Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galwad i 'flaenoriaethu' ymchwil tiwmor yr ymennydd
- Awdur, Ruth Roberts
- Swydd, Newyddion S4C
Gyda thros 400 o bobl yn cael diagnosis o diwmor yr ymennydd yng Nghymru bob blwyddyn, ma' un elusen canser yn dweud bod angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu ymchwil i'r cyflwr.
Yn wahanol i sawl math arall o ganser dyw cyfraddau goroesi tiwmor yr ymennydd ddim wedi gwella llawer dros y degawdau diwethaf.
Mae Nathan Ifans o Gaerdydd yn derbyn triniaeth cemotherapi ar hyn o bryd. Mae o鈥檔 cefnogi galwad yr elusen ac yn benderfynol o wneud gwahaniaeth.
Tra ar ei fis m锚l yn Siapan flwyddyn yn 么l, fe newidiodd bywyd Nathan a鈥檌 deulu dros nos.
鈥淩oedd bywyd yn gr锚t. Roedd gwaith yn mynd yn dda, a 鈥檓hlentyn cyntaf ar y ffordd.
鈥淕es i seizure a 'nes i ffindio mas bod gen i diwmor ar yr ymennydd. Digwyddodd mor gloi, o鈥檔 ni ben draw鈥檙 byd, nath e fwrw ni鈥檔 galed achos da鈥檛h e mas o unman,鈥 meddai.
Yn byw yng Nghaerdydd gyda鈥檌 deulu ifanc 鈥 ei wraig Bethan a鈥檜 plentyn Begw - mae meddwl am y dyfodol yn ei boeni.
鈥淢ae鈥檔 gallu bod yn eitha tywyll ambell ddiwrnod os dwi鈥檔 onest. Ma鈥 edrych ar Begw yn cael fi trwy lot o鈥檙 diwrnodau ond hefyd ma' meddwl am y dyfodol鈥dw i鈥檔 mynd i golli mas ar rywbeth.. ma鈥 stwff felna yn rili anodd.鈥
Yn gynharach yn y flwyddyn fe wnaeth Ymchwil Canser Cymru greu rhaglen i ariannu gwaith ymchwil i鈥檙 cyflwr.
Yn 么l Iwan Roberts sy鈥檔 gweithio i鈥檙 elusen 鈥渕ae yna angen dyrys ar gyfer mwy o waith ymchwil ar gyfer darganfod triniaethau sy鈥檔 mynd i gadw pobl yn fyw yn hirach, triniaethau sydd yn fwy caredig iddyn nhw a hefyd mae angen gwell dealltwriaeth o鈥檙 cyflwr yn gyffredinol".
Bydd y rhaglen, sy鈥檔 bwriadu buddsoddi hyd at 拢1 miliwn bob blwyddyn ar gyfer astudio tiwmorau鈥檙 ymennydd, yn dod 芒 gwyddonwyr, clinigwyr a niwrolawfeddygon o bob rhan o Gymru at ei gilydd i gydweithio.
Er bod ymchwil yn gwella, mae鈥檙 elusen a Nathan am weld mwy o ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ariannu ymchwil fel nad ydi鈥檙 pwysau i gyd ar elusennau.
鈥淢ae鈥檙 buddsoddiad wedi bod yn isel iawn. Dros y 30 mlynedd diwetha鈥, prin iawn ma' na driniaethau newydd wedi cael eu datblygu a鈥檜 cyflwyno felly fyswn i鈥檔 hoffi gweld bod ariannu gwaith ymchwil yn flaenoriaeth hefyd i鈥檙 Llywodraeth fel ein bod yn gallu dod a gobaith i bobl yng Nghymru sy鈥檔 byw gyda canser.
鈥淔i鈥檔 credu dylai ymchwil mewn i diwmor yr ymennydd fod yn flaenoriaeth i鈥檙 llywodraeth. Mae鈥檔 anodd credu mai elusennau sy鈥檔 gorfod ffeindio ffordd o ariannu'r holl ymchwil yma.聽 Dydyn nhw ddim yn gwneud digon felly ma angen i ni weiddi a sgrechian er mwyn i鈥檔 lleisiau ni gael eu clywed.鈥
'Ymchwil sylweddol'
Wrth ymateb, mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn buddsoddi mewn ymchwil canser blaengar yng Nghymru.
Mae 鈥檔a ymchwil sylweddol yn digwydd medden nhw o fewn sefydliadau鈥檙 gwasanaeth iechyd - sy鈥檔 cynnwys treialon sy鈥檔 edrych ar 鈥渄deall achosion canser yr ymennydd鈥.
Maen nhw hefyd wedi pwysleisio y gall ymchwilwyr yng Nghymru wneud 鈥渃ais am gyllid鈥 i gefnogi eu hymchwil.