Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ai dyma'r oen trymaf yng Nghymru?
Mae ffermwr o Bowys yn dweud nad yw wedi gweld "dim byd tebyg" o'r blaen ar 么l i oen gael ei eni'n pwyso 16 cilogram.
Ar y Bwletin Amaeth ar Radio Cymru fore Mercher, bu Meilir Jones yn s么n am ei syndod pan ddaeth yr oen ar y fferm yn Llangadfan fore Sul.
Mae鈥檙 oen dros dair gwaith maint oen arferol, sydd tua pum cilogram, ac yn pwyso yr un faint 芒 phlentyn tair neu bedair oed.
Roedd adroddiadau o oen 11 cilogram yn cael ei eni yng Nghymru rai blynyddoedd yn 么l, a dywedodd Mr Jones bod yr oen ddiweddaraf yn "record i fi, beth bynnag!".
Yn 么l Mr Jones, fe sylwodd bod y ddafad yn dechrau wyna fore Sul cyn mynd ati i borthi鈥檙 defaid, ac roedd yn ymwybodol ei bod yn cario un oen.
鈥淲eles i ei draed o鈥檔 sticio allan a鈥檌 drwyn o, ac o鈥檔 i鈥檔 meddwl, mae鈥檔 dod ffordd reit, so wnes i drio helpu hi gael o allan.
鈥淲nes i jyst rhoi fy llaw i fewn yn y ddafad a dechrau teimlo鈥檙 oen 'ma a meddwl 鈥榤ae hwn yn dipyn o seis鈥!
鈥淕es i鈥檙 ddwy goes allan a ddoth y pen allan yn ddim problem. 'Di o si诺r ddim mor fawr 芒 hynny, os 'di ben o鈥檔 gallu dod allan鈥, o鈥檔 i鈥檔 meddwl.
鈥淣es i gychwyn tynnu a tynnu a tynnu... a ddoth o allan fel lwmp mawr; godes i o fyny ac o鈥檔 i鈥檔 gw'bod yn iawn bod hwn yn dipyn o oen.
鈥淲nes i bwyso fo ac roedd y cloc yn deud 16 cilogram... massive!"
Doedd Meilir ddim wedi cael unrhyw arwydd bod y ddafad yn cario oen mor fawr.
鈥淪wn i鈥檔 disgwyl o 'se ni pedair wythnos fewn i wyna, gan bo ni鈥檔 蹿别别诲颈辞鈥檙 defaid i gychwyn ffwrdd a fyny tan mae nhw jyst di wyna, ond ni 'mond newydd ddechre wyna wythnos yma felly o鈥檔 i ddim yn disgwyl iddo fod yn oen mor fawr 芒 hynny.鈥
Dywedodd iddo gael sioc bod y ddafad "di bod yn cuddio鈥檙 oen mawr 'ma tu fewn iddi".
鈥淥鈥檔 i鈥檔 lwcus bod yr oen 'di dod ffordd reit...
"O鈥檔 i鈥檔 hen ddigon ffyddiog y bydde鈥檔 dod allan. Os fyswn i ddim yn ffyddiog, byswn i di ffonio鈥檙 fet a gadael i鈥檙 professionals wneud eu job a cael o allan cyn i bethe fynd o chwith.鈥
'Mae'n record i fi'
Dywedodd Recordiau Byd Guinness nad ydyn nhw'n cofnodi pwysau 诺yn er mwyn cadarnhau a oedd yr oen yn record newydd.
Ond yn 么l Mr Jones: 鈥淢ae鈥檔 record i fi, beth bynnag!
"Dwi 'di cael 诺yn mawr o鈥檙 blaen, yn y gorffennol, ond dim byd tebyg i鈥檙 boi bach yma.鈥
Yn dilyn y sioc, dywedodd mai'r "peth gorau ydi oedd dim byd di mynd yn 'rong, fe ddoth o鈥檔 reit, mae鈥檙 ddafad a鈥檙 oen yn fyw so 鈥榥a鈥檙 peth mwya pwysig, dwi鈥檔 meddwl".
Ac a fydd enw i'r oen newydd?
鈥淢ae gen i ambell enw di popio fyny yn fy mhen, rhywbeth sy鈥檔 mynd i matcho personality鈥檙 oen, dwi鈥檔 meddwl, rhywbeth fel Rocky falle? Mi geith o enw."
Nid maint yr oen ond nifer yr wyn oedd y syrpreis ar fferm ger y Bala y llynedd.
Fe ddaru Erin Fflur McNaught gael gael "sioc enfawr" wedi i ddafad roi genedigaeth i chwe oen bach holliach.