Car wedi 'hollti yn ei hanner' pan gafodd tri dyn ifanc eu lladd

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Morgan Smith, Jesse Owen a Callum Griffiths fis Rhagfyr y llynedd
  • Awdur, Iolo Cheung
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae cwest wedi clywed fod car wedi "hollti yn ei hanner" yn dilyn gwrthdrawiad gyda bws a laddodd tri o ddynion ifanc yn eu harddegau.

Bu farw Jesse Owen, 18, Callum Griffiths, 19, a Morgan Smith, 18, yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghoedel谩i, Rhondda Cynon Taf ar 11 Rhagfyr 2023.

Mewn cwest i farwolaethau鈥檙 tri, clywodd y crwner fod archwiliad post mortem wedi canfod bod Jesse Owen, y gyrrwr, dros y terfyn alcohol ar y pryd.

Ond daeth yr uwch grwner Graeme Hughes i'r casgliad ddydd Gwener mai gwrthdrawiad ffordd oedd achos marwolaeth y tri.

Yn gynharach yn y cwest ym Mhontypridd, dywedodd mai canfod sut y buodd y tri farw fyddai鈥檙 bwriad, nid gosod bai ar unrhyw un.

Disgrifiad o'r llun, Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad yng Nghoedel谩i, Rhondda Cynon Taf ar 11 Rhagfyr 2023

Dywedodd y crwner mai'r "cyflymder yr oedd y car yn teithio" oedd y prif ffactor wnaeth gyfrannu at y digwyddiad.

Dywedodd bod ffactorau eraill, fel y ffaith bod Jesse Owen dros y trothwy yfed, a bod y cerbyd yn orlawn, yn "annhebygol" o fod yn ffactor "pwysig" yn achosi鈥檙 gwrthdrawiad.

"Dyw hi ddim yn bosib dweud pryd a sut yn union y collodd Jesse reolaeth ar y cerbyd," meddai Mr Hughes.

Ond ychwanegodd fod y car yn teithio "o leiaf 50mya", ac mai dyna oedd yn esbonio sut i鈥檙 ddamwain gael "canlyniad mor gatastroffig".

Dywedodd y byddai鈥檔 ystyried Adroddiad Atal Marwolaethau鈥檙 Dyfodol, o ystyried ffactorau fel oedran y gyrrwr a鈥檙 amser yr oedd wedi bod yn gyrru, gan gydymdeimlo hefyd gyda theuluoedd y tri.

"Fel rhiant fy hun, alla'i ddim dychmygu鈥檙 galar rydych chi鈥檔 mynd drwyddo," meddai.

Beth ddigwyddodd?

Roedd y dynion ifanc wedi bod yn angladd tad un o鈥檜 ffrindiau, Ellis Williams, y prynhawn hwnnw, cyn mynd i ddwy dafarn.

Pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad, roedd chwech ohonyn nhw yn teithio yng nghar Audi du Jesse Owen, ag yntau鈥檔 gyrru.

Clywodd y cwest fod archwiliad post mortem gan Dr Stephen Leadbeater wedi canfod bod Jesse Owen wedi marw o anafiadau i鈥檙 pen a鈥檙 frest, bod Callum Griffiths wedi marw o ganlyniad i anaf i'r pen, a bod Morgan Smith wedi marw o anafiadau i鈥檙 wyneb a鈥檙 gwddf.

Ychwanegodd y patholegydd fod 113mg o alcohol wedi cael ei gofnodi yng ngwaed Jesse Owen, sydd dros y trothwy cyfreithlon o 80mg am bob 100ml o waed.

Dywedodd un tyst ei fod yn ei gar pan welodd yr Audi yn gyrru heibio 鈥渁r gyflymder鈥.

Er mai 20mya oedd terfyn cyflymder y ffordd honno, dywedodd y tyst ei fod yn amcangyfrif fod y car yn mynd 鈥渢ua 50-60mya鈥, gan ychwanegu ei fod 鈥渆rioed wedi gweld cerbyd yn teithio mor gyflym ar y ffordd honno鈥.

Dywedodd tyst arall, oedd yn cerdded ei gi, fod y car wedi 鈥渉edfan heibio鈥, a鈥檌 fod yn meddwl ei fod yn 鈥渢eithio鈥檔 rhy gyflym鈥.

