Newid ffyrdd yn 么l i 30mya i gostio 拢3m-拢5m

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bydd newid rhai ffyrdd yn 么l i 30mya yn costio rhwng 拢3m a 拢5m, meddai ysgrifennydd trafnidiaeth Cymru.

Dywedodd Ken Skates ei fod yn 鈥渇ymryn鈥 o鈥檙 拢32m a wariwyd ar gyflwyno鈥檙 gyfraith 20mya saith mis yn 么l.

Dywed Mr Skates y bydd ei adran yn dod o hyd i'r arian, ac ni fydd cynghorau yn talu'r bil.

Dydd Mawrth gwahoddodd Mr Skates y cyhoedd i gysylltu 芒鈥檜 cynghorau lleol os ydyn nhw am newid terfynau cyflymder, gan ddweud y byddai ffyrdd yn dechrau dychwelyd i 30mya ym mis Medi.

Mae'n dweud y dylai'r terfyn cyflymder gael ei "dargedu" er mwyn amddiffyn pobl, ond cafodd ei feirniadodd gan y Ceidwadwyr am beidio 芒 dileu'r gyfraith 20mya yn llwyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Ken Skates ei benodi'n ysgrifennydd trafnidiaeth yng nghabinet y prif weinidog newydd, Vaughan Gething, ym mis Mawrth

Wrth ateb cwestiynau yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd Mr Skates y byddai'r rhan fwyaf o'r gost yn mynd ar lafur.

鈥淩ydyn ni wedi cynnal amcangyfrifon cynnar o hynny,鈥 meddai.

鈥淐redwn y bydd yn fymryn o鈥檙 costau o weithredu polisi.

鈥淔elly rhwng 拢3m a 拢5m yw鈥檙 hyn rydyn ni鈥檔 ei amcangyfrif.

鈥淣i fydd yn mynd ar ysgwyddau awdurdodau lleol 鈥 fe fyddwn ni鈥檔 dod o hyd i鈥檙 arian hwnnw.鈥

'Gwrando ar bob barn'

Dywedodd arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Andrew Morgan: 鈥淢ae鈥檙 rhan fwyaf o bobl yng Nghymru o blaid terfyn cyflymder is yn eu cymdogaethau, yn enwedig y rhai sy鈥檔 cerdded neu鈥檔 beicio i鈥檙 gwaith neu鈥檙 ysgol, ond mae angen mwy o hyblygrwydd arnom, yn enwedig o ran priffyrdd.

"Mae rhai ffyrdd wedi'u cynnwys na ddylai fod wedi'u cynnwys.

"Fel y gwelsom o'r ddeiseb, mae llawer o bobl yng Nghymru wedi mynegi pryder ynghylch rhai o'r ardaloedd lle mae'r newid wedi'i gyflwyno ac felly mae'n iawn inni wrando ar bob barn."