Pryder lleol am effaith cynllun weiren wib Abertawe

Disgrifiad o'r llun, Daeth tua 300 o bobl ynghyd yn ddiweddar i ddangos eu hanfodlonrwydd 芒'r cynlluniau
  • Awdur, Aimee Thomas
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu cynnig i adeiladu atyniad twristiaeth yn Abertawe yn dweud bod y cynlluniau'n 鈥渄orcalonnus鈥.

Gobaith cwmni Skyline Enterprises yw gosod weiren wib (zip wire), ceir cebl, a chaffi ar Fynydd Cilf谩i.

Mae rhai busnesau lleol yn croesawu'r cynlluniau, gan ddweud y bydd yn denu mwy o ymwelwyr i'r ddinas ac yn hybu鈥檙 economi.

Ond yn 么l ymgyrchwyr, byddai'r datblygiad yn effeithio ar fywyd natur, ac yn rhwystro mynediad pobl i ardal werdd agored yn y ddinas.

Dywedodd Cyngor Abertawe y bydd y cynlluniau yn destun聽ymgynghoriad cyhoeddus ac y bydd yr holl sylwadau'n cael eu hystyried cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud.

Mae Mynydd Cilf谩i yn goetir cymunedol sy'n cael ei reoli gan Gyngor Abertawe, Gwirfoddolwyr Coetir Cymunedol Mynydd Cilf谩i a Chyfoeth Naturiol Cymru.

O ben y mynydd mae modd gweld golygfeydd panoramig o Fae Abertawe, y marina a chanol y ddinas.

Dywedodd Skyline Enterprises y byddai'r prosiect yn effeithio ar oddeutu 10% o arwyneb y mynydd ac y bydd mynediad dirwystr i'r safle yn parhau.

Ffynhonnell y llun, Skyline Enterprises

Disgrifiad o'r llun, Dyluniad o sut y byddai'r cynllun yn edrych pe bai'n cael ei wireddu

Yn 么l ymgyrchwyr lleol sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau, roedd tua 300 o bobl wedi ymgasglu ar y bryn ddiwedd mis Mawrth er mwyn dangos eu hanfodlonrwydd.

Dywedodd Sarah Ayres, sy'n byw yn agos at y mynydd ac yn aml yn cerdded yn yr ardal gyda鈥檌 phlant, y dylai'r safle fod "ar gael i bawb".

鈥淢ae pobl yn dod yma i gael moment o heddwch. Mae鈥檔 dda i iechyd meddwl pobl, ac mae llawer o bobl yn cerdded gyda'u c诺n yma," meddai.

鈥淢ae鈥檙 ardal yma mor bwysig. Mae鈥檔 bwysig i gadw e fel y mae ar gyfer bywyd gwyllt a byd natur.

鈥淏eth os yw鈥檙 prosiect yn rhywbeth sydd yn just 鈥flash yn y pan'? Mae pobl angen yr ardal yma i gerdded heb unrhyw rwystrau.

"Mae鈥檔 cael ei defnyddio gan nifer o bobl pob dydd."

Disgrifiad o'r llun, Mae Sarah Ayres yn credu bod angen cadw'r safle "fel ag y mae e"

Mae cais cynllunio gan gwmni Skyline Enterprises yn cael ei ystyried ar hyn o bryd gan Gyngor Abertawe.

Yn 么l adroddiad economaidd a gafodd ei gyhoeddi gan y cwmni'r llynedd, byddai鈥檙 prosiect yn creu 100 o swyddi ac yn cyfrannu tua 拢84m i'r economi leol dros 15 mlynedd.

Y gred yw y byddai'r cynllun yn costio rhwng 拢34m-拢40m, gyda Llywodraeth Cymru yn buddsoddi 拢4m.

Mae Cyngor Abertawe hefyd wedi neilltuo 拢8m ar gyfer y prosiect.

'Denu twristiaeth yn hynod o bwysig'

Mae'r cynlluniau'n dangos y byddai mynediad i ran o'r atyniad yn cael ei leoli ger distyllfa newydd Penderyn yn ardal Gland诺r.

Fe agorodd y safle y llynedd ac mae Huw Thomas, cyfarwyddwr cyllid Penderyn, yn croesawu鈥檙 datblygiad.

鈥淔el busnes, rydyn ni鈥檔 credu bod denu twristiaeth i鈥檙 ardal yma o Abertawe yn hynod o bwysig," meddai.

