Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pwy yw aelodau seneddol newydd Cymru?
Mae Cymru wedi ethol 32 aelod seneddol i San Steffan - 13 ohonyn nhw yn rhai newydd.
Gyda鈥檙 Ceidwadwyr wedi colli eu holl seddi, mae鈥檙 aelodau newydd i gyd yn cynrychioli Llafur, Plaid Cymru a鈥檙 Democratiaid Rhyddfrydol.
Felly pwy ydyn nhw?
Alex Barros-Curtis - Gorllewin Caerdydd
Fe wnaeth Alex Barros-Curtis ddenu鈥檙 penawdau yn gynnar yn ystod yr ymgyrch gyda chyhuddiadau fod y Blaid Lafur yn "gorfodi鈥檙" ymgeisydd ar aelodau lleol, er nad oedd ganddynt "gysylltiad" 芒'r ardaloedd. Fe gafodd hyn ei ddisgrifio fel "sarhad llwyr" gan rai o aelodau鈥檙 blaid.
Gwadu hyn wnaeth Llafur Cymru gan ddweud bod aelodau lleol a chynrychiolwyr o鈥檙 pwyllgor gwaith Cymreig ar y panel oedd yn dewis ymgeiswyr.
Fe gafodd Mr Barros-Curtis, gafodd ei eni yng ngogledd Cymru a sydd wedi gweithio鈥檔 agos gyda Keir Starmer, ei ddewis fel ymgeisydd Gorllewin Caerdydd ar 么l i Kevin Brennan gyhoeddi yn gynharach eleni ei fod yn rhoi'r gorau iddi.
Andrew Ranger - Wrecsam
Mae Andrew Ranger yn gyn-gyfrifydd ac ymgynghorydd busnes, gyda gradd mewn peirianneg o Brifysgol Newcastle. Erbyn hyn, fo ydi鈥檙 aelod seneddol dros Wrecsam.
Mae鈥檔 dweud ei fod wedi "byw, gweithio ac anadlu鈥檙鈥 dref ers dros 20 mlynedd.
Ann Davies - Caerfyrddin
Ann Davies ydi un o鈥檙 ddau aelod seneddol newydd sydd gan Blaid Cymru.
Mae hi鈥檔 enedigol o鈥檙 sir ac yn gyn-gynghorydd Llanddarog.
Roedd hi鈥檔 arfer gweithio fel darlithydd addysg blynyddoedd cynnar ac yn cyd-berchen meithrinfa.
Becky Gittins - Dwyrain Clwyd
Cyn-gyfrifydd arall sydd bellach yn aelod seneddol Llafur ydi Becky Gittins.
Yn wreiddiol o Fagillt, Sir y Fflint, mae鈥檙 aelod dros Ddwyrain Clwyd hefyd wedi gweithio fel gwas sifil ac wedi bod yn gynghorydd yn Coventry.
Catherine Fookes - Sir Fynwy
Ysgrifennydd Cymru David TC Davies oedd yn cynrychioli Sir Fynwy - ac wedi gwneud ers 2005 - ond bellach Catherine Fookes ydi鈥檙 aelod seneddol.
Mae hi wedi byw yn y sir ers dros ddau ddegawd ac wedi bod yn gynghorydd Plaid Lafur a chyfarwyddwr Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod.
Claire Hughes - Bangor Aberconwy
Mae Claire Hughes yn 鈥渇alch鈥 o gael ei magu yn ei hetholaeth newydd - Bangor Aberconwy.
Mae鈥檙 aelod seneddol dros Lafur, wnaeth astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, bellach yn magu ei phlant ei hun yn ei hardal enedigol.
Roedd y gwleidydd yn cynrychioli Llanfairfechan ar Gyngor Conwy am chwe blynedd.
David Chadwick - Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe
David Chadwick ydi aelod seneddol cyntaf y Democratiaid Rhyddfrydol ers 2019.
Mae鈥檔 byw yn Aberhonddu gyda鈥檌 wraig a鈥檜 plant a dechreuodd ymddiddori mewn gwleidyddiaeth pan aeth ei daid ag o i weld gweithfeydd dur Port Talbot.
Mae o bellach yn cynrychioli Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe yn San Steffan.
Gill German - Gogledd Clwyd
Athrawes oedd Gill German cyn iddi ddod yn gynghorydd Llafur dros Ogledd Prestatyn.
Bellach hi ydi鈥檙 aelod seneddol Llafur newydd dros Ogledd Clwyd 鈥 yr ardal lle cafodd ei magu.
Henry Tuffnell - Canol a De Penfro
Yn 么l ei wefan, mae Henry Tuffnell yn byw tu allan i D欧 Ddewi.
Fe gafodd yr aelod seneddol newydd dros Ganol a De Penfro ei fagu ar y fferm deuluol, cyn hyfforddi fel bargyfreithiwr.
Kanishka Narayan - Bro Morgannwg
Kanishka Narayan ydi AS cyntaf erioed Cymru o leiafrif ethnig.
Fe enillodd etholaeth Bro Morgannwg gan Alun Cairns o鈥檙 Blaid Geidwadol.
Yn byw yn Y Barri, fe astudiodd Mr Narayan ym Mhrifysgol Rhydychen cyn gweithio fel ymgynghorwr i鈥檙 Blaid Lafur.
Llinos Medi - Ynys M么n
Cyn gynghorydd Cyngor Sir Ynys M么n oedd Llinos Medi tan iddi gael ei hethol fel aelod seneddol newydd yr ynys.
Yn ei haraith ar 么l ei buddugoliaeth, fe alwodd am 鈥渇uddsoddiad yn ein cymunedau鈥 a鈥檌 bod wedi gweld effaith 鈥渢oriadau parhaus鈥 i鈥檙 cyllid cyhoeddus.
Steve Witherden - Maldwyn a Glynd诺r
Athro ysgol uwchradd a chynrychiolydd undeb oedd Steve Witherden. Mae o bellach yn aelod seneddol dros Maldwyn a Glynd诺r.
Doedd etholaeth Maldwyn - y sedd cyn i鈥檙 ffiniau gael eu newid - erioed wedi ei hennill gan Lafur.
Torsten Bell - Gorllewin Abertawe
Fel gydag Alex Barros-Curtis yng Ngorllewin Caerdydd, roedd beirniadaeth gan rai aelodau lleol y blaid pan gafodd Torsten Bell ei ddewis fel ymgeisydd.
Yn gyn-brif weithredwr y gr诺p trafod Resolution Foundation roedd yn ymgynghorwr arbennig i Alistair Darling pan oedd o鈥檔 Ganghellor i鈥檙 Llywodraeth Lafur.
Mae Mr Bell, sy鈥檔 agos at Keir Starmer, bellach yn aelod dros Orllewin Abertawe ac yn cael ei ystyried yn un o s锚r y blaid.