Annog meddygon Cymru i dderbyn cynigion t芒l newydd

Disgrifiad o'r llun, Mae cynigion diweddaraf Llywodraeth Cymru ar yr un lefel 芒'r rhai a ddaeth ag anghydfod meddygon i ben yn Yr Alban

Mae'r corff sy'n cynrychioli meddygon yng Nghymru yn argymell derbyn cynigion t芒l diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Fe allai'r cynnig ddod ag anghydfod dros d芒l ac amodau i ben yng Nghymru, tra bod gweithredu diwydiannol yn parhau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Dywed BMA Cymru bod yna gynigion ar wah芒n ar gyfer tri gr诺p meddygol - meddygon iau, meddygon SAS (Arbenigwyr, Arbenigwyr Cyswllt ac Arbenigedd) a meddygon ymgynghorol.

Bydd pleidlais yn cael ei chynnal ymhlith aelodau rhwng 12 a 26 Mehefin.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wir yn gweld gwerth staff nyrsio Cymru, sy'n gwneud cymaint i edrych ar 么l ac i roi gofal sy'n achub ac yn newid bywydau, yn aml o dan bwysau mawr."

Mae cynnydd ychwanegol o 7.4% ar gynnig yn achos meddygon iau, sy'n golygu bod y codiad cyflog ar gyfer 2023-24 bellach yn 12.4% - yr un lefel a gafodd ei derbyn yn Yr Alban.

Cynnydd o hyd at 10.1% sy'n cael ei gynnig yn achos rhai meddygon ymgynghorol.

Yn achos mae'r cynnig o ran cytundebau mwy diweddar yn cynnwys codiad rhwng 6.1% a 9.2% yn ogystal 芒 chodiad ychwanegol ar gyfer arbenigwyr cyswllt 芒 chytundebau cae毛dig.

Mae'r cynigion yn dilyn 10 diwrnod o weithredu diwydiannol gan feddygon iau.

Roedd meddygon uwch wedi bwriadu streicio hefyd ym mis Ebrill ond fe gafodd y streiciau eu gohirio yn dilyn cytundeb i gynnal mwy o drafodaethau.

Disgrifiad o'r llun, Meddygon iau ar streic yng Nghaerdydd yn gynharach eleni dros d芒l ac amodau gwaith

Dywed cadeiryddion Pwyllgor Meddygon Iau BMA Cymru bod y cynnig diweddaraf "yn ein rhoi ymhell ar y ffordd at adfer lefelau t芒l" yn dilyn "blynyddoedd o erydu i ein t芒l".

Ychwanegodd Dr Oba Babs Osibodu a Dr Peter Fahey: "Rydym felly yn annog aelodau i bleidleisio i dderbyn y cytundeb yma."

Dywedodd cadeirydd Pwyllgor Meddygon Ymgynghorol y BMA yng Nghymru, Dr Stephen Kelly eu bod "yn falch o fod wedi gallu dod i gytundeb... sy'n parchu ein mandad streicio ysgubol ac yn cynnig gwelliannau sylweddol yn nh芒l meddygon ymgynghorol ar draws eu gyrfaoedd".

Roedd pleidleisio i fynd ar streic "yn benderfyniad anodd iawn i'n haelodau", yn 么l cadeirydd pwyllgor y meddygon SAS, Dr Ali Nazir, ond fe wnaethon nhw hynny "i sefyll dros eu hunain a'u cydweithwyr".

Trwy wneud hynny, ychwanegodd, fe wnaethon nhw gyfrannu "at sicrhau gwell ddyfodol ar gyfer meddygon SAS yng Nghymru".

"Rydym yn annog aelodau i dderbyn y cynnig yma."

Ymgais i 'sicrhau cysondeb a thegwch'

Mewn datganiad ar y cyd, fe bwysleisiodd Ysgrifennydd Addysg Cymru, Eluned Morgan, a'r Prif Weinidog, Vaughan Gething, bod y cynigion 鈥渁r derfyn yr hyn y gallwn ei fforddio".

