Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Anniogel a digalon' gweithio yn uned m芒n anafiadau Llanelli
- Awdur, Sara Dafydd
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae gweithio mewn uned m芒n anafiadau ysbyty yng ngorllewin Cymru yn gallu teimlo鈥檔 鈥渂eryglus鈥, yn 么l un nyrs yno.
Bwriad unedau fel yr un yn Ysbyty Tywysog Phillip, Llanelli yw trin cleifion sydd ag anafiadau llai difrifol.
Ym mis Medi fe gyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda y bydd yr uned yn cau dros nos am gyfnod o chwe mis o fis Tachwedd ymlaen, ond mae 'na bryder y gall newid o'r fath beryglu bywydau.
Yn 么l y bwrdd iechyd, mae鈥檙 penderfyniad yn un dros dro 鈥済yda鈥檙 bwriad o gadw staff a chleifion yn ddiogel鈥.
Yn yr uned m芒n anafiadau mae meddygon teulu a nyrsys yn darparu gofal i bobl sydd ag anafiadau sydd ddim yn peryglu bywyd.
Serch hynny, mae staff yn dweud bod cleifion gydag anafiadau difrifol yn dal i ddod i鈥檙 ysbyty.
Mae Claire Thomas yn uwch ymarferydd nyrsio ac wedi gweithio yn yr uned am 25 mlynedd.
鈥淩oedd un diwrnod wythnos ddiwethaf lle'r oedd chwech [achos o] chest pain wedi bwcio mewn, ac wedyn chi鈥檔 dechrau becso achos chi鈥檔 meddwl 鈥榚fallai bydd un ohonyn nhw鈥檔 cael trawiad ar y galon鈥," meddai.
"Felly chi鈥檔 meddwl 鈥榙wi鈥檔 gorfod brysio鈥 a chi鈥檔 becso wedyn bo' chi鈥檔 mynd i golli rhywbeth.鈥
Er bod y nyrsys yn brofiadol, meddai Ms Thomas, nid oes ganddyn nhw鈥檙 sgiliau i ddelio gyda rhai anafiadau, ac mae hynny'n gallu bod yn 鈥渂eryglus鈥.
鈥淢ae hynny鈥檔 gallu rhoi llawer o bwysau arnom ni,鈥 ychwanegodd.
'Lle digalon i weithio'
Dr Jon Morris yw arweinydd clinigol yr uned, ac mae'n dweud 鈥渂od rhaid i rywbeth newid鈥.
鈥淢ae鈥檔 gallu bod yn le digalon i weithio, ac anniogel,鈥 meddai.
鈥淒wi鈥檔 aml yn gadael fan hyn yn becso mod i wedi gwneud y peth anghywir neu ddim digon, a bydd cleifion yn y pendraw yn dod i niwed.鈥
Yn 么l y bwrdd iechyd, er nad oedd yn benderfyniad hawdd, mae鈥檔 rhaid cau'r uned dros nos oherwydd problemau staffio.
Ychwanegodd Dr Morris: 鈥淣i wedi recriwtio 15 o ddoctoriaid dros y 12 mis diwethaf, ond yn aml maen nhw鈥檔 dod i鈥檙 uned, gweld sut mae鈥檔 gweithio ac wedyn dydyn nhw ddim eisiau shifftiau.鈥
Fe gaeodd uned gofal brys yr ysbyty yn 2016, ac mae鈥檙 bwrdd iechyd yn cynghori pobl i deithio i unedau gofal brys Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin neu Dreforys yn Abertawe.
Byddai m芒n anaf yn cynnwys torri esgyrn, m芒n glwyfau neu losgiadau.
Fe aeth Joanne Nicholas, 35 o Lanelli, i鈥檙 uned wedi iddi dorri ei bys ar ddarn o wydr wrth olchi llestri.
鈥淢ae mor bwysig i ni gyd. Mae鈥檙 uned lan yr heol, os bydde鈥 fe鈥檔 cau byddai鈥檔 siwrne hir i Gaerfyrddin neu Dreforys.鈥
Roedd Kay Rickett, 62, o Gydweli wedi profi 鈥減oen eithriadol鈥 yn ei phen-glin wrth chwarae bingo gyda鈥檌 ffrind, a byddai ambiwlans wedi cymryd wyth awr i鈥檞 chyrraedd meddai.
