大象传媒

Corws Opera Cenedlaethol Cymru yn pleidleisio i streicio

Aelodau corws OCCFfynhonnell y llun, Equity
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth 93% o aelodau'r corws bleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol

  • Cyhoeddwyd

Mae aelodau corws Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) wedi pleidleisio o blaid streicio yn sgil anghydfod am swyddi a chyflogau.

Dywedodd Equity - yr undeb celfyddydau perfformio ac adloniant - fod pob un o'r 30 aelod wedi pleidleisio, a bod 93% o blaid gweithredu diwydiannol.

Yn 么l yr undeb, mae aelodau'r corws yn wynebu toriad cyflog o 15% yn ogystal 芒 gostyngiad yn nifer yr aelodau o ganlyniad i ddiswyddiadau gorfodol.

Dyw hi ddim yn eglur eto beth fydd yr effaith ar berfformiadau'r WNO, gyda'u tymor i fod yn dechrau ar 21 Medi yng Nghanolfan y Mileniwm.

Dywedodd y WNO eu bod yn parchu'r penderfyniad ond eu bod yn "siomedig y bydd hyn yn golygu y bydd ein cynulleidfaoedd yn colli allan yn y pen draw oherwydd yr effaith ar berfformiadau/cyngherddau".

Fe wnaeth cerddorion yng ngherddorfa WNO bleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol ym mis Gorffennaf - gydag Undeb y Cerddorion (MU) yn cyhuddo鈥檙 cwmni opera o gynllunio i wneud y gerddorfa鈥檔 rhan amser, a thorri cyflog 15%.

Ddydd Iau, fe wnaeth yr MU gadarnhau y bydd aelodau sy'n rhan o gerddorfa WNO yn gweithredu yn ddiwydiannol ar 21 Medi.

Dyma fydd noson y perfformiad cyntaf o sioe 'Rigoletto', fydd yn cael ei gyfarwyddo gan Adele Thomas.

Esboniodd yr undeb na fyddai'r aelodau yn streicio, ac mai'r bwriad yw rhannu taflenni gwybodaeth ymhlith y gynulleidfa, a gwisgo crysau-t sy'n tynnu sylw at yr ymgyrch yn hytrach na'u gwisgoedd arferol.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol yr MU, Naomi Pohl fod eu haelodau yn deall arwyddoc芒d unrhyw fath o weithredu diwydiannol, ac nad yw'n rhywbeth maen nhw'n ei gymryd yn ganiataol.

"Yr hyn sydd y tu 么l i'r penderfyniad yw'r sgil effeithiau anochel y bydd cynigion y rheolwyr yn ei gael ar ddiwylliant Cymru, ar gynulleidfaoedd ac ar gerddorion llawrydd," meddai.

"Ry'n ni'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn deall difrifoldeb y sefyllfa, ac yn camu i'r adwy os nad yw'r Cyngor Celfyddydau yn llwyddo i wneud hynny."

'Toriadau trychinebus'

Mae pob un o'r 30 aelod o gorws y WNO yn aelodau o Equity, gyda'r mwyafrif wedi bod yn gweithio gyda'r cwmni ers dros ddegawd.

Dywedodd Paul W Fleming, ysgrifennydd cyffredinol Equity, fod canlyniad y bleidlais yn dangos na fyddai'r aelodau yn derbyn y "toriadau trychinebus".

"Mae ein haelodau wedi blino o gael cyfarwyddyd i fod yn wydn ac i ddelio gyda鈥檌 hamgylchiadau," meddai.

"Mae hon yn bleidlais ysgubol dros wrthwynebiad i鈥檙 ffaith bod rheolwyr yn fodlon derbyn y dewis gwleidyddol o lymder.

鈥淩haid i reolwyr WNO ailedrych ar y cynigion anghyfiawn hyn a chymryd rhan mewn proses sy鈥檔 diogelu statws amser llawn ein haelodau ac yn cydnabod y gwerth enfawr y mae鈥檙 gweithlu tra medrus hwn yn ei roi i enw da鈥檙 cwmni a鈥檌 waith.鈥

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth aelodau cerddorfa WNO bleidleisio o blaid streicio ym mis Gorffennaf

Dywed Claire Hampton, cynrychiolydd Equity a soprano sydd wedi bod yn rhan o gorws WNO ers 22 mlynedd, fod canlyniad y bleidlais yn "adlewyrchu siom" yr aelodau.

"Nid oedd hwn yn benderfyniad hawdd i unrhyw un i'w gymryd, ond nid ydym wedi cael unrhyw ddewis wrth i ni wynebu'r effaith ddinistriol y bydd newidiadau arfaethedig yn ei gael ar ein bywydau.

"Does dim dewis ond gweithredu i amddiffyn ein swyddi... Rwy'n fam i dri o blant ac yn byw bywyd syml.

"Bydd y toriadau hyn yn fy rhoi ychydig yn uwch na'r isafswm cyflog ac mae hyn yn anghynaladwy i mi a fy mhlant.

"Gydag ychydig o gyfleoedd yma yng Nghymru i drosglwyddo fy sgiliau, gallai hyn fy ngorfodi allan o'm cartref ac o bosib allan o鈥檙 sector.鈥

'Cynulleidfaoedd yn colli allan'

Dywedodd llefarydd ar ran y WNO: 鈥淓r ein bod yn parchu penderfyniad y bleidlais... rydym yn siomedig y bydd hyn yn golygu y bydd ein cynulleidfaoedd yn colli allan yn y pen draw oherwydd yr effaith ar berfformiadau/cyngherddau.

鈥淩ydym wedi parhau i gynnal trafodaethau agored a thryloyw gydag undebau ac wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb sy鈥檔 gweithio i aelodau'n corws, tra hefyd yn cydnabod realiti sefyllfa ariannol WNO yn dilyn toriadau sylweddol i鈥檔 cyllid cyhoeddus."

Pynciau cysylltiedig