Meinir Mathias: 'Ysbryd y werin' yn ysbrydoliaeth i鈥檞 lluniau

Ffynhonnell y llun, Meinir Mathias

Yn adnabyddus am ei lluniau o Ferched Beca, mae鈥檙 artist Meinir Mathias wedi cael ei hysbrydoli i gynhyrchu mwy o waith sy鈥檔 dathlu鈥檙 dosbarth gweithiol, gwerinol yng Nghymru.

Ym mis Tachwedd mae鈥檙 artist, sydd wedi cynrychioli Cymru yn yr 诺yl Ryng-Geltaidd yn Lorient, Llydaw'r haf yma, yn cyflwyno ei harddangosfa ddiweddaraf o'r enw Ar hyd y Nos yn oriel newydd Ffin-y-parc yn Llandudno.

Ffynhonnell y llun, Meinir Mathias

Disgrifiad o'r llun, Ar hyd y Nos gan Meinir Mathias, darlun sy'n edrych yn freuddwydiol a swreal gydag awyrgylch nos. Eglurodd yr artist mai breuddwydion yw鈥檙 rhain mewn gwirionedd, sy鈥檔 dod ag elfennau fel pobl a thirweddau o atgofion ei phlentyndod ei hun

Mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw bu Meinir yn s么n am yr ysbrydoliaeth tu 么l i'r lluniau: 鈥淵r iaith mewn caneuon a cherddi Cymraeg, cymunedau, pobl, cenedlaethau... mewn ffordd crefftau traddodiadol ac 'ysbryd y werin' oedd y brif ysbrydoliaeth a鈥檙 grym y tu 么l i鈥檙 corff hwn o waith.

鈥淢ae llawer o bobl yn ceisio ailgysylltu 芒'u gwreiddiau, efallai fel gwrthwyneb i'r byd cyflym, digidol. Gallwch ei weld yn digwydd ym myd celf Cymru yn gyffredinol mewn theatr, llenyddiaeth, celf a cherddoriaeth.

鈥淢ae 鈥榥a ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth werin a thraddodiadau gwerin yn digwydd. Mae dathliadau鈥檙 Fari Lwyd a鈥檙 hen galan yn ail-ymddangos mewn trefi a phentrefi ar hyd a lled Cymru yn un enghraifft o hyn.

鈥淒wi鈥檔 teimlo bod pobl eisiau ailgysylltu 芒鈥檙 tir, y bobl a鈥檙 straeon sy鈥檔 ein huno fel cymunedau.鈥

Cydraddoldeb

Mae'r gwaith yn dathlu elfennau o ddiwylliant gwerin a hunaniaeth Gymreig yr artist ac yn arbennig yn dathlu rhai cymunedau gwledig dosbarth gweithiol yng Nghymru.

Meddai Meinir: 鈥淢ae hanes celf bob amser wedi dathlu鈥檙 cyflawnwyr uchel mewn cymdeithas, aelodau cyfoethocach y gymdeithas a鈥檙 dosbarthiadau rheoli ond mae llais y dosbarth gweithiol, ffermwyr Cymru a phobl cefn wlad yn aml yn cael ei hanghofio.

鈥淢ae llawer o bobl bellach yn mynd i鈥檙 afael ag anghydraddoldebau fel rhoi mwy o ffocws i fenywod mewn hanes a grwpiau lleiafrifol.鈥

Mae Meinir, sy鈥檔 dod o Dalgarreg, yn mynd i'r afael 芒 hyn drwy archwilio straeon gwerin Gymreig a chaneuon 鈥 rhan bwysig o鈥檌 phlentyndod oedd cerdded y wlad gyda'i thaid yn blentyn a rhannu chwedlau gwerin a hanes Cymru.

Ffynhonnell y llun, Meinir Mathias.

Disgrifiad o'r llun, Dwylo Gleision gan Meinir Mathias. Meddai: "Mae pob un bron fel stori werin goll."

Protestio

Yn adnabyddus am ei phaentiadau o Ferched Beca, mae鈥檔 dweud fod protestio gan y dosbarth gweithiol a鈥檙 uchelgais i frwydro dros gydraddoldeb yn ysbrydoliaeth mawr iddi.

Mae hi鈥檔 paentio mewn paent olew, fel y gwnaeth yr hen feistri celf, ond tra fod yr hen feistri yn cael eu comisiynu i baentio portreadau o dirfeddianwyr cyfoethog, mae Meinir yn ail-ddychmygu arwyr gwerin, traddodiadau a chaneuon anghofiedig, gan geisio fynd at raidd hunaniaeth Gymreig.

Ffynhonnell y llun, Meinir Mathias

Disgrifiad o'r llun, Cyfiawnder gan Meinir Mathias

Galar

Mae Meinir wedi bod yn cymryd rhan mewn sgyrsiau yn Llandysul yn ddiweddar yngl欧n a galar torfol cymunedau Cymreig.

Meddai: 鈥淩oedd yn ddiddorol iawn. Roedd pobl h欧n yna o gefn wlad yn siarad am newidiadau i gymunedau Cymreig dros y blynyddoedd.

鈥淧an fydd colled diwylliant a gwybodaeth fyw o ganeuon, straeon ac iaith yn mynd ar goll mae pobl yn hiraethu.

Disgrifiad o'r llun, Roedd gwaith Meinir i'w weld yn y Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd eleni

鈥淕wnaeth i fi feddwl am yr arddangosfa wnes i ymchwilio flynyddoedd yn 么l pan yn y coleg - fe'i cynhaliwyd yn yr Amgueddfa Smithsonian yn Efrog Newydd o artistiaid cyfoes Native American - roedd yr arddangosfa yn adlewyrchiad o'u galar cyfunol a dwi'n cofio iddo fy nharo'n galed iawn. Roeddent yn ail-ddychmygu eu hunaniaeth a traddodiadau trwy gelf cyfoes.

鈥淎r yr ochr arall i'r galar cyfunol hwn mae'r cenedlaethau iau yn ail-danio'r gwaith o chwilio ac ailddyfeisio hanes a hunaniaeth Cymru. Mae yna ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth werin a thraddodiadau werin yn digwydd nawr.

"Dwi'n meddwl i raddau helaeth, mae'r cenedlaethau iau yn greadigol wrth geisio deall ein hunain a hunaniaeth Gymreig ac wrth gwrs yn ceisio gwarchod yr hyn ydy ni fel pobl.鈥

Ffynhonnell y llun, Meinir Mathias.

Disgrifiad o'r llun, Codi'r Angor gan Meinir Mathias

Beth nesaf i Meinir?

Bydd Meinir a鈥檌 merch, y gantores werin Mari Mathias, yn teithio i New Delhi, India, yn Rhagfyr lle fydd Mari yn perfformio mewn g诺yl yno. Mae gan y teulu gysylltiadau gydag India, fel mae Meinir yn esbonio, gyda ei hen daid William Thomas yn anfon nifer o lythyrau a gweithiau celf yn 么l i Gymru o India yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Meddai Meinir: 鈥淒w i wastad wedi dwlu ar yr hen ffotograffau sepia, y gweithiau celf wedi鈥檜 gwneud 芒 llaw a鈥檙 anrhegion anfonodd fy hen daid adref o India lle dreuliodd gyfnod hir yn yr ysbyty yno yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

鈥淣i fydd y cyntaf yn ein teulu agos i deithio yn 么l i India ers y cyfnod hwn a dwi鈥檔 edrych ymlaen yn fawr at lenwi fy llyfr braslunio, dod o hyd i ysbrydoliaeth hefyd a dysgu rhywbeth newydd gan y bobl frodorol o Nagaland.鈥