Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y golffiwr Brian Huggett wedi marw yn 87 oed
Mae Brian Huggett, y golffiwr o Gymru, a chwaraeodd mewn chwe Chwpan Ryder ac a orffennodd yn ail ym Mhencampwriaeth Agored 1965, wedi marw yn 87 oed.
Dywedodd datganiad a gyhoeddwyd ar ran teulu Huggett ei fod wedi marw yn oriau m芒n fore Sul yn dilyn salwch byr.
Enillodd Huggett, a aned ym Mhorthcawl, 16 o gystadlaethau'r Gylchdaith Ewropeaidd yn ystod ei yrfa, ac ef oedd prif golffiwr Ewrop ym 1968.
Roedd yn gapten t卯m Prydain Fawr ac Iwerddon yng Nghwpan Ryder 1977 - yr olaf cyn i chwaraewyr o weddill Ewrop gymryd rhan.
Roedd Huggett hefyd yn rhan o鈥檙 t卯m ddaeth 芒 Chwpan Ryder i Gymru yn 2010.
Cafodd cyfraniad Huggett i chwaraeon Cymru ei gydnabod pan gafodd ei gynnwys yn Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru yn 2006, a chafodd MBE ym 1978.