Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynhyrchu dur yn y dull traddodiadol yn dod i ben ym Mhort Talbot
- Awdur, Huw Thomas
- Swydd, Gohebydd Busnes 大象传媒 Cymru
Mae ffwrnais chwyth 4 ym Mhort Talbot wedi cynhyrchu dur am y tro olaf, gan ddod 芒'r dull traddodiadol o wneud dur yn ne Cymru i ben.
Fe wnaeth Tata Steel echdynnu鈥檙 haearn hylifol olaf o ffwrnais chwyth 4 brynhawn Llun.
Mae cau鈥檙 ffwrneisi yng ngweithfeydd dur mwyaf y DU yn rhan o ailstrwythuro a fydd yn cael gwared 芒 2,800 o swyddi.
Bydd cynhyrchu dur ym Mhort Talbot yn y dyfodol yn dibynnu ar fewnforion, cyn adeiladu ffwrnais drydan a fydd yn toddi dur sgrap.
鈥淧an 'nes i ddechrau roedd dros 10,000 o bobl yn gweithio yna. Mae lot o newidiadau wedi bod dros y blynyddoedd, a鈥檙 holl ansicrwydd,鈥 meddai Rhydian Mizen, sy鈥檔 71.
Dilynodd ei dad i weithio yng ngwaith dur Port Talbot am 38 o flynyddoedd cyn ymddeol.
鈥淢ae鈥檔 ddiwedd cyfnod, diwedd oes y gwaith dur traddodiadol ym Mhort Talbot,鈥 meddai.
鈥淩oedd fy nhad yn gweithio yna cyn y rhyfel, a ffrindiau yn gweithio yna.鈥
Mae ganddo ddau fab sy鈥檔 gweithio yna ar hyn o bryd ac sy鈥檔 aros i glywed os yw eu swyddi yn diflannu.
Er y newidiadau mawr, mae Rhydian yn croesawu鈥檙 ffaith bod ffwrnais drydan newydd yn dod i Bort Talbot yn y dyfodol.
鈥淢ae yna o hyd, ac fe fydd e yna dros y blynyddoedd i ddod,鈥 meddai.
Mae ffwrneisi chwyth yn cynhyrchu haearn tawdd trwy hollti mwyn haearn - adwaith cemegol sydd angen tymheredd uchel, ac sy'n allyrru lefelau uchel o garbon.
Dyma鈥檙 ffordd i wneud dur cynradd, gan ei fod yn echdynnu haearn o'i ffynhonnell wreiddiol ac wedyn yn cael ei drin i greu pob math o ddur.
Cafodd y 大象传媒 ganiat芒d i recordio y tu mewn i'r ffwrnais chwyth wrth i'r broses ddod i ben.
鈥淩ydw i wedi bod yno sawl gwaith, ond mae dal yn drawiadol iawn i mi,鈥 meddai James Raleigh.
Fel rheolwr technegol gwaith yr adran golosg, sinter a haearn, mae Mr Raleigh wedi bod yn aelod o鈥檙 t卯m sy鈥檔 gyfrifol am y ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot.
"Mae鈥檙 diwydiant yma yn gweithio ar raddfa hollol enfawr. Mae'n dal yn drawiadol iawn bob tro dwi'n mynd i mewn yno," meddai.
Mae tymheredd y tu mewn i'r ffwrnais yn cyrraedd dros 2000C, gyda haearn hylifol yn cael ei echdynnu gan weithwyr ac yn llifo allan ar dymheredd o tua 1500C.
Cafodd y gyntaf o ddwy ffwrnais chwyth Port Talbot ei chau ym mis Gorffennaf, a bydd cau鈥檙 ail yn nodi diwedd y gwaith dur cynradd yng Nghymru.
Mae Tata Steel UK wedi dweud yn gyson bod y gweithfeydd a鈥檙 ffwrneisi chwyth yn gwneud colled o 拢1m y dydd.
Bydd buddsoddi 拢1.25bn mewn ffwrnais drydan yn lleihau allyriadau ac yn sicrhau dyfodol cynhyrchu dur.
