Dyfodol Warren Gatland i'w benderfynu gan adolygiad URC
- Cyhoeddwyd
Bydd dyfodol y prif hyfforddwr Warren Gatland yn cael ei benderfynu gan adolygiad Undeb Rygbi Cymru (URC) o Gyfres yr Hydref.
Mae'r golled o 45 pwynt i 12 yn erbyn De Affrica dydd Sadwrn yn golygu bod Cymru wedi colli 12 g锚m brawf yn olynol, sy'n ymestyn record o ran colledion.
Dywedodd Gatland ei fod yn parhau i fod 芒 "chymhelliant" i aros wrth y llyw ond y byddai'n siarad 芒'r URC a gweld beth sy'n digwydd dros "y dyddiau nesaf".
Bydd adolygiad o ganlyniadau mis Tachwedd yn cael ei arwain gan brif weithredwr URC Abi Tierney, sy'n dweud y bydd yn cael ei gwblhau cyn y Nadolig.
Mae ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dechrau ar 31 Ionawr yn erbyn Ffrainc ym Mharis.
Nid yw'n glir os fydd Gatland - sydd wedi colli 18 o 24 gemau prawf yn ei ail gyfnod - yn dal wrth y llyw ar gyfer yr ymgyrch.
Pan ofynnwyd i gadeirydd URC Richard Collier-Keywood ynghylch hynny, dywedodd: "Rwy'n meddwl bod hynny'n amodol ar yr adolygiad, ac mae'n rhaid i ni roi cyfle i'r adolygiad edrych ar bob agwedd ar y perfformiad."
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn 么l
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd
Dywedodd Collier-Keywood ei fod yn credu bod Gatland yn parhau i fod yn un o hyfforddwyr gorau'r byd, a mynnodd nad ef oedd unig ffocws yr adolygiad.
"Nid yw hwn yn adolygiad o Warren Gatland, rwyf am wneud hynny'n glir iawn," meddai.
"Mae hwn yn adolygiad o berfformiad URC. Mae Warren yn mynd i gymryd rhan lawn ac mae ganddo lawer iawn i'w roi.
鈥淏yddai鈥檙 cyhoedd yng Nghymru yn disgwyl i ni wneud adolygiad ac mae鈥檔 bwysig nad ydym yn ei gyfyngu i un agwedd.
"Mae Warren yn elfen bwysig ond fydd llawer mwy yn cael ei ystyried."
'Gormod o sylw ar Warren'
Roedd Collier-Keywood yn siarad yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol URC lle dywedodd rhai o'r clybiau eu bod yn teimlo bod Gatland wedi ysgwyddo gormod o graffu cyhoeddus.
"Wrth feddwl, mae'n debyg fod gormod o sylw wedi bod ar Warren," meddai Collier-Keywood.
鈥淔e yw鈥檙 person sy鈥檔 cael ei gyfweld ar 么l pob g锚m.
鈥淒im ond dynol yw e, a galla'i ond dychmygu pa mor anodd yw hynny yn ystod y cwpl o gemau diwethaf yn benodol.
鈥淔el prif hyfforddwr, chi sy鈥檔 gyfrifol am berfformiadau鈥檙 t卯m, felly dyna sy鈥檔 dod gyda鈥檙 swydd.
"Erbyn meddwl, fel URC, mae angen i ni sefyll i fyny a'i gefnogi."
Tierney fydd yn arwain yr adolygiad gyda mewnbwn gan gyfarwyddwr gweithredol rygbi URC, Nigel Walker, yr aelod bwrdd Jamie Roberts a'r llywydd Terry Cobner.
Dywed y prif weithredwr y bydd hi'n cydweithio gyda Gatland a'i d卯m rheoli, a bydd mewnbwn allanol hefyd gan chwaraewyr presennol a chyn-chwaraewyr.
