Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Canfod corff wrth chwilio am ddyn aeth ar goll yn Afon Teifi
Mae corff dyn yn ei 20au wedi cael ei ganfod yn ardal Aberteifi dros nos yn dilyn ymgyrch gan y gwasanaethau brys i chwilio am gan诺iwr oedd wedi mynd ar goll.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ardal tua 19:45 nos Iau yn dilyn adroddiadau bod person yn y d诺r.
Dywed Heddlu Dyfed-Powys Police bod y corff heb gael ei adnabod yn swyddogol ond mae perthnasau'r can诺iwr wedi cael gwybod.
Mae swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i'r teulu.
Fe gafodd y corff ei ddarganfod tua 01:00 fore Gwener, rai oriau wedi i'r chwilio ddechrau.
Roedd hofrennydd Gwylwyr y Glannau, bad achub RNLI Aberteifi, timau achub Aberteifi a Threwyddel, yr heddlu a chriwiau t芒n ac achub yn rhan o'r ymdrech.
Fe alwodd Heddlu Dyfed-Powys ar y cyhoedd i gadw draw o'r ardal tra bo'r chwilio yn mynd rhagddo.
Dywedodd Gwasanaeth T芒n ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod criwiau wedi eu hanfon i'r ardal o orsafoedd Hwlffordd, Caerfyrddin, Aberteifi a Chrymych.
Aeth dau d卯m o achubwyr ar yr afon mewn cychod er mwyn chwilio am y person coll wrth i gydweithwyr archwilio hyd glannau'r afon.
Roedd y can诺iwr yn dal ar goll pan benderfynwyd, yn dilyn cyfarfod am 23:23 nos Iau, bod hi'n bryd i'w criwiau t芒n ac achub adael.