大象传媒

Beth sydd ei angen ar Gymru yn erbyn Gwlad yr I芒?

Disgrifiad,

Mae Ben Davies yn dweud fod Cymru wedi 鈥渄ysgu lot am ein hunain鈥 yn ystod yr ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru'n wynebu Gwlad yr I芒 yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Fawrth gyda'u gobeithion o ennill y gr诺p dal yn fyw.

Yn eistedd yn ail yng ngr诺p B4 cyn y g锚m, mae'n dal yn bosib i Gymru orffen yn gyntaf, ail neu drydydd yn dibynnu ar ganlyniadau eraill.

Dydy t卯m Craig Bellamy heb golli g锚m yn yr ymgyrch eleni, gan ennill dwy a chael gemau cyfartal mewn tair.

Di-sg么r oedd hi eto yn erbyn Twrci nos Sadwrn, wrth i Gymru gipio pwynt gwerthfawr gyda pherfformiad amddiffynnol arwrol yn Kayseri.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Craig Bellamy yn parhau'n ddi-guro fel rheolwr Cymru

I ennill y gr诺p, mae Cymru angen buddugoliaeth yn erbyn Gwlad yr I芒 yng Nghaerdydd, a gobeithio bod Twrci yn colli ym Montenegro.

Byddai hynny'n golygu bod Cymru yn codi i haen uchaf y gystadleuaeth - cynghrair A - unwaith eto, a sicrhau gemau yn erbyn rhai o dimau mwyaf Ewrop.

Petai Twrci a Montenegro yn cael g锚m gyfartal, yna byddai'n rhaid i Gymru guro Gwlad yr I芒 o bedair g么l.

Ond dydy Montenegro heb ennill pwynt yn y gr诺p hyd yn hyn, ac maen nhw'n sicr o ddisgyn i haen C y tymor nesaf - felly byddai'n dipyn o sioc gweld unrhyw beth ond triphwynt i Dwrci yma.

Petai Cymru'n gorffen yn ail yn y gr诺p, mae dal cyfle i esgyn i'r haen uchaf drwy g锚m ail-gyfle.

Byddai hynny'n golygu g锚m ym mis Mawrth yn erbyn un o'r timau o gynghrair A sy'n gorffen yn drydydd yn eu gr诺p.

Mae disgyn i gynghrair C dal yn bosib hefyd - os fydd Cymru'n colli yn erbyn Gwlad yr I芒 ac yn gorffen yn drydydd yn y gr诺p.

Byddai hynny'n golygu g锚m ail-gyfle yn erbyn un o dimau gorau'r haen is i weld pwy sy'n cael y lle yng nghynghrair B y flwyddyn nesaf.

Fe fyddai g锚m ail-gyfle yn golygu bod ymgyrch Cwpan y Byd Cymru yn dechrau'n hwyrach y flwyddyn nesaf.

'Ond yn poeni am ennill'

Ond dydy'r rheolwr Bellamy ddim yn canolbwyntio ar ganlyniadau'r gr诺p, meddai, a'r "gwir plaen" yw ei fod ond yn poeni am ennill y g锚m.

"Mae beth bynnag sy'n digwydd mewn gemau eraill yn mynd i ddigwydd", meddai.

"Os ydyn ni'n cael g锚m gyfartal fe wnawn ni ddelio gyda hynny, ac os ydyn ni'n colli fe wnawn ni ddelio gyda hynny.

"Does ond tri chanlyniad. Sut allwn ni roi ein hunain yn y sefyllfa orau i ennill y g锚m? A dyna ni."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Methodd Twrci y cyfle i gipio'r pwyntiau i gyd wrth i Akturkoglu daro'r postyn o'r smotyn

Roedd Cymru ar y droed 么l am y rhan fwyaf o'r g锚m yn Nhwrci brynhawn Sadwrn.

Dywedodd Bellamy bod ei d卯m wedi cael "cyfiawnder" pan fethodd Twrci 芒 sgorio cic o'r smotyn ym munudau olaf y g锚m.

Er ei bod yn ymddangos bod amddiffynnwr Cymru Neco Williams wedi cyffwrdd y b锚l wrth daclo Yunus Akgun, pwyntio at y smotyn wnaeth y dyfarnwr.

Tarodd Kerem Akturkoglu ei gic yn erbyn y postyn, a dywedodd Bellamy nad oedd y t卯m cartref yn "haeddu ennill yn y ffordd yna".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe allai Joe Rodon ennill ei 50fed cap nos Fawrth

Un a gafodd g锚m brysur yn Nhwrci oedd yr amddiffynnwr canol Joe Rodon - a allai ennill ei 50fed cap nos Fawrth.

Er iddo gael anaf wrth iddo fynd am yr un b锚l 芒 Mark Harris, fe frwydrodd Rodon ymlaen a chwarae rhan allweddol i Gymru.

Dywedodd Bellamy bod amddiffynnwr Leeds United wedi creu argraff, gan danlinellu ei bwysigrwydd i'r t卯m cenedlaethol.

2-2 oedd hi pan chwaraeodd Cymru a Gwlad yr I芒 ym mis Hydref, gyda goliau cynnar gan Brennan Johnson a Harry Wilson i Gymru.

Dydy Cymru heb golli gartref ers wyth g锚m bellach, ac fe fydd y t卯m yn awyddus i barhau 芒'r record honno a record ddiguro Bellamy nos Fawrth.