大象传媒

Cyhuddo menyw o achosi i fabi farw trwy yrru'n beryglus

Mabli Cariad HallFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Mabli Cariad Hall yn Ysbyty Plant Bryste fis Mehefin y llynedd, bedwar diwrnod wedi'r gwrthdrawiad tu allan i Ysbyty Llwynhelyg

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw 70 oed wedi cael ei chyhuddo o achosi marwolaeth babi wyth mis oed yn dilyn gwrthdrawiad tu allan i ysbyty yn Sir Benfro y llynedd.

Bu farw Mabli Cariad Hall o'i hanafiadau yn Ysbyty Plant Bryste, bedwar diwrnod wedi鈥檙 gwrthdrawiad rhwng car a cherddwyr ger Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.

Fe fydd Bridget Carole Curtis, o bentref Begeli yn ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Iau, 22 Awst.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys ei bod wedi cael ei chyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Clywodd cwest fis Gorffennaf y llynedd bod Mabli mewn coets adeg y gwrthdrawiad.

Dywedodd teulu Mabli mewn datganiad: "Y flwyddyn ddiwethaf yw cyfnod mwyaf ofnadwy ein bywydau.

"Mae ein bywyd teuluol wedi newid am byth a hyd heddiw rydym yn dal yn ceisio dod i delerau gyda'r hyn sydd wedi digwydd.

"Rydym yn deall bod mwy i ddod ond dyma'r cam mwyaf ymlaen i ni ers Mehefin y llynedd."

Gan ddiolch i bawb "sydd wedi ein cefnogi trwy'r cyfnod heriol yma" ychwanegodd y teulu: "Wnawn ni fyth anghofio'r cariad a'r gefnogaeth yna na'r atgof o ein hangel annwyl, Mabli Cariad."