Protest heddychlon yn erbyn cynllun gorsaf radar

Disgrifiad o'r llun, Gwrthwynebwyr tu allan i'r neuadd yn Solfach nos Wener ble roedd cyfle i holi cynrychiolwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn am y cynllun gorsaf radar
  • Awdur, Aled Scourfield
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae ymgyrchwyr yn erbyn cynllun i godi 27 o ddysglau radar yn Sir Benfro wedi cynnal protest heddychlon y tu allan i ddigwyddiad gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Solfach.

Mae gwrthwynebwyr cynllun DARC, fel mae'n cael ei alw, wedi sefydlu gwersyll bach ger Barics Cawdor - y safle sydd wedi ei ddewis ar gyfer y cynllun.

Fe wisgodd nifer o bobl arwyddion 'Dim Radar' o gwmpas eu gyddfau yn y digwyddiad yn Neuadd Goffa Solfach, wrth holi swyddogion y Weinyddiaeth Amddiffyn am y cynllun.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod cynllun DARC yn hanfodol i ddilyn gwrthrychau ymhell yn y gofod a diogelu rhwydweithiau cyfathrebu lloeren a llywio.

Ffynhonnell y llun, US Space Force

Disgrifiad o'r llun, Dysglau tebyg i'r rhai yma fyddai'n cael eu hadeiladu ar Faracs Cawdor

Mae dros 15,000 o bobl bellach wedi arwyddo deiseb ar-lein yn gwrthwynebu'r cynllun i adeiladu 27 o ddysglau radar yn agos iawn at Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Ym mis Awst, cadarnhaodd y Weinyddiaeth Amddiffyn eu bod yn bwrw ymlaen 芒'r cynllun.

Wrth i'r Weinyddiaeth Amddiffyn gynnal diwrnodau gwybodaeth cyhoeddus yn Solfach a Thyddewi, dywedodd y Comodor David Moody o'r UK Space Command bod "diogelwch yn fater pwysig iawn i ni".

Ychwanegodd: "Fe fyddwn ni yn dilyn canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd. Mae'r dysglau wedi cael eu profi yn New Mexico yn barod, gan Brifysgol John Hopkins, a doedd yna ddim problemau."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y Comodor David Moody bod "diogelwch yn fater pwysig iawn" i'r UK Space Command

Un sy'n bryderus am y cynllun ydy Brian Jones, Is-Gadeirydd CND Cymru.

Dywedodd: "Rydym yn erbyn am sawl rheswm - yr effaith yr amgylchedd, twristiaeth, iechyd.

"Fel rhan o'r mudiad heddwch ein prif bryder yw mae'n rhan o'r US Space Corp.

"Maen nhw yn paratoi i ryfela yn y gofod, er mwyn i luoedd arfog America fod yn llwyddiannus ar y ddaear.

"Mae gan y Weinyddiaeth Amddiffyn gyflwyniad eitha slic. Maen nhw yn gwneud PR job eitha slic ond dyna i gyd yw e."

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cynllun yn destun pryder mawr i'r mudiad heddwch, medd Brian Jones o CND Cymru

Cyngor Sir Benfro fydd yn penderfynu yn y pendraw a fydd cynllun radar DARC yn cael ei adeiladu ym Mreudeth.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn dweud ei bod wedi ymrwymo i gynnal "yr holl brosesau cynllunio ac amgylcheddol angenrheidiol i gael caniat芒d" a bod "Asesiad Effaith Amgylcheddol cynhwysfawr, gan gynnwys Asesiad o'r Effaith ar y Dirwedd a Gweledol, ar y gweill".

Mae'n dweud y bydd yn rhaid i DARC gwrdd 芒 safonau amgylcheddol a iechyd rhyngwladol a osodwyd gan y Comisiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu Ymbelydredd An-茂oneiddio (ICNIRP) a Sefydliad Iechyd y Byd.

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Cadeirydd Cymdeithas Waldo, Y Parchedig Eirian Wyn Lewis, fe fyddai'r bardd ei hun, fel heddychwr, wedi gwrthwynebu'r cynllun

Mae rhai heddychwyr yn bryderus iawn yngl欧n a鈥檙 datblygiad.

Y Parchedig Eirian Wyn Lewis yw Cadeirydd Cymdeithas Waldo, sydd wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Phrydain i leisio gwrthwynebiad.

"Ry'n ni wedi sgwennu llythyr yn enw鈥檙 gymdeithas at John Healey yn Llundain ac i鈥檙 Prif Weinidog Eluned Morgan yng Nghaerdydd yn gwrthwynebu yn chwyrn iawn bod hyn yn digwydd achos fydde fe yn rhywbeth fydde Waldo [Williams] ei hunan fel heddychwr yn ei erbyn e ac yn anfodlon iawn bod y peth yn bosib yn digwydd fanna.

"Yn naturiol 'se fe digwydd dod - a gobeithio Dduw na fydd e yn digwydd - ond os bydde fe yn dod bydde fe yn darged ar gyfer beth alle ddigwydd yn y dyfodol yma."

Disgrifiad o'r llun, Mae Jan Powell (chwith) a Penny Dafforn (dde) ymhlith y gwrthwynebwyr a sefydlodd wersyll bach ger Barics Cawdor

Rhwydwaith radar ydy DARC ar y cyd rhwng y DU, yr Unol Daleithiau ac Awstralia sy'n darparu monitro byd-eang o'r gofod, ac sy'n cynyddu'r gallu i ganfod, olrhain ac adnabod gwrthrychau yn ddwfn yn y gofod.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, John Healey: "Bydd y rhaglen radar newydd hon nid yn unig yn gwella ein hymwybyddiaeth o'r gofod, ond hefyd yn helpu i amddiffyn ein hasedau yn y gofod ochr yn ochr 芒鈥檔 partneriaid agosaf."

Disgrifiad o'r llun, Rhai o'r baneri sy'n dangos gwrthwynebiad i'r cynllun gorsaf radar

Roedd disgwyl i Farics Cawdor gau erbyn 2028, ond bydd ailddatblygu鈥檙 safle ar gyfer DARC yn ei gadw ar agor gyda 100 o swyddi鈥檔 cael eu creu i weithredu a chynnal y radar.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens wedi dweud y bydd y datblygiad yn "sicrhau swyddi yn yr ardal" ac yn "brosiect pwysig i Sir Benfro".

Mi allai cais cynllunio gael ei gyflwyno yn 2025, ac mi allai'r gwaith adeiladu ddechrau yn hwyr yn 2026 os ydy'r cais yn cael ei ganiat谩u.