Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Teyrnged i Charles Arch wrth agor Sioe Fawr 2024
Roedd yna deyrnged i un o gymeriadau mwyaf adnabyddus Sioe Frenhinol Cymru yn ystod agoriad swyddogol yr achlysur.
Yr amaethwr o Geredigion, Charles Arch - prif sylwebydd prif gylch y sioe am ddegawdau - oedd fod i agor y digwyddiad, ond bu farw ddechrau'r mis yn 89 oed.
"Charles oedd llais y sioe ar hyd y blynyddoedd, ac roedd yn bencampwr dros gymunedau cefn gwlad yng Ngheredigion," meddai Elin Jones AS, Llywydd y Senedd, wrth lywio'r seremoni yn ei le ddydd Llun.
"Mae mor drist fod e ddim wedi medru a bod yma i agor y sioe oedd mor agos at ei galon. Dwi’n hynod o falch o allu camu mewn i’w sgidiau fe i ryw raddau, a chael yr anrhydedd fy hunain o agor y sioe."
Ceredigion yw’r sir nawdd eleni ac fe gafodd y sioe gyntaf ei chynnal yn 1904 ar gaeau yn Aberystwyth, yng Ngheredigion.
Roedd y sioe yn arfer teithio i wahanol fannau yng Nghymru bob blwyddyn, cyn ymgartrefu ar ei safle parhaol yn Llanelwedd ym 1963.
Ychwanegodd Elin Jones: "Yng Ngheredigion ry’n ni’n sefyll ar ysgwyddau cymeriadau cefn gwlad mawr – Charles Arch yn un, Dai [Jones] Llanilar wrth gwrs, [ac] Elystan Morgan agorodd sioe’r Cardis y tro dwetha'.
"Mae’r genhedlaeth nesaf wedi’u hysbrydoli ganddyn nhw ac yn sefyll ar eu hysgwyddau i wneud yn siŵr bod llais y Gymru wledig a Cheredigion yn cael ei glywed."
Mae sioe eleni'n nodedig gan fod Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 120 oed.
Roedd yna ddathliad ddydd Llun hefyd i ddiolch i un o selogion eraill y sioe am ei gyfraniad.
Mae Edward Morus Jones yn ymddeol eleni ar ôl 27 o flynyddoedd o wasanaeth yn swyddfa'r wasg ar faes y sioe, ac fe drefnodd ei gydweithwyr gacen i ddiolch iddo.