Coroni Cymraes 15 oed yn bencampwr cicfocsio'r byd

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Mae Kloe yn ymarfer yn Neuadd Cwmllynfell a Chanolfan Hamdden Pontardawe a Phenlan bob wythnos
  • Awdur, Harriet Horgan
  • Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw

Mae merch 15 oed o dde Cymru wedi cael ei choroni yn bencampwr y byd mewn cicfocsio.

Dechreuodd Kloe Jones, o Gwmllynfell yng Nghastell-nedd Port Talbot, ar y gamp pan oedd hi鈥檔 bum mlwydd oed ac mae wedi bod yn cystadlu ers hynny.

Fe wnaeth ddechrau cystadlu mewn cystadlaethau WAKO dwy flynedd yn 么l, ac eleni oedd y tro cyntaf iddi gystadlu dros d卯m Prydain.

Enillodd hi ddwy fedal aur ym mhencampwriaeth y byd WAKO yn Budapest, Hwngari.

Sefydliad cicfocsio rhyngwladol yw WAKO, sy'n cynrychioli dros 120 o wledydd.

'Anhygoel'

Dywedodd Kloe ei bod hi'n anodd iawn disgrifio鈥檙 teimlad o gael ei choroni yn bencampwr byd.

鈥淒wi wrth fy modd bod fy holl waith wedi talu bant," meddai.

鈥淢ae wedi cymryd llawer o ymarfer a gwaith er mwyn i mi gyrraedd ble y' fi heddiw, felly dyw geiriau ddim yn gallu disgrifio鈥檙 teimlad!

鈥淩oedd hi鈥檔 deimlad anhygoel. O鈥檔 i鈥檔 teimlo mor hapus.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Dechreuodd Kloe ar y gamp pan oedd hi'n bum mlwydd oed

Mae Kloe yn ymarfer yn Neuadd Cwmllynfell a chanolfan hamdden Pontardawe a Phenlan bob wythnos.

Ond am gyfnod cyn pencampwriaeth y byd, cafodd gyfle hefyd i fynychu sesiynau ymarfer gyda th卯m Prydain.

Dywedodd: 鈥淩o鈥檇d rhaid i mi wneud llawer o baratoi, gyda ymarferion caled rhwng pump a chwe gwaith yr wythnos, a sesiynau gym ychwanegol.

鈥淢ae鈥檙 gamp yn anodd iawn ac yn gorfforol iawn.

鈥淗efyd o鈥檔 i鈥檔 teithio i ymarferion t卯m Prydain Fawr mewn gwahanol leoliadau yn Lloegr, ble roeddwn yn ymarfer gyda鈥檙 holl d卯m."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Enillodd Kloe ddwy fedal aur ym mhencampwriaeth y byd yn Budapest, Hwngari

Fel corff llywodraethu cicfocsio amaturiaid, mae WAKO yn gyfrifol am ddatblygu鈥檙 gamp ledled y byd.

Mae sawl steil gwahanol o gicbociso. Enillodd Kloe y bencampwriaeth yng nghategori Kick Light a Light Contact.

Esboniodd Kloe: 鈥淢ae light contact yn ymladd parhaus am ddwy rownd o ddwy funud, pob rownd o ymladd, ble rydych chi'n dyrnu ac yn cicio.

鈥淐hi鈥檔 gallu pwno unrhyw beth o鈥檙 clun i fyny, a'r nod yw pwno eich gwrthwynebwr gymaint 芒 phosib.

鈥淢ae pwyntiau ar gael hefyd am ddangos sgil.

鈥淢补鈥 kick light yn debyg iawn ond mae hawl cicio鈥檙 coesau hefyd."

'Codi hyder'

Er bod mwy o ferched yn cymryd diddordeb yn y gamp, mae Kloe yn annog mwy i gymryd rhan er mwyn 鈥渃odi hyder鈥.

鈥淢ae鈥檔 dda i weld bod merched yn cymryd rhan, ond mae yna lawer mwy o fechgyn yn y gamp," meddai.

鈥淏ydde fi yn sicr yn annog mwy o ferched i gymryd rhan.

鈥淢ae鈥檔 meddwl bod chi鈥檔 gallu dysgu sgiliau hunan amddiffyn, ond mae hefyd yn ffordd dda i wneud ffrindiau a codi hyder.鈥

Nid yn unig ar y llwyfan rhyngwladol mae Kloe wedi profi llwyddiant yn ddiweddar.

Bu鈥檔 cystadlu mewn cystadlaethau ar lefel Prydeinig hefyd, ble enillodd ddwy fedal aur arall yn Rhydychen.

Yr her nesaf i Kloe yw cystadleuaeth Brydeinig ym Mryste fis nesaf, ble bydd hi鈥檔 anelu at ychwanegu mwy fyth o fedalau.