Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Carcharu dyn o'r de am ysgogi casineb crefyddol
Mae dyn 43 oed o Donypandy wedi cael ei ddedfrydu i ddwy flynedd yn y carchar ar 么l cyfaddef cyhoeddi deunydd oedd 芒'r bwriad o ysgogi casineb crefyddol.
Fe wnaeth Geraint Boyce gyhoeddi sawl neges ar Facebook yn ystod y terfysgoedd yn ystod yr haf, a ddaeth yn dilyn llofruddiaeth tri o blant yn Southport.
Dywedodd y barnwr fod y negeseuon yn cynnwys "deunydd bygythiol i greu drwgdeimlad crefyddol".
Yn 么l yr erlyniad roedd y negeseuon yn dangos "meddylfryd asgell dde a oedd wedi eu cymell gan grefydd a hiliaeth".
Dywedodd yr erlyniad fod yr aflonyddwch cymdeithasol ar y pryd yn "gyd-destun pwysig".
Galw am losgi mosgiau
Fe gychwynnodd yr ymchwiliad ar 么l i AS Rhondda Buffy Williams gysylltu 芒'r heddlu ar 么l sylwi ar y negeseuon ar-lein yn gynnar fis Awst.
Roedd negeseuon Boyce yn cynnwys cyfres o luniau a sylwadau a oedd ar gael i'w gweld yn gyhoeddus.
Roedd y negeseuon yn cynnwys galw am losgi mosgiau tra bod pobl y tu mewn, ac i longau gael eu boddi ynghyd 芒'r rheiny oedd arni.
Dywedodd un neges ei fod "yn barod am ryfel", tra bod un arall yn dweud ei bod hi'n "amser i ymladd".
Roedd negeseuon eraill yn cynnwys baner yr undeb, ac roedden nhw'n wrth-Islamaidd.
Cydnabod fod ei farn yn 'anghywir'
Pan gafodd ei arestio, fe holodd Boyce "os yw hyn oherwydd y pethau ar-lein i wneud gyda'r terfysgoedd".
Yna fe wrthododd wneud sylw pan gafodd ei holi gan yr heddlu.
Dywedodd yr erlyniad fod y drosedd wedi gwaethygu gyda'i fwriad o "annog trais" a'r "darlun cenedlaethol" o'r terfysgoedd oedd yn digwydd ar y pryd.
Yn 么l cyfreithiwr Boyce, Nick Gedge, mae ganddo "gywilydd o'r hyn roedd wedi ei wneud" a'i fod "wedi cael y syniadau o'r hyn welodd ar-lein".
Dywedodd ei fod bellach yn cydnabod fod y farn honno yn "anghywir".