大象传媒

'Storm berffaith' yn creu argyfwng i denantiaid

Arwydd rhentFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pryder bydd stoc tai rhent yn gostwng o ganlyniad i landlordiaid yn gwerthu eu heiddo

  • Cyhoeddwyd

Mae "storm berffaith" yn golygu bod nifer cynyddol o landlordiaid yn rhoi'r gorau i roi tai ar rent sy'n golygu bod y sefyllfa yn "argyfyngus" i denantiaid.

Dyna farn gwerthwr tai yng Nghaerdydd wrth i ystadegau gan Gymdeithas y Landlordiaid Preswyl ddangos bod rhyw 25% o landlordiaid yn dweud eu bod yn bwriadu gwerthu eu heiddo dros y flwyddyn nesa'.

Mae Thomas Williams, sy'n brif weithredwr cwmni Maision yn dweud nad yw'n cofio cyfnod tebyg.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad yw data gan Rhentu Doeth Cymru yn dangos bod y stoc dai ar gyfer rhenti'n breifat yn cael ei golli.

Ffynhonnell y llun, 大象传媒 Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Thomas Williams yn dweud bod y nifer o landlordiau sy'n ystyried gwerthu eu eiddo yn 'bryder'

Dywedodd Mr Williams fod ei gwmni'n delio gyda sawl landlord sy'n ystyried gwerthu eu heiddo.

"Mae o'n fater sy'n fwyfwy yn bryder," meddai.

"Mae'n landlordiaid ni yn penderfynu gadael y farchnad - naill ai yn gwerthu eu portffolio neu yn dechrau un wrth un.

"Mae o'n fater' dan ni'n delio efo yn wythnosol."

'Paratoi ar gyfer y gwaethaf'

Ymhlith y tenantiaid sy'n gorfod chwilio am gartref newydd yw Jess Hanshaw, sy'n fam i dri o Gasnewydd.

Mae hi wedi bod yn byw yn ei th欧 ers 12 mlynedd a hanner, a dyna'r unig gartref mae ei phlant wedi adnabod.

Cafodd alwad gan ei hasiant dai yn dweud bod ei landlord yn gwerthu'r t欧, ac felly fe fydd yn rhaid i'r teulu symud.

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jess Hanshaw a'i plant yn gorfod symyd allan o'i th欧 rhent ar 么l byw yno am dro 12 mlynedd

Dywedodd Ms Hanshaw: "Ro鈥檔 ni mewn sioc i ddechrau.

"Fe ddaeth y newyddion yn gwbl annisgwyl, ond wedyn roedd rhaid i fi feddwl - 'iawn mae gen i dri o blant, sut ydw i'n mynd i sortio hwn?'."

Mae ganddi bedwar mis i ddod o hyd i gartref newydd, ond a hithau wedi colli ei swydd llynedd tra roedd hi'n feichiog, ac yn ceisio dod o hyd i lety mewn marchnad gystadleuol iawn, mae'n dweud ei bod hi'n "gobeithio'r gorau ond yn paratoi ar gyfer y gwaetha'".

Mae Ms Hanshaw yn un o dros 8,000 o denantiaid trwy Gymru a Lloegr sydd wedi derbyn rhybudd i adael eu cartrefi'r llynedd - achosion o gael eu troi allan heb fai (no fault eviction).

Mae hynny'n gynnydd o dros 30% o'i gymharu 芒'r flwyddyn flaenorol.

Yng Nghymru mae gan denantiaid sy'n cael eu troi allan heb fai 6 mis i adael eu cartrefi, o'i gymharu 芒 2 fis yn Lloegr.

Fe ddaeth y newid hwnnw i rym yn 2022 gyda Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru), a'r bwriad oedd rhoi mwy o sicrwydd i denantiaid.

Gosod tai yn 'ofid' i landlordiaid

Yn 么l Thomas Williams o gwmni Maision, mae'r newidiadau deddfwriaethol wedi cyfrannu at benderfyniad landlordiaid i werthu - yn ogystal 芒'r cynnydd diweddar mewn cyfraddau llog.

"Mae pobl yn gweld o'n fwrn, ac felly mae hwn wedi bod yn fater sydd 'di bod fwyfwy yn ystyriaeth i bobl, yn enwedig o gofio bod landlordiaid yn mynd yn h欧n. Does 'na neb newydd yn dod i mewn i'r farchnad o be fedrai i weld yng Nghaerdydd beth bynnag.

"Mae yna gyfnodau'n dod mewn bywyd unigolyn lle maen nhw'n teimlo mae hwn yn ormod o ofid, mae 'na ormod o gyfrifoldebau iechyd a diogelwch...

"[Mae] codi safonau o ran effeithlonrwydd yr eiddo hefyd wedi bod yn ffactor pwysig felly 'dan ni mewn storm berffaith mewn ffordd ar hyn o bryd - cyfraddau llog a deddfwriaeth gynyddol."

'Dim colled i'r stoc dai'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru "gall nifer o ffactorau gyfrannu at benderfyniad landlord i adael y sector".

Mae'r ffactorau'n cynnwys "nifer y tai sydd ganddyn nhw, eu sefyllfa bersonol, newidiadau deddfwriaethol a threthiannol ar lefel Gymreig neu drwy'r DU, yn ogystal 芒 newidiadau economaidd ehangach".

Ychwanegodd bod "data gan Rhentu Doeth Cymru yngl欧n 芒 nifer y cartrefi sy'n cael eu cofrestru bob mis ers cyflwyno Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn awgrymu nad yw stoc dai ar gyfer rhenti'n breifat yn cael ei golli yng Nghymru".

Pynciau cysylltiedig