Colled o 拢7.5m i URC er digwyddiadau Stadiwm Principality
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi cofnodi colled o 拢7.5m yn ystod y 12 mis hyd Ebrill eleni, er gwaethaf croesawu sawl digwyddiad mawr i Stadiwm Principality.
Fe gododd trosiant y corff llywodraethu am yr ail flwyddyn yn olynol, i 拢102.7m, gyda 拢4.7m ychwanegol yn dod o gemau a digwyddiadau fel cyngherddau Taylor Swift a Bruce Springsteen.
Ni chafodd gemau rhyngwladol yn yr hydref eu cynnal yng Nghymru yn 2023 oherwydd Cwpan y Byd, ond fe gafodd gemau cyfeillgar yr haf, gemau'r Barbariaid a pherfformiadau artistiaid fel Pink a'r Foo Fighters eu cynnal i Gaerdydd.
Dywed URC fod effaith barhaus Covid, chwyddiant uchel, costau uwch o ran Cwpan y Byd y dynion a buddsoddiad mewn rygbi merched wedi cynyddu costau o 拢67m i 拢75.1m.
Ar 么l cofnodi elw o 拢3m yn 2022, mae URC bellach wedi gweld colledion yn cynyddu o 拢4.8m i 拢7.5m ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiweddaraf.
Daw'r canlyniadau ariannol wedi cyfnod cythryblus i rygbi Cymru, ar ac oddi ar y cae.
Mae sefyllfa Warren Gatland fel prif hyfforddwr t卯m y dynion yn ansicr yn dilyn record o 12 colled yn olynol, tra ymddiswyddodd prif hyfforddwr merched Ioan Cunningham yn gynharach y mis hwn.
Mae URC hefyd wedi ymddiheuro am y ffordd y cafodd trafodaethau cytundeb t卯m y merched eu cynnal dros yr haf.
Gostyngodd cyllid ar gyfer y rhanbarthau o 拢35.5m i 拢28.7m ac fe gafodd y Dreigiau eu gwerthu'n 么l i berchnogion preifat fis Gorffennaf y llynedd.
Fodd bynnag, dywed y corff llywodraethu eu bod yn dal i fuddsoddi 拢60m ymhob lefel o'r g锚m yng Nghymru.
- Cyhoeddwyd21 awr yn 么l
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn 么l
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd
Y prif weithredwr Abi Tierney wnaeth cyflwyno'r adroddiad yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol URC ym Mro Morgannwg ddydd Sul - y tro cyntaf ers iddi gymryd yr awenau ym mis Ionawr.
Dywedodd fod yr undeb yn canolbwyntio ar sicrhau "sefydlogrwydd ariannol".
鈥淒aw adroddiad blynyddol eleni yng nghyd-destun cyfnod heriol ond un sy'n canolbwyntio ar ddyfodol rygbi Cymru,鈥 meddai.
鈥淢ae鈥檙 angen i sicrhau sefydlogrwydd ariannol yn ganolog i [ein] strategaeth ac yn hanfodol o ran llunio dyfodol cynaliadwy i鈥檙 g锚m.
鈥淢ae URC wedi wynebu nifer o rwystrau ariannol eleni [ond] ein nod, fel erioed, yw gwneud y mwyaf o鈥檙 ail-fuddsoddiad mewn rygbi bob blwyddyn.鈥