大象传媒

Ydy'r hydref wedi cyrraedd?

Codi deilen yr hydrefFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae 'na deimlad hydrefol hyd y lle, ond yn 么l y s么n, dydi hi ddim yn hydref tan 22 Medi, sef Cyhydnos yr Hydref...

Alex Humphreys, cyflwynydd y Tywydd ar S4C sydd yma i egluro beth sy'n mynd ymlaen:

Dwi wrth fy modd gyda'r hydref: y dail yn newid eu lliw, y nosweithiau'n teimlo'n glyd, cyfle i lapio'n gynnes gyda chot fawr a sgarff, ac mae 'na oglau gwahanol, rhywsut, yn yr aer.

Efallai eich bod chi wedi clywed fi, a'r cyflwynwyr tywydd eraill, yn s么n bod yr hydref eisoes wedi cyrraedd, a hynny ers cwpl o wythnosau bellach. Ond er i ni gael cyfnod byr o aer oer o'r Arctig yn ddiweddar, nid dyna'r rheswm.

Yn feteorolegol, mae'r tymor wastad yn dechrau ar 1 Medi. Ond os ydych chi'n dilyn y dyddiad seryddol, mae'r hydref - yn hemisffer y gogledd - yn dechrau ar 22 Medi eleni.

Does dim un dyddiad yn anghywir - mae'r ddau yn cael eu defnyddio am wahanol resymau.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Alex yn cyflwyno'r tywydd ar S4C

Pam fod dau ddyddiad?

Yn syml, mae un wedi seilio ar orbit y ddaear o amgylch yr haul, tra bod y llall wedi ei ddewis er mwyn gwneud hi'n haws i gadw cofnodion a chymharu data; rhywbeth mae arbenigwyr wedi ceisio gwneud ers o leia'r 18fed ganrif.

I feteorolegwyr, mae'n well i'r tymhorau gael eu rhannu'n hafal i bedwar tymor o dri mis, gyda phob un yn dechrau ar y cyntaf:

  • 1 Mawrth ar gyfer y gwanwyn

  • 1 Mehefin ar gyfer yr haf

  • 1 Medi ar gyfer yr hydref

  • 1 Rhagfyr ar gyfer y gaeaf.

Mae hyn yn helpu'r arbenigwyr i gymharu data, fel tymereddau a chyfanswm glawiad, o flwyddyn i flwyddyn.

Ond y dyddiad seryddol ddaeth gyntaf. Mae pobl wedi bod yn edrych tua'r nen i fesur amser ers miloedd o flynyddoedd.

Ffynhonnell y llun, Gareth Morris
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhaeadr Sychryd yn ardal Castell-nedd

Pam 22 Medi?

Wrth ddilyn tymhorau seryddol, mae pedwar digwyddiad pwysig yn ddiffinio'r newid yn y tymhorau, ac yn rhan allweddol o orbit y ddaear o gwmpas yr haul:

  • cyhydnos y gwanwyn

  • hirddydd yr haf

  • cyhydnos yr hydref

  • heulsaf y gaeaf.

Cyhydnos yr hydref yw dechrau tymor yr hydref. Mae'n ddyddiad sy'n gallu amrywio 'chydig bach, ond mae'n digwydd unai ar neu o gwmpas 22 Medi. Dyna pan mae'r haul union uwchben y cyhydedd, ac felly mae hyd y nos a'r dydd yn weddol hafal - 12 awr o oleuni, a 12 awr o dywyllwch.

Ar 么l y dyddiad yma, mi fyddwn ni'n gweld llai a llai o oriau golau dydd, a bydd y dyddiau'n teimlo'n fyrrach wrth iddi nosi'n gynt.

Ffynhonnell y llun, Elin Vaughan Crowley
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Parc Dolerw, ger Machynlleth

Edrych tua'r gaeaf... a thu hwnt

Wrth i fis Rhagfyr agos谩u, bydd y ddaear (rhan hemisffer y gogledd) yn gogwyddo oddi wrth yr haul, ac erbyn 21 Rhagfyr, bydd yr haul wedi cyrraedd ei fan isaf yn yr awyr yn ystod y dydd, gan nodi heulsaf y gaeaf (neu'r byrddydd gaeaf).

Ar 么l hynny, mi fydd oriau golau dydd yn dechrau cynyddu unwaith eto.

Ond arwydd arall bod yr hydref wedi hen gyrraedd ydy pan mae'r clociau'n troi'n 么l. Eleni, mae hynny'n digwydd am 2am, ddydd Sul 27 Hydref.

A'r tro 'ma - yn groes i'r hyn sy'n digwydd yn y gwanwyn - mi gawn ni awr ychwanegol yn y gwely. Rheswm arall dwi'n hoffi'r hydref.

Pynciau cysylltiedig