'Dechrau'r diwedd?' - Pryder am ddyfodol ward plant Bronglais

Ffynhonnell y llun, Colin Harding

Disgrifiad o'r llun, Mae teulu Colin a Gwerfyl Harding ymhlith nifer sy'n poeni am ddyfodol Ward Angharad
  • Awdur, Megan Davies
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae rhieni nifer o blant sydd wedi cael eu trin yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth yn dweud eu bod yn pryderu am ddyfodol y gwasanaethau yno yn sgil y newyddion y bydd capasiti'r ward blant yn lleihau fis nesaf.

"Be' sy'n poeni fi 'di mai dyma gychwyn, 'falle, y diwedd," meddai un tad.

O fis Tachwedd bydd nifer y gwl芒u ar y ward blant yn gostwng o naw i bump am gyfnod o chwe mis, a hynny yn sgil heriau staffio.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn "deall y bydd rhai rhieni'n bryderus" am y newidiadau ond y byddan nhw'n parhau i "gynnig y gofal gorau".

Roedd mab Colin Harding o Fachynlleth wedi treulio wythnosau ar Ward Angharad yn dilyn heriau gyda'i bendics.

Yn 么l Colin, roedd ef a'i wraig Gwerfyl yno "dydd a nos" yn cysgu mewn cadair wrth ochr gwely Welan, 12 oed.

"Roedd 'na waith trafeilio n么l a 'mlaen. Mae'n 20 milltir lawr 'na, 20 milltir n么l i ni."

Ond "cysur" oedd gwybod, meddai Colin, bod modd cael gofal gan "staff bendigedig" yn Aberystwyth.

Tra bydd gofal yn dal i fod ar gael ar y ward, yn 么l Bwrdd iechyd Hywel Dda, bydd plant s芒l iawn yn cael eu trosglwyddo i Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Pryder Mr Harding yw bod gorfod teithio i ysbytai eraill yn rhwystr i nifer yn ddaearyddol.

"Chi'n s么n am siwrne o awr, awr a hanner i Aberystwyth o Dywyn heb s么n am orfod trafeilio ymhellach," meddai.

"Pan ma' rhywbeth wedi digwydd, chi eisiau cael rhywun i ysbyty mor fuan 芒 phosib."

Ffynhonnell y llun, Colin Harding

Disgrifiad o'r llun, Roedd Colin a'i gymdogion yng Nghemaes wedi cyflwyno siec i'r ward yn dilyn her seiclo

Wedi i Welan wella, fe wnaeth Colin a'i ffrindiau drefnu taith seiclo o Wolverhampton i Aberdyfi er mwyn codi arian ar gyfer Ward Angharad.

Llwyddodd y criw i gasglu 拢10,000 dros yr haf.

"Dwi'n teimlo'n flin iawn dweud y gwir ar 么l beth sy'n mynd ymlaen, r诺an bod yr holl arian wedi cael ei gasglu."

Pryder Mr Harding yw bod mwy o doriadau ar y gorwel i'r ward.

"Os 'dy nhw'n cychwyn hyn r诺an, beth sydd mynd i fod mewn blwyddyn?"

Ffynhonnell y llun, Judy Morgan

Disgrifiad o'r llun, Mae Judy Morgan yn un sy'n ymgyrchu er mwyn gwarchod Ward Angharad

Dwy arall sy'n benderfynol o warchod y gwasanaethau yw Judy Morgan a Cerys Humphreys.

Ar 么l clywed bod capasiti Ward Angharad yn lleihau am gyfnod, fe benderfynodd y ddwy fam o Aberystwyth greu darn o gelf mewn protest.

Yn ffotograffydd proffesiynol, gofynnodd Judy Morgan i rieni'r ardal rannu llun o'u plant a manylion eu profiadau yn Ysbyty Bronglais.

"Roeddwn i'n meddwl mai'r ffordd orau o gael sylw pobl yw'r ffordd weledol," meddai Ms Morgan, sydd wedi defnyddio mwy na 50 o ddelweddau o gleifion ifanc i wneud collage.

Ffynhonnell y llun, Judy Morgan

Disgrifiad o'r llun, Mae Judy Morgan a Cerys Humphreys wedi creu darn o gelf mewn protest

"Roedd yna lawer o straeon," meddai Ms Morgan.

"Roedd yna blant oedd angen mynediad agored i'r ward oherwydd eu bod nhw'n cael triniaethau fel cemotherapi, sy'n amlwg yn ddinistriol.

"Roedd un o'r straeon yn drist iawn - roedd angen llawdriniaeth ar yr ymennydd ar blentyn, ac oni bai am Ward Angharad, doedd y teulu ddim yn gwybod beth fyddai wedi digwydd."

'Lle diogel' sy'n 'cynnig sicrwydd'

"Byddai'n gwbl ddinistriol," meddai Cerys Humphreys - mam i ferch 16 mis oed sydd wedi bod yn glaf yng Nghaerdydd, Bryste a Chaerfyrddin.

Dywedodd fod teithio i gael y gofal yr oedd ei angen ar ei babi yn "niweidiol yn ariannol" i'w theulu.

Ychwanegodd Ms Humphreys fod cyfleustra daearyddol Ward Angharad, ynghyd 芒'r ffaith bod y staff yno yn adnabod anghenion ei merch yn dda, yn "amhrisiadwy" ac yn "cynnig sicrwydd".

Dywedodd Ms Morgan fod teuluoedd o ymhellach i ffwrdd, o ardaloedd fel Tywyn, wedi cyfrannu at y gwaith celf, gan rannu eu pryderon bod ysbytai amgen fel Bangor a Chaerfyrddin oriau i ffwrdd yn y car.

Ychwanegodd fod Ward Angharad yn "le diogel" i bobl gael gofal yn "agos i'w cartrefi".

Pan oedd ei phlant hi angen gofal yng Nghaerfyrddin, dywedodd Ms Morgan fod rhannu ei hamser rhwng Aberystwyth a'r ysbyty wedi cael "effaith enfawr" ar ei hiechyd meddwl.

鈥淩oedd yn anodd iawn mynd trwy鈥檙 holl emosiynau hynny, yr holl feddyliau hynny, wrth fod oddi cartref.鈥

'Gwerthfawrogi y bydd hyn yn anodd'

Dywedodd Lisa Humphrey, rheolwr cyffredinol gwasanaethau merched a phlant ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda y "bydd mwyafrif y rhai sy'n mynychu yn parhau i dderbyn gofal yn Ysbyty Bronglais am hyd at 24 awr".

Ychwanegodd y bydd niferoedd bach yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

鈥淩ydym yn gwerthfawrogi y bydd hyn yn anodd i rai teuluoedd sy鈥檔 byw ymhellach i ffwrdd, ond mae ein modelu yn dangos bod y niferoedd hyn yn debygol o fod yn fach a byddwn yn cynnig y gofal a鈥檙 cymorth gorau i deuluoedd yn ystod eu hamser gyda ni.鈥