Mae llywodraeth y DU yn cyfrannu 拢500m tuag at gost y dechnoleg newydd ac mae disgwyl i鈥檙 gwaith adeiladu ddechrau ym mis Awst 2025.
Yn y cyfamser bydd dur wedi鈥檌 fewnforio yn cael ei felino ym Mhort Talbot, ac yn parhau i gyflenwi cwsmeriaid a safleoedd eraill Tata yn Nhrostre, Llanwern a Shotton.
Dywedodd yr Athro Geraint Williams o Brifysgol Abertawe fod diwedd cynhyrchu drwy鈥檙 ffwrnais chwyth yn 鈥渄robwynt mewn gwneud dur鈥 yn y DU, gyda鈥檙 newid i dechnoleg y ffwrnais drydan yn her newydd.
鈥淢ae anfantais i hynny. Ffordd o ailgylchu dur yw defnyddio鈥檙 ffwrnais drydan, i aildoddi鈥檙 dur.
鈥淵n y broses yna, 'da chi ddim yn creu dur cynradd. Chi鈥檔 gorfod ailgylchu鈥檙 dur sydd yn y system yn barod. Ac wrth gwrs mae amhureddau a phethau yn cael eu cynnwys yn y dur.鈥
Fe fydd rhaid mewnforio dur yn ystod y cyfnod ar 么l i鈥檙 ffwrnais chwyth gau a chyn i鈥檙 ffwrnais drydan agor.
Ond fe fydd 鈥渕athau arbennig o ddur ddim yn gallu cael eu cynhyrchu鈥 ym Mhrydain gyda鈥檙 dechnoleg newydd, yn 么l yr Athro Williams.
鈥淔yddwn ni鈥檔 gorfod dibynnu ar fewnforio dur cynradd o wledydd eraill i allu gwneud hynny.鈥
Ymateb gwleidyddol
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Llun, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan bod heddiw yn "ddiwrnod trist ac yn ddiwedd pennod yn hanes gwneud dur yng Nghymru, ond ddim yn ddiwedd ar 'neud dur [yn gyfangwbl] yng Nghymru."
Roedd o'r farn fod 'na "fai ar y llywodraeth Tor茂aid diwethaf" am iddyn nhw beidio "paratoi ar gyfer strategaeth ddiwydiannol newydd".
Dywedodd fod cau y ffwrneisi chwyth wedi effeithio'r ardal yn fawr: "Swyddi dal yn cael eu colli, t芒l da a'r effaith seicolegol ar yr ardal ac ar ddiwylliant y lle".
Aeth ymlaen i ddweud bydd "buddsoddiad anferthol o 拢1.25bn yn mynd i'r electric arc furnace newydd 'ma" gan ychwanegu bydd "500 o swyddi newydd yn cael eu creu er mwyn adeiladu'r ffwrnais drydan newydd" yn y gwanwyn.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi ac Aelod Senedd Gorllewin De Cymru, Luke Fletcher: "Mae hyn yn fwy na dim ond ffatri'n cau - dyma ddiwedd ar waith dur Cymru a bywoliaeth gweithwyr di-ri a theuluoedd.
鈥淢ae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro o blaid pwysigrwydd strategol gwneud dur i fuddiannau economaidd Cymru, diogelwch cenedlaethol a鈥檙 llwybr i sero net.
"Mae鈥檔 siomedig tu hwnt bod y ddwy blaid yn San Steffan wedi caniat谩u i hyn ddigwydd.
"Ni allwn adael i鈥檙 drasiedi hon ddiffinio dyfodol ein heconomi; rhaid inni nawr gynllunio ar gyfer adfywiad ein diwydiant dur a鈥檙 swyddi medrus iawn y mae鈥檔 eu darparu.鈥
Adeg cyhoeddi'r newyddion dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Geidwadol y DU eu bod "yn benderfynol o sicrhau dyfodol cynaliadwy a chystadleuol i ddiwydiant dur y DU", a'u bod wedi rhoi 拢500m i'r safle er mwyn "amddiffyn miloedd o swyddi".