大象传媒

Cymru'n galw chwaraewr di-gap i garfan Cwpan y Byd

Taine PlumtreeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Newydd arwyddo i'r Scarlets mae Taine Plumtree

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi cadarnhau bod chwaraewr rheng-么l sydd newydd gyrraedd o Seland Newydd wedi cael ei alw i'r garfan hyfforddi ar gyfer Cwpan y Byd.

Newydd arwyddo i'r Scarlets mae Taine Plumtree, 23, yn dilyn cyfnod yn chwarae i'r Blues a Wellington yn Seland Newydd.

Cafodd Plumtree ei eni yn Abertawe, ac mae'n fab i gyn-brif hyfforddwr Abertawe ac is-hyfforddwr y Crysau Duon, John Plumtree.

Fe chwaraeodd dros Seland Newydd yng Nghwpan Rygbi dan-20 y Byd yn 2019, ac mae hefyd yn gymwys i gynrychioli De Affrica.

Ond fe fydd y blaenasgellwr nawr yn ymuno 芒 charfan Warren Gatland wrth iddyn nhw dreulio pythefnos yn Y Swistir fel rhan o'u paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd yn yr hydref.

"Mae'n chwaraewr rheng-么l chwe troedfedd pum modfedd, does dim lot o'r rheiny ganddon ni yng Nghymru," meddai Gatland.

"Os yw'n gwneud hi i mewn i garfan Cwpan y Byd ai peidio, mae'n bendant yn chwaraewr 'dyn ni eisiau cadw mewn cof ar gyfer y dyfodol."