Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Meddwl am y Nadolig yn rhoi 'ofn' i rai sy'n ddibynnol ar fanciau bwyd
- Awdur, Garry Owen
- Swydd, Gohebydd Arbennig 大象传媒 Radio Cymru
Mae Samantha Price yn dweud fod y banc bwyd yn achubiaeth iddi ers colli ei swydd, ac yn ei helpu i fwydo ei merch 12 oed.
"Rwy'n cymryd un dydd ar y tro," meddai.
"Dwi ddim yn gallu edrych 'mlaen o gwbl ac mae hyd yn oed meddwl am Nadolig yn rhoi ofn i fi."
Fe wnaeth 19,000 o bobl ymweld 芒 banc bwyd am y tro cynta' rhwng Ebrill a Medi eleni.
Mae'r elusen Trussell yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i daclo ac atal y galw am becynnau bwyd brys yn y gyllideb fis nesaf.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i daclo tlodi.
'Rhowch eich balchder i'r ochr'
Dyw cymryd y cam cyntaf ddim yn hawdd, meddai Samantha, sy'n ymweld 芒'r banc bwyd yn Aberbargoed, Sir Caerffili.
"Des i yma am y tro cynta' yn 2018. Roeddwn i newydd golli fy swydd," meddai.
"Dim incwm ac ar fudd-daliadau ar y pryd. Dwi mor falch i mi ddod a gofyn am help.
"Mae'r banc bwyd yn rhoi reis, swp, saws pasta, herbs, llefrith sy'n hanfodol, nwyddau ymolchi a glendid personol. Popeth chi angen.
"Os oes rhywun mewn sefyllfa debyg i mi, pl卯s, rhowch eich balchder i'r naill ochr a cysylltwch am help."
Mae Ceri Robbins yn swyddog prosiect gyda banc bwyd Cwm Rhymni, ac wrth drafod gwaith y banc mewn capel bach ar y stryd fawr yn Aberbargoed, mae hi'n rhestru'r bobl sy'n galw mewn i gasglu parseli bwyd.
"Pobl sy' chwant bwyd a phobl sy' ddim yn gallu fforddio trydan a nwy. Teuluoedd, pobl sengl a phobl heb rh'wle i fyw. Pobl sy'n gweithio hefyd a phobl sy'n s芒l."
Ychwanegodd: "Ry' ni yn brysur iawn iawn, nid jyst yn dosbarthu bwyd ond ry' ni yn rheoli sesiynau yn Rhymni, Tredegar Newydd ac Aberbargoed ar wahanol ddyddie yr wthnos. [Mae] lot o bobl yn dod i rheina am gyngor ag ati."
Esboniodd hefyd eu bod yn "delio 芒 vouchers nwy a thrydan i helpu".
Beth yw'r ffigyrau?
Yn 么l elusen Trussell roedd eu banciau bwyd wedi dosbarthu dros 80,000 o barseli bwyd brys yng Nghymru rhwng Ebrill a Medi eleni.
Roedd rheiny yn cynnwys 29,000 o barseli i blant.
Er hynny mae Trussell yn dweud iddyn nhw weld gostyngiad bychan o 5,920 yn y galw am barseli bwyd ar draws Cymru o'i gymharu 芒'r un cyfnod y llynedd - sy'n cyfateb i ostyngiad o 7%.
Ond mae'r ffigwr dal 42% yn uwch nag oedd e yn 2019.
Mae pobl yn gorfod troi at y banciau bwyd, meddai'r elusen, gan nad yw'r incwm maen nhw yn ei gael o'r gwaith a thaliadau budd-dal yn ddigon i dalu am gost nwyddau hanfodol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi cyhoeddi yn ddiweddar 拢700,000 yn ychwanegol i'r Fuel Bank Foundation," a'u bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i daclo tlodi.
Ychwanegodd y byddan nhw'n "gwneud eu penderfyniadau gwariant wrth iddyn nhw ddatblygu eu cyllideb ddrafft yn yr wythnosau sydd i ddod, a bydd yn cael ei gyhoeddi fis nesaf".