

鈥淢ae鈥檔 bwysig pwysleisio fod y Panel Adolygu Ymarfer Plant yn gwbl annibynnol o Gyngor Gwynedd ac mae'n cael ei gadeirio gan Jan Pickles, sy鈥檔 arbenigwr mewn diogelu plant.

鈥淏ydd yr holl wybodaeth berthnasol sydd yn ein meddiant, neu unrhyw wybodaeth newydd ddaw i'n sylw, yn cael ei gyflwyno yn ei gyfanrwydd i arbenigwyr yr Adolygiad Ymarfer Plant.

鈥淏yddwn yn gwneud beth bynnag sydd ei angen i gynorthwyo arbenigwyr annibynnol yr Adolygiad i gwblhau eu gwaith.

"Mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi ymrwymo'n llwyr i weithredu pob argymhelliad ddaw o鈥檙 broses ar unwaith."

Galw am ymchwiliad cyhoeddus

Clywodd Wales Investigates hefyd bod o leiaf ddwsin o ddioddefwyr Foden yn dwyn achosion cyfreithiol sifil yn erbyn Cyngor Gwynedd - fel y cyngor oedd yn ei gyflogi.

Pe bai'r hawlio am iawndal yn llwyddiannus, mae'r gyfreithwraig sy'n eu cynrychioli yn dweud y gall gostio miliynau o bunnoedd i'r cyngor.

Ffynhonnell y llun, Ffotograffwyr Buchanan

Disgrifiad o'r llun, Mae un dioddefwr wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru iddi gael ei cham-drin gan Neil Foden n么l yn 1979

Yn siarad ar raglen Post Prynhawn 大象传媒 Radio Cymru ddydd Mawrth dywedodd Aelod Arfon yn y Senedd, Si芒n Gwenllian fod angen ymchwiliad cyhoeddus i'r mater.

Dywedodd Cyngor Gwynedd yn eu datganiad ddydd Mercher y byddan nhw'n "croesawu" rhagor o ymchwiliadau.

鈥淔el Cyngor, rydym hefyd wedi datgan yn glir y byddwn yn ymrwymo鈥檔 llwyr i bob ymchwiliad ac adolygiad sydd eu hangen yn sgil yr achos difrifol hwn gan mai ein blaenoriaeth yw sefydlu鈥檙 holl ffeithiau a gwersi i鈥檞 dysgu o hynny," meddai Dyfrig Siencyn.

"Os bydd ymchwiliadau eraill o unrhyw fath yn cael eu sefydlu, byddwn yn croesawu hynny ac yn cefnogi eu gwaith yn llawn."

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd "Adolygiad Ymarfer Plant cynhwysfawr yn cael ei gynnal i鈥檙 achos yma" ac y bydd "y canfyddiadau yn llywio unrhyw benderfyniadau ar gamau ehangach sydd angen eu cymryd, gan gynnwys a oes angen ymchwiliad cyhoeddus llawn".

Datganiad Cyngor Gwynedd yn llawn

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd: 鈥淥'r foment y daeth y troseddau difrifol a gyflawnwyd gan Neil Foden yn erbyn plant i'r amlwg, rwyf wedi fy ysgwyd ac wedi fy mrawychu.

"Mae fy meddyliau'n parhau i fod gyda'r holl ddioddefwyr a'u teuluoedd.

鈥淢ae diogelwch a llesiant pob plentyn a pherson ifanc yng Ngwynedd wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud.

"Gwn fod fy nghyd-aelodau ar Gyngor Gwynedd yn rhannu fy ffieidd-dra ynghylch yr hyn y mae Neil Foden wedi'i wneud a'n bod yn unfryd o鈥檙 farn fod yr hyn a ddigwyddodd i'w ddioddefwyr yn drasiedi na ddylai fyth ddigwydd eto.

鈥淣awr fod y broses droseddol wedi'i chwblhau, a bod Neil Foden dan glo, mae Adolygiad Ymarfer Plant annibynnol wedi'i lansio gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru.

鈥淢ae鈥檔 bwysig pwysleisio fod y Panel Adolygu Ymarfer Plant yn gwbl annibynnol o Gyngor Gwynedd ac mae'n cael ei gadeirio gan Jan Pickles, sy鈥檔 arbenigwr mewn diogelu plant.

鈥淏ydd yr holl wybodaeth berthnasol sydd yn ein meddiant, neu unrhyw wybodaeth newydd ddaw i'n sylw, yn cael ei gyflwyno yn ei gyfanrwydd i arbenigwyr yr Adolygiad Ymarfer Plant erbyn y dyddiad y cytunwyd arno ar gyfer yr holl asiantaethau, sef dydd Gwener, 11 Hydref.

鈥淐am cyntaf o gael cyfiawnder i ddioddefwyr Neil Foden oedd ei euogfarn a'i ddedfrydu.

"Y cam nesaf yw sicrhau fod gwersi'n cael eu dysgu fel nad oes unrhyw blentyn arall yn dioddef camdriniaeth gan droseddwyr fel Neil Foden.

"Rwy'n gobeithio y bydd y gweithredoedd hyn yn helpu i ddod 芒 rhywfaint o dawelwch meddwl i'r dioddefwyr a'u teuluoedd.

鈥淏yddwn yn gwneud beth bynnag sydd ei angen i gynorthwyo arbenigwyr annibynnol yr Adolygiad i gwblhau eu gwaith.

"Mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi ymrwymo'n llwyr i weithredu pob argymhelliad ddaw o鈥檙 broses ar unwaith.

鈥淔el Cyngor, rydym hefyd wedi datgan yn glir y byddwn yn ymrwymo鈥檔 llwyr i bob ymchwiliad ac adolygiad sydd eu hangen yn sgil yr achos difrifol hwn gan mai ein blaenoriaeth yw sefydlu鈥檙 holl ffeithiau a gwersi i鈥檞 dysgu o hynny.

"Os bydd ymchwiliadau eraill o unrhyw fath yn cael eu sefydlu, byddwn yn croesawu hynny ac yn cefnogi eu gwaith yn llawn.

鈥淩ydym hefyd yn annog unrhyw aelodau o'r cyhoedd sydd 芒 gwybodaeth newydd yn ymwneud 芒 chamdriniaeth plant posib i gysylltu鈥檔 uniongyrchol 芒'r Heddlu neu ag Adran Gwasanaethau Cymdeithasol eu cyngor lleol.鈥