Gwobr Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2024

Mae hi nawr yn bosibl enwebu ar gyfer gwobr Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y 大象传媒 2024.

Gallwch enwebu鈥檙 gwirfoddolwyr sy鈥檔 gwella eich cymuned chi drwy chwaraeon ar Arwr Tawel neu Unsung Hero.

Rhaid derbyn pob enwebiad cyn 23:59 GMT nos Fercher 30 Hydref 2024.

Bydd 15 o bobl yn derbyn gwobr Arwr Tawel - un o bob un o wledydd a rhanbarthau鈥檙 大象传媒. Yna, bydd panel o feirniaid sy鈥檔 weithwyr proffesiynol yn y diwydiant yn penderfynu ar un enillydd cyffredinol, a chyhoeddir ei enw鈥檔 fyw ar raglen wobrwyo Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn, a gynhelir ym mis Rhagfyr yn MediaCityUK yn Salford.

Yr enillydd y llynedd oedd Des Smith - y "sbardun鈥 y tu 么l i Glwb Chwaraeon Carib茂aidd Sheffield ers 1986.

Mae enillwyr blaenorol wedi camu i鈥檙 llwyfan ac wedi datblygu rhwydweithiau eu clybiau i helpu rhagor o bobl yn lleol, wedi ymddangos yn y cyfryngau cenedlaethol, wedi ymuno 芒 byrddau gwaddol y Gemau Olympaidd, wedi gweithio鈥檔 agos gyda mentrau iechyd meddwl y llywodraeth, ac wedi ymgynghori ar brosiectau鈥檙 Swyddfa Gartref i helpu pobl ifanc sydd mewn perygl.

Y Fonesig Laura Kenny, - yr athletwraig Olympaidd Brydeinig fwyaf llwyddiannus erioed - yw llysgennad y wobr a hi sy鈥檔 arwain yr ymgyrch am enwebiadau.

Dywedodd: 鈥淔e wnes i ymuno 芒 Welwyn Wheelers - fy nghlwb beicio lleol - pan o鈥檔 i鈥檔 wyth oed. Oni bai am y bobl ymroddedig hynny oedd yn rhedeg y clwb, mae鈥檔 bosib na fyddwn i wedi cyflawni鈥檙 holl bethau yn y gamp. Mae mor bwysig cydnabod cyfraniad y clybiau hyn a鈥檙 bobl sy鈥檔 dod 芒鈥檜 cymunedau lleol at ei gilydd drwy chwaraeon.鈥

Dywedodd Alex Kay-Jelski, cyfarwyddwr 大象传媒 Chwaraeon: 鈥淲rth gefn i bob pencampwr, enillydd medal neu ddeiliad record, mae yna bobl hollol anhygoel sydd wedi sylwi ar eu talent, wedi eu helpu, eu hysgogi, a鈥檜 cysuro ac wedi gwneud iddynt gredu yn eu gallu. Ac mae angen eu hanrhydeddu hwythau hefyd.

Mae鈥檔 wobr mor ysbrydoledig ac rwy鈥檔 edrych ymlaen yn eiddgar at glywed straeon ein 15 enillydd yn 2024.鈥

Sut mae enwebu?

Mae鈥檔 hawdd: rhowch wybod - naill ai drwy ysgrifennu neu ffilmio - pam fod eich enwebai yn haeddu bod yn Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn.

Rhaid i'r person sy鈥檔 cael ei enwebu fod yn 16 oed neu鈥檔 h欧n ac yn gweithio neu鈥檔 gwirfoddoli mewn clwb chwaraeon neu weithgarwch corfforol mewn unrhyw ffordd, boed hynny鈥檔 hyfforddi neu hyd yn oed yn gwneud coffi. I enwebu, rhaid i chi fod dros 18 oed, neu gael caniat芒d gan rywun perthnasol dros 18 oed.

Ewch draw i鈥檙 dudalen Gwobr Arwr Tawel i enwebu. Mae modd enwebu yn Gymraeg drwy Arwr Tawel.

I gael gwybodaeth am y wobr, y beirniadu a sut rydym yn trin eich data, darllenwch ein telerau a鈥檔 hysbysiad preifatrwydd.

Pryd ga'i enwebu?

Enwebwch cyn 23:59 GMT nos Fercher, 30 Hydref 2024. Allwn ni ddim derbyn enwebiadau ar 么l y dyddiad hwn.

Sut penderfynir ar y wobr?

Eleni byddwn yn gwobrwyo enillydd ar gyfer pob un o 15 gwlad a rhanbarth y 大象传媒.

Bydd yr enillwyr wedyn yn mynd gerbron panel beirniadu terfynol o arbenigwyr o鈥檙 diwydiant i benderfynu ar yr enillydd cyffredinol, a fydd yn cael ei gyhoeddi鈥檔 fyw ar raglen gwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn.