Gyrrwr bws yn ymddeol ar 么l 59 mlynedd wrth y llyw
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n ddiwedd cyfnod yn Sir Benfro wrth i Keith Davies ymddeol wedi 59 mlynedd yn gyrru bysus yn yr ardal.
Ers 1965 mae Keith, sydd o bentref Glandwr ger Crymych, wedi cludo miloedd o bobl yng ngorllewin Cymru ac wedi dod i 'nabod yr ardal cystal 芒 chefn ei law.
Yn siarad ar raglen Bore Cothi ar 大象传媒 Radio Cymru, dywedodd Keith: "Mae鈥檙 plant cyntaf o鈥檔 i鈥檔 ei yrru i鈥檙 ysgol yn eu 70au heddi!
鈥淒wi ddim yn gwybod ble mae鈥檙 59 mlynedd 'na wedi mynd, ond ma' nhw wedi pasio.鈥
Fe weithiodd Keith i wahanol gwmn茂au yn y gorllewin dros y blynyddoedd cyn penderfynu ei bod hi'n amser rhoi'r gorau iddi, yn 84 oed.
鈥淥鈥檔 i gyda chwmni Jones Login am 46 o flynydde, a fues i ym Maenclochog am saith mlynedd, ac yna gyda Midway nawr am chwe blynedd,鈥 meddai Keith.
Y bws cyntaf
Mae Keith yn cofio ei fws cyntaf o ddechrau ei yrfa'n gyrru.
鈥淥鈥檔 i鈥檔 dreifio half-cab, crash box iddi, ac o鈥檔 i鈥檔 dreifio hi am sawl blwyddyn lan i Ysgol Preseli.
鈥淢补别 half-cab yn golygu bod y gyrrwr lan yn y cab ben ei hunan.鈥
Yn siarad efo Sh芒n Cothi dywed Keith bod disgyblu'r plant ar y bws ysgol erioed wedi bod yn broblem fawr: "Doedd dim fawr o angen disgyblu 鈥 mae parch mawr 鈥榙i bod gen i at y plant dros y blynydde, ac os o鈥檔 i鈥檔 holi am unrhyw ffafr odd e i gael."
Er hyn, dywed Keith bod newidiadau wedi bod yn y diwydiant dros y blynyddoedd.
鈥淢补别 pethau 'di altro鈥檔 fawr, mae eisiau seat-belts ag ati, a sa i鈥檔 dweud bo鈥檙 plant yn ffrind iawn 芒'r rheiny.
鈥淧an basies i fy nhest nes i gael leisens, ffeindio bws a bant 芒 ni. Erbyn heddi mae eisie CRB, CPC ac mae dipyn o waith papur i鈥檞 wneud.鈥
Newidiadau dros y blynyddoedd
Yn y 1960au roedd prawf trwydded bysus yn dra gwahanol i heddiw.
鈥淩ownd yr Efail Wen fuodd hi bryd hynny 鈥 rownd y sgw芒r a throi rownd ac ateb cwpl o gwestiyne. Wedodd e wrtha i fod rhaid fi fynd dim pellach, odd e鈥檔 gwybod mod i鈥檔 gallu handlo fe鈥檔 iawn a 'na i gyd am biti 鈥榥i.
鈥淔aint gwell dreifars sydd heddi wedi mynd drwy鈥檙 tests i gyd so i鈥檔 gwybod.鈥
A oedd yna barti i ddathlu wrth i Keith ymddeol?
鈥淒im parti, ond aethon ni lan i Lanfyllin ar y penwythnos gan fod fy wyres wedi cael babi bach o鈥檙 enw Gruff. Mae naw o wyrion 'da fi, a鈥檙 babi yma odd fy nawfed gor-诺yr i.
"鈥楴athon ni ei weld e, ac yna lan i Fangor a chael noson fan yna cyn dod 'n么l."
Amser i ymlacio ar 么l ymddeol?
Does gan Keith ddim cynlluniau i arafu hyd yma: 鈥淒wi鈥檔 teimlo bo' fi dal yn mynd biti鈥檙 lle dal i fod."
Bydd y gymuned yn si诺r o'i gweld hi'n od heb Keith ar y lonydd, awgrymodd Sh芒n Cothi.
鈥淪ai鈥檔 gwybod am hynny, fydden nhw鈥檔 falch o鈥檔 wared i falle!鈥 atebodd Keith.
Ond er ei sylwadau diymhongar, mae ardal y gorllewin yn debygol o deimlo colled enfawr yn dilyn penderfyniad Keith i adael sedd flaen y bws.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2021