Mae'r datganiad yn nodi bod y cynnig wedi ei dderbyn gan feddygon yn Yr Alban.

Mae hefyd yn dweud y bydd yna newid i strwythr cyflogau meddygon ymgynghorol er mwyn gwella'r siawns o'u penodi a'u cadw.

Mae'r cynnig hefyd yn anelu at fynd i'r afael ag anghysonderau o fewn y cytundebau presennol yn achos meddygon SAS "er mwyn sicrhau cysondeb a thegwch".

Os fydd aelodau BMA Cymru yn derbyn y cynigion, fe fyddai'n dod 芒 gweithredu diwydiannol i ben yng Nghymru.

Mae anghydfod debyg yn parhau yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon.

Nyrsys wedi eu 'gadael i lawr'

Mae nyrsys wedi ymateb yn flin i'r cynnig i feddygon, gyda Choleg Nyrsio Brenhinol Cymru'n dweud eu bod nhw'n gynddeiriog bod arian wedi dod i'r amlwg, a byddant nawr yn ceisio cael cyfarfod brys gyda gweinidogion.

Dywedodd Helen Whyley, cyfarwyddwr gweithredol yr undeb, eu bod wedi eu "gadael i lawr a'u camarwain", a bod addewidion fod "dim arian ar 么l yn y pot ar gyfer cyflogau staff nyrsio'r GIG unai yn anwir neu yn dangos na allant reoli eu cyllid".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru eu bod nhw'n gynddeiriog mai doctoriaid yn unig sydd wedi cael y cynnig

Dywedodd Ms Whyley bod y Prif Weinidog wedi "siarad am ei gefnogaeth i staff nyrsio" wrth agor cyngres flynyddol yr undeb yng Nghasnewydd ar 2 Mehefin.

"Mae'n dangos bod cefnogaeth ei lywodraeth yn aer poeth yn unig a bod dim ymrwymiad go iawn.

"Mae ei lywodraeth wedi methu 芒 chyflawni'r addewidion a wnaed i nyrsys yng ngwobrau t芒l blwyddyn ddiwethaf, a r诺an maen nhw'n rhwbio halen yn y briw wrth gynyddu gwobr t芒l doctoriaid am 2023-24".

Dywedodd Ms Whyley bod cyfarfod blynyddol o aelodau ar draws y DU wedi codi'r mater o staffio anaddas, cleifion yn cael eu trin mewn coridorau a phwysau pellach sy'n creu straen mawr ar staff.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wir yn gweld gwerth i dasglu nyrsio Cymru, sy'n gwneud cymaint i edrych ar 么l ac i roi gofal sy'n achub ac yn newid bywydau, yn aml o dan bwysau mawr.

"Rydym wastad wedi bod yn agored ac yn glir am gyllid Llywodraeth Cymru yn ein trafodaethau gyda Choleg Brenhinol y Nyrsys ag undebau eraill. A byddwn yn parhau wrth i ni gydweithio mewn partneriaeth gyda holl undebau llafur y gwasanaeth iechyd."

Ymateb y gwrthbleidiau

Wrth ymateb i gynnig Llywodraeth Cymru, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies fod y Llywodraeth Lafur wedi "honni nad oedd arian i gyrraedd y cynnig t芒l".

"Mae'n amlwg fod yr arian wastad wedi bod yna ac erbyn hyn mae rhestrau aros hiraf erioed Cymru wedi gwaethygu".

Wrth groesawu'r newyddion, fe ddywedodd Mabon ap Gwynfor AS, llefarydd iechyd Plaid Cymru: "Mae ein gwasanaeth iechyd yn ddim byd heb ei staff ymroddedig ac felly mae ond yn iawn eu bod yn cael eu gwobrwyo fel hynny.

"Mae'n bwysig nawr bod trafodaethau'n parhau a bod Llywodraeth Lafur Cymru yn darparu ymrwymiad hirdymor ar gyfer adfer cyflogau llawn fel nad oes rhaid i staff gweithgar y GIG ystyried gweithredu diwydiannol eto."