大象传媒

'Diolch i Dai Jones am yr ysbrydoliaeth'

Meinir Howells a Dai JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Meinir Howells a'r diweddar Dai Jones

  • Cyhoeddwyd

I ferch fferm oedd yn hoff o sgwrsio a鈥檌 bryd ar fod yn gyflwynydd, does ryfedd mai Dai Jones Llanilar oedd ysbrydoliaeth Meinir Howells pan oedd hi'n iau.

Er ei bod hi鈥檔 wyneb cyfarwydd i wylwyr Ffermio a rhaglen Y Sioe erbyn hyn, doedd camu o fyd amaeth i fynd o flaen y camer芒u ddim yn daith syml i鈥檙 ferch o gefn gwlad Caerfyrddin.

Ond fel eglurodd ar raglen Beti a鈥檌 Phobol roedd ganddi freuddwyd, a鈥檙 amaethwr a chyflwynydd o Lanilar wnaeth blannu鈥檙 hadyn gyntaf a鈥檌 hysbrydolodd.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Meinir Howells

Meddai Meinir: 鈥淔i鈥檔 cofio bod yn groten ifanc yn gwylio Cefn Gwlad a rhaglenni o鈥檙 Sioe Frenhinol a jest meddwl 鈥榳aw dwlen i gael job fel fe鈥 (Dai Jones) - yn mynd rownd o amgylch Cymru yn busnesan ar ffermydd pobl eraill a gweld sut oedd pobl yn ffermio. Wel roedd e yn dream job yn doedd i rywun oedd yn joio ffarmo shwt gymaint.

鈥淏eth oedd yn fy mhen i oedd byddwn i yn dwli cyflwyno, gwneud beth oedd Dai Jones yn 'neud, ond byth yn meddwl bod e鈥檔 bosib.

鈥淩o鈥檔 i鈥檔 byw yng nghanol nunlle yng nghanol y wlad, oedd dim cysylltiadau uniongyrchol 鈥榙a fi yn y byd teledu, dim perthynas gyda fi oedd yn gweithio yn y cyfryngau, o'n i ddim yn nabod lawer oedd yn gweithio yn y diwydiant.

鈥淥鈥檔 i wastad yn meddwl o鈥檔 i鈥檔 byw yn y lle anghywir - bod popeth yn digwydd yng Nghaerdydd ac wedi hanner jest gweud 鈥榙yne fe, bydd y freuddwyd byth yn cael ei wireddu, wn芒i fynd i ffermio鈥.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Meinir wedi bod yn cyflwyno ers dros 10 mlynedd bellach

Fe gafodd Meinir ei magu ar fferm Maes Teilo yng Nghaerfyrddin, ac roedd yn aelod brwd o鈥檙 Ffermwyr Ifanc am flynyddoedd.

Er iddi gael profiad gwaith gyda chwmni teledu Telesgop tra鈥檔 ddisgybl yn Ysgol Tregib, Llandeilo, doedd hi ddim yn credu bod dyfodol iddi yn y cyfryngau.

Penderfynodd fynd i astudio amaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth tan iddi newid ei meddwl ychydig ddyddiau cyn mynd, a hynny ar 么l iddi gael sgwrs efo鈥檌 deintydd. Ei gyngor iddi oedd gwneud y mwya鈥 o鈥檌 hamser yn y coleg a chael profiad mewn maes gwahanol i鈥檙 diwydiant roedd hi mor gyfarwydd ag o 鈥 ac felly newidiodd ei meddwl ac astudio Cymraeg, Ffilm a Theledu.

Tra鈥檔 fyfyriwr fe gafodd waith yn y byd teledu fel rhedwr yn ystod y Sioe Frenhinol, a gyda鈥檌 chyfnod yn y coleg ar fin dod i ben fe gafodd gynnig swydd gyda chwmni Telesgop fel ymchwilydd - a鈥檌 derbyn.

Fe gafodd y cyfle i gyflwyno am y tro cyntaf o gwmpas 2012 ac erbyn heddiw mae hi鈥檔 wyneb cyfarwydd ar Ffermio ac yn darlledu o鈥檙 Sioe Fawr. Y llynedd bu鈥檔 cyflwyno yn Saesneg am y tro cyntaf ar raglen 大象传媒 Food Fest Wales ac ar hyn o bryd mae hi a鈥檌 theulu yng nghanol ffilmio trydedd gyfres Teulu Shadog, rhaglenni 鈥榩ry ar y wal鈥 o鈥檜 bywyd ar eu fferm yn Llanwenog, Ceredigion.

Mae Meinir erbyn hyn felly yn rhannu ei hamser rhwng gweithio ar y fferm a gweithio yn y byd teledu 鈥 yn union fel oedd Dai Jones yn ei wneud.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y diweddar Dai Jones gydag Osian, mab Meinir

Ac mae hi鈥檔 diolch i鈥檙 cyflwynydd unigryw nid yn unig am ei hysbrydoli i ddilyn trywydd tebyg ond am ei angerdd tuag at amaeth.

Meddai: 鈥淩oedd e鈥檔 llysgennad heb ei ail i鈥檙 diwydiant amaethyddol,鈥 meddai. 鈥淏le bynnag ewch chi roeddech chi鈥檔 cael y cwestiwn 鈥榦h, do you know Dai Jones?鈥 - roedd pawb yn holi am Dai Jones a ni wedi bod yn ffodus iawn i gael e yng Nghymru.

鈥淢ae e wedi gwneud gymaint o waith arbennig dros y diwydiant, yr iaith a鈥檙 diwylliant fan hyn yng Nghymru.鈥

A does yna ddim syndod felly beth ydi un o鈥檌 dewisiadau cerddoriaeth ar Beti a鈥檌 Phobol - llais tenor Dai Jones.

Pynciau cysylltiedig