Cadarnhau cau ffatri yn Y Fflint, gan golli 200 swydd

Disgrifiad o'r llun, Mae Kimberly-Clark yn cyflogi tua 220 o bobl yn eu ffatri yn Y Fflint

Bydd cannoedd o bobl yn colli eu swyddi wedi i'r cwmni cynnyrch papur Kimberly-Clark gadarnhau eu bod yn cau eu ffatri yn Sir Y Fflint.

Mae'r cwmni'n cyflogi tua 220 o weithwyr yn nhref Y Fflint ac yn cynhyrchu nwyddau sy'n cynnwys brandiau amlwg fel hancesi papur Kleenex a chewynnau Huggies.

Mae undeb Unite wedi beirniadu'r penderfyniad yn hallt, gan ddweud y byddai'n "ddinistriol" i'r dref.

Dywed y cwmni nad yw'n gallu sicrhau cynnyrch heb blastigion erbyn canol 2026 yn unol 芒 gofynion Llywodraeth y DU, a bod dyfodol y safle o'r herwydd yn anghynaladwy.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hyn yn amlwg yn newyddion ingol i weithwyr Kimberly Clarke, eu teuluoedd a'u cymunedau lleol.

"Rydym yn barod i gynnig cefnogaeth i'r gweithlu sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniad yma."