'Am fenyw!' - Dadorchuddio cerflun Arglwyddes Rhondda
- Cyhoeddwyd
Mae cerflun i anrhydeddu Arglwyddes Rhondda wedi cael ei ddadorchuddio yng nghanol dinas Casnewydd ddydd Iau.
Roedd Margaret Haig-Thomas yn swffrag茅t, yn ddynes fusnes, yn newyddiadurwr ac yn ymgyrchydd gydol oes dros hawliau menywod.
Dyma'r pedwerydd o bum cerflun i gael ei godi yn dilyn ymgyrch genedlaethol i anrhydeddu arwresau cudd Cymru gan y gr诺p Monumental Welsh Women.
Cafodd y cerflun efydd a dur wyth troedfedd o daldra ei ddadorchuddio mewn seremoni ger Pont Droed y Mileniwm yng Nghasnewydd.
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2022
Arweiniodd Arglwyddes Rhondda, neu Margaret Haig-Thomas, ymgyrch 40 mlynedd i ganiat谩u i ferched eistedd yn Nh欧'r Arglwyddi.
Fe dreuliodd hi gyfnod yn y carchar ar 么l cynnau t芒n mewn blwch post fel rhan o'i hymdrechion i ymladd dros hawliau merched.
Fel newyddiadurwr, sefydlodd a golygodd y cylchgrawn gwleidyddol wythnosol, Time and Tide, a hi oedd cyfarwyddwr benywaidd cyntaf Sefydliad y Cyfarwyddwyr.
Bu farw Arglwyddes Rhondda ym 1958, ychydig cyn i'r gyfraith y bu'n ymladd mor daer drosti gael ei chyflwyno.
Dywedodd Helen Molyneux, cadeirydd Monumental Welsh Women,聽fod Arglwyddes Rhondda yn "fenyw ysbrydoledig a frwydrodd dros hawliau menywod trwy gydol ei bywyd".
"Ein gobaith yw y bydd y cerflun hwn yn ysbrydoliaeth i fenywod a merched Casnewydd wneud yr un peth," meddai.
Ychwanegodd Julie Nicholas o鈥檙 Ymgyrch Cerflun i Arglwyddes Rhondda, eu bod wedi llwyddo i "osod merch fwyaf adnabyddus Casnewydd ar bedestal yng nghanol y ddinas".
"Rydym mor falch bod stori Arglwyddes Rhondda a鈥檌 chysylltiadau cryf 芒 Chasnewydd wedi鈥檜 plethu trwy ddyluniad y gofeb; o鈥檌 hymgyrchu am bleidlais i fenywod i鈥檞 harweinyddiaeth fusnes a diwylliannol, a鈥檙 ymdeimlad o chwaeroliaeth wnaeth ei hysbrydoli i weithio mor galed i wella bywydau a hawliau menywod a phlant."
Mae Monumental Welsh Women wedi cefnogi ymgyrchoedd i godi sawl cerflun dros y blynyddoedd diwethaf:
Betty Campbell - Caerdydd (Medi 2021)
Elaine Morgan - Aberpennar (Mawrth 2022)
Cranogwen - Llangrannog (Mehefin 2023)
Arglwyddes Rhondda - Casnewydd (Medi 2024)
Elizabeth Andrews - Lleoliad i'w gadarnhau (2025)
Jane Robbins yw'r artist a gafodd ei chomisiynu i greu'r cerflun o Arglwyddes Rhondda.
Mae ei gwaith blaenorol yn cynnwys cerflun o'r ffotograffydd Americanaidd Linda McCartney yn Yr Alban, a phenddelw o arweinydd y Swffragetiaid, Emmeline Pankhurst ym Manceinion.
"Gan fy mod yn falch o ddod o gefndir Cymreig, roedd yn bleser ac yn anrhydedd pan ofynnwyd i mi greu cerflun o Arglwyddes Rhondda," meddai.
"Hefyd, fel cerflunydd benywaidd mewn proffesiwn lle mae鈥檙 mwyafrif yn ddynion, roeddwn i鈥檔 meddwl, 'am fenyw!'
"Roedd hi o flaen ei hoes a gwrthododd gymryd 'na' fel ateb, wrth iddi fynd ati鈥檔 ddewr i newid bywydau menywod yn y DU er gwell.
"Mae ei gweithredoedd hi'r un mor berthnasol heddiw ag oeddent ganrif yn 么l."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd29 Medi 2021