Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Wynne Evans i gystadlu ar raglen Strictly Come Dancing
Fe fydd y darlledwr a'r canwr opera Wynne Evans yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Strictly Come Dancing y 大象传媒 eleni.
Hyd yn hyn, mae pum person cyfarwydd wedi cyhoeddi eu bod yn rhan o'r gyfres newydd, sy'n cychwyn ym mis Hydref.
Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at gymryd rhan ond yn "nerfus" ynghylch unrhyw ddawns sy'n golygu bod rhaid neidio.
"Y ballroom yw'r hyn dwi'n edrych ymlaen at wneud gan 'mod i wedi bod yn ganwr opera ers 20 mlynedd ac felly wedi neud tipyn o ddawnsio ballroom mewn oper芒u," dywedodd.
"Dwi ddim yn si诺r sut eith hi... ond dwi'n benderfynol o wneud fy ngorau a gwneud Cymru yn browd."
Mae Wynne Evans yn fwyaf adnabyddus am ei yrfa opera, ag yntau wedi cael dau albwm clasurol yn cyrraedd rhif un yn y siartiau yn ystod ei yrfa.
Daeth hefyd yn wyneb cyfarwydd wrth bortreadu'r cymeriad Gio Compario yn hysbysebion teledu'r cwmni yswiriant Go Compare.
Mae bellach yn cyflwyno rhaglen foreol ar 大象传媒 Radio Wales.
Y s锚r eraill sydd wedi cadarnhau eu bod yn cymryd rhan hyd yn hyn yw'r cantorion Toyah Willcox a JB Gill o'r gr诺p JLS, y meddyg a'r darlledwr Dr Punman Krishan a'r digrifwr Chris McCausland.