大象传媒

50 mlynedd ers sefydlu Heddlu'r Gogledd

Heddlu Gogledd Cymru
  • Cyhoeddwyd

Eleni mae hi'n 50 mlynedd ers ffurfio Heddlu Gogledd Cymru fel llu swyddogol wedi cyfnod hir o weithredu fel rhanbarth.

Heddlu Gwynedd oedd enw'r llu cyn 1974, ac roedd hynny o ganlyniad i uno sawl cwnstabliaeth rhanbarthol ar draws y gogledd.

Rhywun sy'n cofio'r cyfnod yw'r cyn-dditectif o Abergele, Mel Jones.

Fe ymunodd Mr Jones 芒'r llu yn 1978, ac fe wnaeth ymddeol yn 2012. Mae wedi sylwi ar y newid enfawr sydd wedi bod ers y dyddiau cynnar.

Disgrifiad,

Pencadlys newydd Heddlu Gogledd Cymru yn agor yn 1973

'Cerdded oriau ar y b卯t'

"Yn sicr mae newid sylweddol wedi bod, ac am y gorau hefyd yn fy marn i.

"Beiro a llyfr poced oedd gynnom ni bryd hynny, ond r诺an mae'r wybodaeth yn gallu cyrraedd swyddog ar y stryd o fewn eiliadau gyda'r dechnoleg ddiweddara'.

"Doedd dim DNA na dim n么l bryd hynny, dim ond olion bysedd.

"Roedden ni'n cerdded y stryd am oriau ar y b卯t hefyd ond mae hynny wedi newid achos fod yr alwad ar yr heddlu wedi newid.

"Mae swyddogion heddiw yn delio efo pethau y dylai gwasanaethau eraill fod yn ei gneud. Pethau fel iechyd meddwl a phobl s芒l.

"Ond mae'r heddlu yno i helpu pobl, felly pan mae galwadau fel hyn yn dod fewn fedrwch chi ddim eu hanwybyddu nhw," meddai.

Roedd sawl lleoliad yn cael ei ystyried ar gyfer pencadlys newydd y llu ond yn 1973 fe godwyd adeilad ym Mae Colwyn a oedd ar y pryd yn cael ei ystyried fel y gorau ym Mhrydain o ran gwasanaethu'r heddlu.

Roedd yn leoliad canolog i'r gogledd, oedd hefyd yn cynnig cyfleusterau hamdden, llety i swyddogion oedd yn gweithio oriau hir ac ystafell reoli gyda'r dechnoleg ddiweddara.

Yr iaith Gymraeg

Un elfen o'r llu sydd wedi newid hefyd yw'r agwedd tuag at y Gymraeg.

Roedd swyddogion oedd yn ymuno ar ddechrau'r 1970au yn cael eu cymell i "ddysgu mwy o Saesneg", ond erbyn hyn mae pwyslais ar y Gymraeg.

Dywedodd Mel Jones: "Erbyn hyn mae disgwyl i bob swyddog sy'n gorffen ei probation gyrraedd lefel benodol o allu siarad Cymraeg," meddai.

Gwrandewch ar gyfweliad y cyn dditectif, Mel Jones ar raglen Dros Ginio 大象传媒 Radio Cymru.

Pynciau cysylltiedig