Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Bydis iard' i helpu disgyblion iau sy'n cael eu bwlio yn yr ysgol
Mae ysgol uwchradd yng Nghaerdydd wedi sefydlu cynllun arbennig i ddisgyblion helpu ei gilydd i atal bwlio.
Mae rhai o ddisgyblion blwyddyn 9 Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf wedi derbyn hyfforddiant drwy elusen 鈥楤ullies Out' i geisio atal bwlio.
Mae bathodynnau'r 'bydis iard' yn dangos pwy sydd ar gael ac yn barod i wrando a helpu unrhyw un mewn angen - yn enwedig disgyblion ieuengaf yr ysgol.
Ar raglen Dros Ginio, soniodd Bleddyn, sy'n ddisgybl ym mlwyddyn 9, bod 鈥渂wlio yn rhywbeth sy鈥檔 digwydd ym mhobman".
"Ond dwi鈥檔 meddwl bod e鈥檔 digwydd mwy ym mlwyddyn 7 oherwydd bod plant yn newydd i鈥檙 ysgol," meddai.
Yn 么l Beca Newis, pennaeth cynorthwyol Ysgol Glantaf, mae rhywbeth tebyg eisoes yn digwydd gyda'r disgyblion h欧n.
"Mae gyda ni gynllun tebyg yn y chweched dosbarth lle mae 'na fentoriaid cymar yn gweithio ar lefel un i un," meddai.
"O鈥檔 i eisiau dechrau datblygu鈥檙 arweinyddiaeth yma ymysg ein disgyblion iau ni, achos mae鈥檙 ymchwil i gyd yn dangos bod plant yn fwy tebygol o fynd at berson ifanc arall i drafod eu problemau yn hytrach nag at athrawon."
Dydy bwlio ddim yn broblem newydd, ond mae鈥檔 broblem sy鈥檔 newid gyda鈥檙 oes fodern.
鈥淧an ro鈥檔 i鈥檔 yr ysgol, pan roeddech chi鈥檔 mynd adre, roedd y bwlio yn stopio yn yr ysgol," meddai Ms Newis.
"Ond wrth gwrs, mae鈥檙 bwlio鈥檔 gallu parhau ar-lein ac mae鈥檔 ddi-stop i rai disgyblion.鈥
Effaith bwlio yn aros
Mae Dr Nia Williams, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, yn teimlo bod effaith bwlio yn gallu aros a pharhau gyda鈥檙 unigolyn am amser hir.
鈥淢ae sylwadau cas yn gallu mewnblannu鈥檔 ddyfn mewn unigolion, ac mae鈥檙 unigolion hynny鈥檔 gallu parhau ac yn cario鈥檙 negeseuon yna, rai ohonyn nhw trwy gydol eu bywyd," meddai.
Bwlio yn y gweithle
Mae Dr Williams hefyd yn teimlo bod edrych yn fanylach hefyd ar yr un sy鈥檔 gwneud y bwlio, bod targedu ymddygiad y bwli yr un mor bwysig 芒 helpu鈥檙 dioddefwr.
鈥淢ae angen edrych yn ddyfnach a gweld be 'di鈥檙 rheswm tu cefn pam bod yr unigolion yma yn bwlio," meddai.
鈥淵n aml iawn, dydy鈥檙 plant neu鈥檙 bobl ifanc sy鈥檔 bwlio ddim yn hapus iawn o ran y pethau sy鈥檔 mynd ymlaen yn eu bywyd nhw, felly mae nhw鈥檔 dueddol o dynnu hyn allan ar unigolion eraill."
Cyngor Bleddyn ydy i unrhyw un sy鈥檔 cael ei fwlio ydy i ddechrau siarad a rhannu鈥檙 broblem.
鈥淏yswn i鈥檔 dweud bod dweud wrth rywun yn rywbeth da i鈥檞 wneud oherwydd mae gallu siarad am y peth yn gallu tynnu chydig o鈥檙 boen off chi."