'Dydy hi ddim yn iawn' - galw am gryfhau gorchmynion atal
- Cyhoeddwyd
Mae dynes a gafodd ei dal yn wystl a'i bygwth gyda gwn gan ei chyn-bartner wedi galw am newid yn y gyfraith ar orchmynion atal (restraining orders).
Fe wnaeth Gareth Wyn Jones ymosod ar ei gyn-bartner, Rhianon Bragg o Rosgadfan ger Caernarfon, yn 2019.
Cafodd ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner o garchar, ond mae bellach wedi cael ei ryddhau ar drwydded.
Ond yn 么l Ms Bragg, ni fydd y gorchymyn atal yn ei erbyn yn rhoi digon o amddiffyniad iddi hi, a dywedodd na fydd hi'n teimlo'n ddiogel yn y tymor hir.
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2021
Ar 15 Awst 2019 roedd Ms Bragg yn cyrraedd adref ar 么l iddi dywyllu.
Wrth iddi gael allan o'i char, fe neidiodd Gareth Wyn Jones o'r tywyllwch yn gwisgo dillad camouflage ac yn cario gwn.
Fe gadwodd Ms Bragg yn wystl dros nos am gyfnod o wyth awr, gan ei bygwth hi.
Dywedodd Ms Bragg fod ei chyn-bartner wedi bod yn rheoli ei bywyd a'i bygwth am y rhan fwyaf o'u perthynas, a barodd am bum mlynedd.
Cafodd Jones ei ryddhau o'r carchar ar drwydded yn gynharach eleni, ac mae rheolau llym y drwydded yn golygu na all fynychu rhannau helaeth o ogledd Cymru.
Pan fydd y rheolau hynny'n dod i ben yn 2029, bydd gorchymyn atal yn parhau mewn grym, gan ei rwystro rhag bod o fewn 800 metr o d欧 Ms Bragg.
Ond yn 么l Ms Bragg, dyw'r rheolau hynny ddim yn ddigon llym.
"Fel ag y mae ar hyn o bryd, dydy'r gorchymyn ddim yn cynnwys y lleoliadau y byddwn i'n hoffi iddo'i gynnwys er mwyn i fi a fy mhlant fyw heb ofn," meddai.
"Mae'n gymaint o bryder, yn enwedig gan ein bod yn byw mewn ardal wledig - sut all unrhyw un fonitro ei fod yn cadw at y gorchymyn atal?
"Cyn iddo fy nghadw i yn erbyn fy ewyllys, ac fy mygwth efo gwn, roedd o wedi cael ei arestio dair gwaith cyn hynny - doedd o'n malio dim am hynny.
"Roedd o wedi cael ei ryddhau ar fechn茂aeth gydag amodau gan yr heddlu, ond fe anwybyddodd nhw.
"Y broblem arall sydd efo'r gorchmynion atal ydy fod y rhai sydd wedi cyflawni troseddau ddim yn cadw atyn nhw.
"Does 'na ddim oblygiadau sylweddol i bobl sy'n torri'r gorchymyn, felly dydyn nhw ddim yn dal d诺r beth bynnag."
'Ddim yn dal d诺r'
Fe ddychwelodd Rhianon Bragg i'r llys ym Mehefin i ofyn am gael newid y gorchymyn atal i gynnwys mwy o ardaloedd, ond yn 么l y barnwr, dyw'r gyfraith ddim yn caniat谩u hynny oni bai fod y sefyllfa'n newid.
"Dydy hi ddim yn iawn fod dioddefwyr yn cael eu rhoi yn y math yma o sefyllfa - roeddwn i wir yn meddwl, pan es i at y system cyfiawnder troseddol am y tro cyntaf, bod popeth am fod yn iawn ac y byddwn ni鈥檔 ddiogel.
"Dydyn ni heb neud unrhyw beth o'i le, mae o wedi gwneud pethau ofnadwy, ac yn ddiniwed fe feddyliais i mai dyna fyddai'r diwedd ar bethau, ac na fyddai gennym ni unrhyw beth i boeni yn ei gylch.
"Nid felly y bu hi."
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder nad oedd yn gallu gwneud sylw ar ofynion Rhianon Bragg oherwydd yr etholiad cyffredinol ddydd Iau.