'Pensiynwyr yn wynebu tlodi tanwydd os yn dileu budd-dal'
- Cyhoeddwyd
Mae "perygl o wthio rhai pensiynwyr i dlodi tanwydd" pe bai Llywodraeth y DU yn dileu taliadau tanwydd y gaeaf, yn 么l gweinidog Llafur Cymru.
Daeth sylwadau Jane Hutt mewn ymateb i gwestiwn gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies.
Cyhoeddodd y Canghellor newydd Rachel Reeves fis diwethaf na fyddai pensiynwyr sydd ddim ar gredyd pensiwn neu fudd-daliadau prawf modd eraill yn cael y taliadau blynyddol mwyach o鈥檙 hydref hwn ymlaen.
Dywedodd fod y newid yn ymateb i'r etifeddiaeth economaidd a adawyd iddi.
Galwodd Mr Davies y polisi yn "anfaddeuol".
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd6 Mehefin
Cafodd taliadau tanwydd y gaeaf eu cyflwyno ym 1997 i helpu pawb dros oedran pensiwn gyda'u biliau gwresogi gaeaf.
Mae tua 10 miliwn o bensiynwyr yng Nghymru a Lloegr am golli eu taliadau tanwydd y gaeaf - gwerth rhwng 拢100 a 拢300 - o ganlyniad i gyhoeddiad Ms Reeves.
Mewn cwestiwn ysgrifenedig i'r Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt, gofynnodd Mr Davies pa ystyriaeth a roddwyd i effaith y penderfyniad.
Yn ei hymateb dywedodd Ms Hutt: "Mae'r penderfyniad na fydd y taliad tanwydd gaeaf yn un cyffredinol bellach yn peryglu gwthio rhai pensiynwyr i dlodi tanwydd.
鈥淒yma pam rydw i鈥檔 awyddus i weithio鈥檔 agos gyda llywodraeth newydd y DU ar ein huchelgais gyffredin o drechu tlodi i ddatblygu ffordd barhaol, effeithiol o amddiffyn aelwydydd mewn angen."
Mae Comisiynydd Pobl H欧n Cymru, Helena Herklots wedi disgrifio鈥檙 penderfyniad fel un 鈥渟y鈥檔 peri pryder mawr鈥 ac wedi annog y canghellor i ailystyried.
鈥淎mcangyfrifir bod tua 80,000 o aelwydydd yng Nghymru yn colli allan ar Gredyd Pensiwn er eu bod yn gymwys, sy鈥檔 golygu bod pobl h欧n eisoes yn colli allan ar dros 拢200m y mae ganddynt hawl iddo.
鈥淏yddai penderfyniad y canghellor yn golygu y gallai鈥檙 aelwydydd hyn nawr hefyd golli allan ar ddegau o filiynau o bunnoedd yn fwy a allai wneud gwahaniaeth mawr o ran cyllid pobl.鈥
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw.