Beth sy'n bwysig i bobl un o etholaethau mwyaf Cymru?

Disgrifiad o'r llun, Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe yw etholaeth fwyaf Cymru o ran maint daearyddol
  • Awdur, Craig Duggan
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Hen etholaeth Brycheiniog a Maesyfed oedd y fwyaf o ran ei maint daearyddol yng Nghymru a Lloegr.

Bellach, mae鈥檙 ardal etholiadol wedi tyfu hyd yn oed yn fwy, yn sgil ad-drefnu ffiniau鈥檙 etholaethau.

Nawr, mae cymunedau ym mhen uchaf Cwm Tawe yn rhan o鈥檙 etholaeth enfawr, gan gynnwys Pontardawe, Cwmllynfell a Gwaun-Cae-Gurwen.

Enw'r etholaeth newydd yw Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe.

Etholaeth newydd yn 'rhy fawr'

Ar y cyfan mae鈥檔 etholaeth wledig lle mae canran sylweddol o鈥檙 boblogaeth yn gweithio yn y diwydiant amaeth.

Mae bron i 10,000 o bobl yn ffermio trwy Bowys gyfan, a thros draean o fusnesau'r sir yn rhai amaethyddol.

Ond mae鈥檙 cymunedau yn ardal Pontardawe yn wahanol.

Yno mae rhesi o dai teras, sy鈥檔 nodweddiadol o drefi cymoedd y de, a鈥檙 bobl yn perthyn i ardal 么l-ddiwydiannol Cwm Tawe, dim ond naw milltir i ffwrdd o ddinas Abertawe.

Disgrifiad o'r llun, Dywed Janice Walters bod pobl ym Mhontardawe yn poeni am golli gwasanaethau lleol

Mewn siop trin gwallt ym Mhontardawe, dywedodd Janice Walters bod maint yr etholaeth wedi bod yn poeni ei theulu hi.

鈥淢ae fy mab yn byw yn Nhrebanos sy鈥檔 rhan o鈥檙 etholaeth newydd, a dyw e ddim yn hapus amdano fe," meddai.

"Mae e鈥檔 meddwl bod e鈥檔 rhy fawr i gynnwys lle bach fel hyn.

"Ni just fel cwt bach yn y lle enfawr yma.鈥

Disgrifiad o'r llun, Bydd y pwll nofio ym Mhontardawe yn cau ym mis Awst am resymau diogelwch

O ran y materion sy鈥檔 bwysig i bobl leol, dywedodd Janice bod nifer yn poeni am golli gwasanaethau lleol, yn enwedig y pwll nofio ym Mhontardawe sy鈥檔 mynd i gau cyn diwedd mis Awst.

鈥淢ae colli鈥檙 pwll nofio yn achosi tipyn bach o ofn i bobl achos mae鈥檔 bwysig i lawer o bobl fan hyn.

"Castell-nedd yw鈥檙 agosaf wedyn, ond mae鈥檔 broblem oherwydd mae pawb yn meddwl bod y pwll ym Mhontardawe yn dda iawn ar gyfer plant a phobl anabl.鈥

Ym mis Mai fe wnaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot benderfynu cau鈥檙 pwll am resymau diogelwch oherwydd dirywiad yn strwythur yr adeilad.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cigydd lleol Bleddyn Howells yn dweud bod "popeth yn cau lawr" ym Mhontardawe

Mae Bleddyn Howells yn gigydd sydd 芒 siop yng nghanol Pontardawe, ac mae hefyd yn gynghorydd tref annibynnol.

Dywedodd hefyd bod pobl yn poeni am golli鈥檙 pwll nofio a gwasanaethau eraill, a bod diffyg arian yn y gymuned.

Dywedodd Mr Howells: 鈥淢ae鈥檙 banc olaf yn mynd i gau amser Nadolig, felly fydd dim banc ym Mhontardawe wedyn, y ganolfan gymunedol hefyd a Gelligron House.

"Mae popeth yn cau lawr a beth mae pobl yn mynd i wneud wedyn?"

'Naws yr etholaeth yn newid'

Mae llawer o鈥檙 materion a gafodd eu crybwyll gan yr etholwyr yn gyfrifoldeb uniongyrchol naill ai i gwmn茂au preifat, cynghorau lleol neu Lywodraeth Cymru.

Yn yr etholiad ar 4 Gorffennaf bydd cyfle i ddewis aelodau yn Senedd San Steffan, a phenderfynu pwy fydd yn ffurfio llywodraeth newydd ar gyfer y Deyrnas Unedig.

Poblogaeth etholaeth Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe yw 92,100, ac mae bron i 73,000 o etholwyr.

Mae proffil oedran yr etholaeth yn h欧n na鈥檙 cyfartaledd, gyda 27% o鈥檙 boblogaeth dros 65 oed.