"Mae gennym nifer o chwaraewyr rygbi ar ein bwrdd a fydd yn cyfrannu ato," meddai Tierney.
"Rwyf hefyd wedi cael rhai cyn-chwaraewyr yn cytuno i gyfrannu ato, felly bydd nifer o fewnbynnau gwahanol, nid dim ond fi.
"Rwy'n gwybod sut i wneud adolygiad da ond dydw i ddim yn arbenigwr rygbi, felly byddaf yn tynnu ar arbenigedd ar gyfer hynny. Rydym yn edrych ar bopeth, beth sydd orau i symud Cymru ymlaen."
Cadarnhaodd Tierney fod cytundeb Gatland tan Gwpan y Byd 2027 ond ni ddatgelodd os oes cymal i dorri'r cytundeb. Gwadodd Gatland fod cymal o'r fath yn ei gytundeb wythnos ddiwethaf.
"Nid yw hynny'n berthnasol ac mae'n gyfrinachol o gytundeb personol rhywun," meddai Tierney.
Gwadodd Tierney hefyd na allai URC fforddio i Gatland adael.
"Nid yw hynny'n gywir," meddai. 鈥淵n gyffredinol, os mai hwn yw鈥檙 penderfyniad cywir byddwn yn gweithio trwy鈥檙 penderfyniad hwnnw.
"Ni fydd unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud ar sail cost."
Chwe Gwlad ar y gorwel
Mae Tierney yn derbyn y bydd yn rhaid i'r adolygiad gael ei wneud yn gymharol gyflym, gyda chyfarfod bwrdd wedi'i drefnu ar gyfer 17 Rhagfyr.
鈥淩ydyn ni'n eu gwneud nhw ar 么l pob cyfres, rydyn ni'n cydnabod bod angen i'r un yma gael hyd yn oed mwy o fewnbwn iddi nag un arferol oherwydd rydyn ni mewn sefyllfa anhygoel,鈥 meddai Tierney.
鈥淧e bai atebion cyflym, fe fydden ni wedi gweithredu'r atebion cyflym, felly mae鈥檔 rhaid iddo ymwneud 芒 beth yw鈥檙 newidiadau cynaliadwy y gallwn eu gwneud.鈥
Cyfaddefodd Collier-Keywood hefyd y byddai'n rhaid i URC roi ateb dros dro i ddechrau pe bai Gatland yn gadael.
"Does dim ffordd y byddwn ni'n gallu recriwtio prif hyfforddwr o safon Warren ar gyfer y Chwe Gwlad o ystyried yr amserlen, felly fe fydden ni'n edrych i roi prif hyfforddwr dros dro," meddai Collier-Keywood.
Ychwanegodd Tierney: "Mae hynny'n rhan o'r penderfyniad. Dydyn nhw ddim i gyd yn sefyll mewn rhes yn disgwyl.
鈥淢ae llawer o hyfforddwyr da iawn eisoes dan gytundeb felly mae鈥檔 rhaid i hynny fod yn rhan ohono.
"Pa ddewisiadau sydd gennym ar gael?"
Cyfaddefodd Collier-Keywood ei bod yn bwysig eu bod yn gwneud y penderfyniad cywir a dywedodd fod URC yn ymwybodol gall y rhediad gwael yn cael ei ymestyn.
"Mae gennym ni gemau caled i'w chwarae yn y Chwe Gwlad," meddai Collier-Keywood.
鈥淥nd yn yr un modd mae gennym ni rywfaint o amser gyda鈥檙 chwaraewyr yn symud ymlaen ac rwy鈥檔 si诺r y byddan nhw wedi dysgu llawer o Gyfres yr Hydref eleni.
鈥淣i wedi cael ychydig o anafiadau sydd heb helpu ac rydyn ni鈥檔 obeithiol y byddan nhw鈥檔 dod yn 么l ac y bydd gan Warren garfan fwy i ddewis ohonyn nhw, os yw e yno.鈥