Roedd y stryd wedi ei goleuo, meddai, ac roedd hi鈥檔 sych ar y pryd er ei bod hi wedi bwrw glaw yn gynharach.

Clywodd y llys ddatganiad gan un ffrind i鈥檙 bechgyn, Hywel Jones, oedd wedi bod gyda nhw yn ystod y prynhawn yn y dafarn.

Dywedodd Mr Jones fod y dynion ifanc eraill wedi cael 鈥渃hwech neu saith鈥 diod, ond ei fod ond yn cofio gweld Jesse Owen yn cael un, gan ei fod yn gweithio鈥檙 diwrnod wedyn.

Clywodd y llys ddatganiad hefyd gan Ellis Williams, oedd yn eistedd yn sedd flaen y car pan ddigwyddodd y ddamwain.

Dywedodd Mr Williams mai 鈥淛esse oedd y gyrrwr saffaf ohonom ni i gyd鈥, a鈥檌 fod wedi bod yn ei gar sawl gwaith.

Roedd Jesse Owen yn cludo鈥檙 bechgyn eraill i鈥檙 dafarn ond ddim yn bwriadu aros, meddai, ac roedd pedwar ohonyn nhw鈥檔 eistedd yn y cefn.

Cyhuddiadau troseddol pe bai wedi goroesi

Cafodd lluniau CCTV eu chwarae i鈥檙 llys yn dangos y car yn y munudau cyn y gwrthdrawiad, yn ogystal 芒'r gwrthdrawiad ei hun o fideo'r bws oedd yn rhan o'r digwyddiad.

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd swyddog heddlu oedd yn rhan o鈥檙 ymchwiliad fod yr Audi wedi croesi鈥檙 llinell yng nghanol y ffordd cyn y gwrthdrawiad, a鈥檌 bod yn edrych fel ei fod wedi 鈥渃olli rheolaeth鈥 cyn taro鈥檙 bws.

Gofynnwyd i鈥檙 swyddog gan y crwner a fyddai Jesse Owen yn debygol o fod wedi wynebu cyhuddiadau troseddol petai wedi goroesi.

Dywedodd y swyddog y bydden nhw鈥檔 debygol o fod wedi ystyried dau gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru鈥檔 beryglus, a dau gyhuddiad o achosi anafiadau difrifol drwy yrru鈥檔 beryglus 鈥 ond nid cyhuddiadau o ddynladdiad.

Ychwanegodd nad oedd y ddau fachgen a gafodd eu hanafu鈥檔 ddifrifol wedi gallu rhoi datganiad am beth ddigwyddodd y noson honno.

'Sylwadau cas yn dyfnhau creithiau'

Mewn datganiad ar ol casgliad y crwner brynhawn Gwener, dywedodd teulu Jesse Owen: 鈥淩oedd Jesse yn dod 芒 gymaint o lawenydd, chwerthin a charedigrwydd i鈥檔 bywydau ni bob dydd.

鈥淢ae'r hyn ddigwyddodd y noson honno wedi gadael craith yn ein calonnau - un fydd byth yn gwella.

鈥淩ydym yn deall y boen, y dicter a'r dryswch y mae llawer yn ei deimlo, ond mae sylwadau cas yn gallu dyfnhau creithiau i bawb sydd yn galaru.

"Wrth i ni geisio dod i'r afael 芒'r golled yma, gadewch i ni ddewis caredigrwydd a chydymdeimlad."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd mam Callum Griffiths nad oedd hi am iddo "fod yn ystadegyn arall"

Yn siarad y tu allan i'r llys, galwodd mam Callum Griffiths am newidiadau ar gyfer trwydded yrru gyrwyr newydd.

"Roedd Callum yn anrheg. Roedd yn fraint bod yn rieni iddo, ac rydym yn trysori'r 19 mlynedd y cawsom i wneud atgofion fel teulu.

"Rydyn ni'n ymgyrchu am fersiwn Brydeinig o drwydded yrru gyrwyr newydd.

"Yn anffodus, nid yw stori Callum a'i ffrindiau yn unigryw. Nid ydym am adael i Callum fod yn ystadegyn arall."

Meddai Amy Smith, modryb Morgan Smith: "Fydd geiriau fyth yn ddigon i ddisgrifio'r poen rydym yn ei wynebu, a faint rydym yn hiraethu am ein bachgen prydferth.

"Dwi'n gobeithio na fydd teulu arall yn gorfod mynd drwy hynny."