Mae 69% o bobl yn berchen ar d欧 ac mae dros 18% yn gallu siarad Cymraeg.

O Bontardawe i Aberhonddu mae pellter o 30 milltir.

Mae naws yr etholaeth yn newid i un fwy gwledig ac amaethyddol wrth yrru tua鈥檙 gogledd heibio Ystradgynlais ac i mewn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Disgrifiad o'r llun, Addysg yw brif bryder cyn-brifathro Ysgol y Bannau, John Meurig Edwards

Cyn-brifathro Ysgol y Bannau, ysgol gynradd Gymraeg Aberhonddu, yw John Meurig Edwards, sydd wedi byw yn y dref ers degawdau.

Cyflwr yr economi yw un o鈥檙 prif ofidiau iddo, ynghyd 芒 sefyllfa addysg.

鈥淵 peth mawr yw鈥檙 economi ar hyn o bryd a chostau byw 鈥 mae hwnna yn gyffredinol i鈥檙 wlad i gyd," dywedodd.

"I fi yn bersonol, wi鈥檔 poeni am beth sy鈥檔 mynd i ddigwydd i addysg. Mae cymaint o broblemau yn codi ar hyn o bryd yngl欧n 芒 diffyg athrawon - athrawon yn gadael oherwydd bod dim digon o adnoddau yn cael eu rhoi mewn i ysgolion er mwyn iddyn nhw gael eu rhedeg yn gywir.鈥

Mae addysg yn faes sydd wedi ei ddatganoli i Gymru, sy'n golygu mai Llywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd sydd 芒 chyfrifoldeb yma.

Ychwanegodd bod y newid i鈥檙 etholaeth ac ychwanegu Cwm Tawe yn mynd i wneud hi鈥檔 her i bwy bynnag sy鈥檔 ennill y sedd ym mis Gorffennaf.

鈥淢ae鈥檔 etholaeth gymysg iawn ac mae hi wedi bod yn draddodiadol naill ai gyda鈥檙 Ceidwadwyr neu鈥檙 blaid Ryddfrydol, a dyna le fydd y frwydr o hyd yn fy marn i, ond mae dod 芒 Chwm Tawe mewn yn mynd i ddod 芒 Llafur mewn yn gryfach yn yr etholaeth yma hefyd.鈥

Yn yr etholiad cyffredinol yn 2019 cafodd hen sedd Brycheiniog a Maesyfed ei hennill gan Fay Jones i鈥檙 blaid Geidwadol, gyda mwyafrif o 7,131 dros y Democratiaid Rhyddfrydol, gyda鈥檙 Blaid Lafur yn drydydd.

Disgrifiad o'r llun, Mae Rhaeadr Gwy mewn ardal amaethyddol, ond mae'n denu ymwelwyr

30 milltir arall i鈥檙 gogledd o Aberhonddu mae tref Rhaeadr Gwy yn yr hen Sir Faesyfed yng nghanol ardal amaethyddol.

Mae ffermio yn rhan bwysig iawn o鈥檙 economi leol, ond gyda chronfeydd d诺r Cwm Elan a鈥檌 llwybrau cerdded a beicio wrth ymyl, mae Rhaeadr hefyd yn denu llawer iawn o dwristiaid.

Mae Sian Davies yn ffermio ar gyrion Rhaeadr ac mae鈥檔 weithgar gyda鈥檙 clwb ffermwyr ifanc lleol.

Disgrifiad o'r llun, Mae Sian Davies eisiau gweld gwleidyddion yn rhoi fwy o arian i wasanaethau hanfodol

Dywedodd Sian: 鈥淔i鈥檔 credu y pethau mwyaf pwysig i ni fel teulu a hefyd y bobl sy鈥檔 byw yn ardal ni yw amaeth, iechyd ac addysg.

"Yr ansicrwydd mewn amaeth yw鈥檙 peth mawr ar hyn o bryd i ni, ac o ran iechyd, dyw pobl ddim yn gallu cael llawdriniaeth pan maen nhw isie.鈥

Ychwanegodd Ms Davies ei bod hi am weld gwleidyddion yn blaenoriaethu arian ar gyfer gwasanaethau hanfodol.

鈥淢ae digon o arian i gael ar gyfer nhw eu hunain, ond y pethau mwyaf pwysig sydd angen yr arian dwi鈥檔 teimlo dy鈥檔 nhw ddim yn rhannu fe allan yn deg.鈥

Rhestr lawn o鈥檙 ymgeiswyr yn etholaeth Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe:

Democratiaid Rhyddfrydol - David Chadwick

Llafur - Matthew Dorrance

Plaid Cymru - Emily Durrant-Munro

Reform UK - Adam Hill

Ceidwadwyr - Fay Jones

Plaid Werdd - Amerjit Kaur-Dhaliwal