鈥淲rth gwrs os oes busnesau eraill yn dod i鈥檙 safle yma bydd hynny鈥檔 denu mwy o dwristiaeth ac ymwelwyr i鈥檙 ardal."

Disgrifiad o'r llun, Byddai denu rhagor o fusnesau yn gwneud lles i'r ardal, yn 么l Huw Thomas

Ychwanegodd: 鈥淢ae twristiaeth fel sector yn bwysig i economi Cymru ac mae prosiectau fel hyn yn bwysig.

鈥淢ae鈥檙 ardal yma yn ardal hanesyddol, yr hen ardal lle'r oedd gwaith copr Abertawe, felly ni鈥檔 rhoi ail fywyd i鈥檙 safle hyn tra鈥檔 cadw鈥檙 hanes.

鈥淕obeithio bydd y datblygiad hwn yn helpu鈥檙 economi leol, yn cefnogi pobl leol hefyd, ond mae hefyd yn bwysig gwrando ar bryderon pobl.鈥

'Dyw e ddim yn deg'

Ond mae Jessica Pitman, sy鈥檔 byw yn y ddinas, yn poeni am lwyddiant hirdymor y cynllun.

鈥淔i鈥檔 dod o鈥檙 cymoedd a fi wedi gweld yn uniongyrchol sut mae busnesau yn trial creu rhywbeth mewn ardal, ac wedyn dyw e ddim yn llwyddiannus ac mae鈥檙 cwmni jest yn gadael,鈥 meddai.

鈥淔i wedi gweld nifer o gwmn茂au yn mynd a dod a gadael llanast yn yr ardal. Mae lan i鈥檙 bobl leol wedyn i ddelio gyda hynny.

鈥淒yma鈥檙 unig le gwyrdd yn yr ochr yma o Abertawe. Mae鈥檔 rhad ac am ddim i ddod lan yma.

"Mae鈥檙 ardal hyn yn ardal dlawd a bydd pobl leol methu fforddio prynu tocynnau. Dyw e ddim yn deg.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae Skyline Enterprises eisiau gosod weiren wib, ceir cebl, a chaffi ar y mynydd

Dywedodd cwmni Skyline y byddai鈥檙 holl lwybrau troed a鈥檙 pwyntiau mynediad presennol i Fynydd Cilf谩i yn parhau, gyda mynediad rhydd a dirwystr yn parhau i鈥檙 rhai sydd eisiau defnyddio鈥檙 mynydd.

Mewn datganiad, dywedodd Danny Luke, o Skyline Enterprises bod y cwmni 鈥渨edi cael adborth hynod gadarnhaol gan y cyhoedd am y buddion y byddai鈥檙 atyniad yn eu cynnig".

Ychwanegodd:聽鈥淢ae nifer o ddefnyddwyr cadeiriau olwyn wedi canmol y cynlluniau, gan ddweud y byddai鈥檔 agor ardal lle nad ydyn nhw erioed wedi cael mynediad iddi o鈥檙 blaen.

鈥淢ae asesiadau amgylcheddol helaeth wedi鈥檜 cynnal gyda鈥檔 partneriaid yn ne Cymru i sicrhau y byddai鈥檙 safle鈥檔 cael ei ddatblygu鈥檔 gynaliadwy, gan gyfrannu at fwy o fioamrywiaeth ar y safle."

Ychwanegodd y datganiad: 鈥淢ae safleoedd Skyline ar draws y byd yn dod 芒 llwyddiant economaidd, addysgol a chymdeithasol i'w hardaloedd.

"Nid ydym erioed wedi gorfod cau safle Skyline ac rydym yn falch o redeg busnesau hamdden hynod lwyddiannus ar draws Seland Newydd, Malaysia, Canada, Singapore a De Corea.

鈥淏yddem wrth ein bodd pe bai Abertawe'n dod yn rhan o'r stori lwyddiant honno."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Abertawe: 鈥淏ydd holl sylwadau鈥檙 cyhoedd yn cael eu hystyried gan y cabinet pan fydd yn cyfarfod i wneud penderfyniad ar y mater.

鈥淏ydd unrhyw gynnig gan Skyline hefyd yn destun cais cynllunio a fydd yn agored ar gyfer rownd bellach o ymgynghoriad cyhoeddus cyn iddo gael ei ystyried gan bwyllgor cynllunio鈥檙 cyngor.鈥