Hen waith dur Brymbo i droi'n ganolfan dreftadaeth

Ffynhonnell y llun, Stori Brymbo

Disgrifiad o'r llun, Gallai rhannau o'r ganolfan dreftadaeth fod yn barod i'w hagor y flwyddyn nesaf
  • Awdur, Dafydd Evans
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae cymuned yn y gogledd o gollodd ei gwaith dur dros dri degawd yn 么l ar fin ailafael yn eu hanes.

Fe gollodd dros 1,000 o bobl eu swyddi pan gaeodd gwaith dur Brymbo, ger Wrecsam, ym 1990 ac mae鈥檙 safle wedi bod yn segur ers hynny.

Ond nawr bydd yr hyn sy'n weddill yn cael ei ddatblygu'n ganolfan dreftadaeth.

Mae'r datblygwyr yn credu y bydd ffosiliau o goed 300 miliwn o flynyddoedd yn 么l yn gwneud y safle'n atyniad unigryw.

Cafodd Brymbo ei droi'n bentref diwydiannol gyda'r gwaith glo yn 1796.

Ond gyda datblygiad y diwydiant haearn ac yna dur fe dyfodd y pentref a'r pentrefi cyfagos wrth i'r safle gyflogi dros 2,000 yn ei anterth.

Cafodd Avril Smith ei geni a'i magu ym mhentref cyfagos Lodge.

Fe gollodd hi a'i theulu eu cartref wrth i safle'r gwaith ehangu a gorchuddio adeiladau yn y cwm islaw.

Mae Avril yn disgrifio'r profiad fel un "trist", ond yn dweud ei fod yn "aberth" ar gyfer swyddi.

Disgrifiad o'r llun, Roedd Avril Smith yn gweithio yn ffreutur y gwaith dur am 12 mlynedd

Yn ddiweddarach, aeth hi ei hun i weithio yn ffreutur y gwaith dur am 12 mlynedd, ac mae hi'n cofio cymuned agos.

"Roedd y lle yn fwrlwm - roedd 'na wastad rywun o gwmpas," meddai.

"Efo'r shiffts, clywed pobl yn cerdded lawr y ffordd, clywed s诺n y b诺ts yn clacio ar y ffordd. Roedd y lle yn fyw.

"Roedd y gwaith yn anodd, ond yn lot o hwyl hefyd. Roedd o fel teulu mawr.

"Doedd o ddim yn berffaith, ond roedd o'n lle braf i weithio ac mae pobl yn dal yn ffrindiau heddiw."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Avril Smith a'i diweddar chwaer, Megan, yn gweithio yn ffreutur y gwaith dur

"Pan nes i glywed y cyhoeddiad [bod y lle'n cau] doeddwn i ddim yn gallu credu.

"Ac am fisoedd, blynyddoedd wedyn roeddwn i'n meddwl 'Na, mae rhywbeth yn mynd i ddod. Dydy o ddim yn cau.'

"Roedd o mor drist."

Ffynhonnell y llun, Stori Brymbo

Disgrifiad o'r llun, Wedi i鈥檙 cynhyrchu dur stopio ar 27 Medi 1990, cafodd y rhan fwyaf o鈥檙 offer a鈥檙 adeiladau eu gwerthu i Tsieina, gan adael dros 150 acer o dir diffaith

Cafodd y gwaith ei symud dramor gyda'r adeiladau hynaf, yn cynnwys y ffwrnais wreiddiol, yn cael eu gadael.

Wedi ymdrech hir gan drigolion lleol a chyn-weithwyr, bydd yr adeiladau yma yn cael eu trawsnewid yn ganolfan dreftadaeth Stori Brymbo, gan adrodd hanes y diwydiant glo, haearn a dur.

Ond bydd yr hanes yn mynd ymhellach na hynny diolch i ddarganfyddiad 鈥榗oedwig ffosil鈥 mewn craig gerllaw, yn dyddio'n 么l 314 miliwn o flynyddoedd pan roedd y tir yng Nghymru yn nes at y cyhydedd o dan hinsawdd drofannol.

Disgrifiad o'r llun, Fflasg enfawr o'r gwaith yn sefyll y tu allan i'r siop beirianwaith wreiddiol

Yn 么l palaeontololegydd sy鈥檔 gyfrifol am y rhan hwn o'r prosiect, Dr Tim Astrop, mae'r safle'n "eithriadol o bwysig".

"Dyma'r unig safle o'i fath trwy'r wlad ble mae modd ei gyrraedd yn hawdd, ac mae nifer y ffosiliau yma yn anhygoel - miloedd ar filoedd," meddai.

"'Dach chi'n llythrennol yn baglu drostyn nhw fyny fan 'na!鈥

Disgrifiad o'r llun, Dywed Dr Astrop bod y graig yn gyfoethog mewn ffosiliau a gafodd eu darganfod ar 么l i鈥檙 glo oedd uwch eu pen gael ei gloddio oddi yno

Bydd craig y 鈥榞oedwig ffosil鈥 yn cael ei gorchuddio gan adeilad newydd fydd yn ailgreu'r hinsawdd drofannol, lle bydd modd i ymwelwyr gerdded ymysg y ffosiliau wrth i balaeontololegwyr weithio.

Bydd y ganolfan dreftadaeth felly'n adrodd hanes carbon - o sut cafodd ei amsugno gan y planhigion a鈥檌 gloi yn y tir am filiynau o flynyddoedd, ac yna ei ryddhau'n 么l i'r amgylchedd am 200 mlynedd wedi'r chwyldro diwydiannol.

"Mae carbon yn rhywbeth mae angen i blant fod yn ymwybodol ohono, ond falle nad ydyn nhw'n ei ddeall yn iawn," medd Dr Astrop.

"Mae gennym gyfle i ddweud yr hanes yn fa'ma."

Disgrifiad o'r llun, Ffosiliau coed a gafodd eu darganfod fis yn 么l wrth i'r safle gael ei baratoi ar gyfer gwaith adeiladu

Mae disgwyl i'r datblygiad greu 25 o swyddi ac mae Avril Smith yn falch bod y safle'n cael ei ailddatblygu.

"Dwi'n teimlo'n reit gyffrous i feddwl bod rhywbeth wedi cael ei safio o'n hanes ni," meddai.

"Dydy popeth ddim wedi diflannu.

"Does dim llawer ar 么l ond mae'n job fawr nawr."