鈥淥s ti鈥檔 cau llefydd fel hyn, dwi鈥檔 meddwl bydd pobl yn cael problemau difrifol neu hyd yn oed yn marw.鈥
'S'dim ots gyda nhw am Lanelli'
Mae protestwyr wedi bod yn gwersylla y tu allan i'r ysbyty er mwyn dangos eu hanfodlonrwydd 芒 phenderfyniad y bwrdd iechyd.
Mae Neville Gilasbey yn gwirfoddoli gyda gr诺p SOSSPAN.
鈥淢ae鈥檔 edrych fel dydyn nhw ddim yn meddwl am y gymuned o gwbl, s鈥檇im ots gyda nhw am Lanelli," meddai.
鈥淢ae siwd gymaint o bobl yn byw yn yr ardal, sy鈥檔 dibynnu ar yr ysbyty yma. S鈥檇im pawb gyda char neu鈥檔 gallu fforddio tacsi.鈥
O fis Tachwedd fe fydd yr uned ar agor rhwng 08:00 ac 20:00 yn unig.
Roedd y penderfyniad i gau dros nos, er yn anodd, yn anochel oherwydd problemau staffio, yn 么l Dr Robin Goshal, cyfarwyddwr meddygol Ysbyty Tywysog Phillip.
鈥淣i鈥檔 barod ar ei h么l hi o ran recriwtio. Ni wedi cynnal gwahanol fentrau i geisio recriwtio yma a thramor.鈥
Awgrymodd y dylai cleifion fynd i鈥檙 ysbyty mwyaf addas ar gyfer eu hanaf: 鈥淒ydy e ddim wastad yn golygu鈥檙 ysbyty ar eich stepen drws.
鈥淵 lle cywir yw lle mae鈥檙 doctoriaid a nyrsys gyda鈥檙 sgiliau cywir. Gall hynny fod yng Nglangwili, mewn rhai achosion gall hynny fod yn Nhreforys neu hyd yn oed Caerdydd.鈥
Ychwanegodd: 鈥淒yna sut mae鈥檙 gwasanaeth iechyd yn newid. Bydd yna newidiadau ledled Cymru yn nhermau beth sy鈥檔 cael ei ddarparu mewn ysbytai penodol.
"Dydy popeth ddim yn gallu cael ei ddarparu ym mhobman, fe aeth y dyddiau hynny sbel yn 么l.鈥
Dadansoddiad
Owain Clarke, Gohebydd Iechyd 大象传媒 Cymru
Dyma enghraifft unwaith eto o'r effaith mae prinder staff yn ei gael ar rannau o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Mae'r uned yn Llanelli yn gweld tua 31,000 o gleifion y flwyddyn, ond yn 么l y bwrdd iechyd, oherwydd prinder meddygon, fe wnaethon nhw fethu a llenwi 42 o sifftiau yno rhwng Chwefror a Mehefin eleni.
Mae'n wir i ddweud bod gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda heriau sylweddol o ran staffio, gyda chyfraddau swyddi gwag ymhlith meddygon a deintyddion yn agos at 20%.
Ond dyw hon ddim yn her newydd. Nol yn 2011 pan gafodd y cynlluniau eu cyhoeddi i droi uned frys yn Ysbyty Tywysog Philip yn uned m芒n anafiadau, dadl y rheolwyr bryd hynny oedd bod rhai gwasanaethau wedi eu "gwasgaru yn rhy denau".
Yr addewid ers hynny yw y byddai canoli gwasanaethau - gan gynnwys mewn ysbyty newydd ar gyfer gorllewin Cymru -聽yn gymorth wrth recriwtio ac yn gosod pethau ar sylfaeni cryfach.
Ond fydd hi'n flynyddoedd eto cyn y gwelwn ni'r ysbyty newydd hwnnw.
Gyda'r heriau yn parhau, efallai nad yw'n syndod fod rhai cymunedau yn teimlo'n anfodlon os ydyn nhw'n teimlo eu bod yn colli gwasanaethau heb fawr ddim i'w weld yn dychwelyd.