大象传媒

'Modd osgoi marwolaethau efeilliaid ar 么l eu geni,' medd crwner

Ysbyty Glan ClwydFfynhonnell y llun, Google
  • Cyhoeddwyd

Fe allai dwy efaill newydd anedig fu farw gyda llinynnau bogail (umbilical cords) wedi鈥檜 clymu fod wedi goroesi pe tawn nhw wedi eu geni ynghynt y diwrnod hwnnw, yn 么l crwner.

Daeth y crwner i'r casglad fod esgeulustra hefyd wedi cyfrannu at farwolaethau Alys Haf Jones ac Efa Swyn Jones, fu鈥檔 rhannu鈥檙 un sach amniotig.

Cafodd yr efeilliaid enedigaethau Gesaraidd argyfwng yn Ysbyty Glan Clwyd ar 15 Gorffennaf 2022.

Fe ymddiheurodd prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i'r teulu, gan ddweud ei fod yn "glir eu bod wedi methu 芒 darparu gofal o'r safon ddisgwyliedig".

Clywodd y cwest yn Rhuthun i'w mam Glian Llwyd Jones o Lansannan, Sir Ddinbych, gael sgan y bore hwnnw, a hithau 29 wythnos yn feichiog.

Dangosodd y sgan bod lleihad yn y gwaed a oedd yn cyrraedd un o鈥檙 babanod, ac fe gafodd Ms Jones ei chyfeirio at uned asesu mamolaeth allanol yr ysbyty ym Modelwyddan, er mwyn iddyn nhw gadw llygad ar y sefyllfa.

Ond wedi awr o arsylwi, a ddaeth i'r casgliad bod angen ymchwil pellach i'r sefyllfa, cafodd Ms Jones 鈥 a oedd hefyd wedi profi鈥檔 bositif am Covid-19 - ganiat芒d i fynd adref i n么l ambell beth a dychwelyd am ragor o arsylwi ddwy awr yn ddiweddarach.

40 munud yn ddiweddarach, pan nad oedd modd clywed curiad calon un o鈥檙 efeilliaid, bu'n rhaid i Ms Jones roi genedigaeth frys.

Ond fe ddaeth i'r amlwg fod llinynnau bogail yr efeilliaid wedi'u clymu, a doedd dim modd eu hadfywio.

Clywodd y cwest fod Ms Jones wedi cael gwybod bod yna bosibilrwydd bod yr efeilliaid yn rhannu yr un sach amniotig ar 么l sganiau beichiogrwydd cynnar, ond ei bod hi yna wedi鈥檌 darbwyllo fod pilen yn gwahanu鈥檙 plant.

Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen, fe ddywedodd Ms Jones ei bod wedi dysgu nad oedd hynny鈥檔 wir ar 么l i'w phlant gael eu geni, a bod hynny wedi galluogi i'r llinynnau glymu.

Gwylltiodd hyn Ms Jones, meddai, achos 鈥渙鈥檙 cychwyn, doedden nhw ddim yn si诺r a oedd y bilen yno neu beidio,鈥 ac roedd hyn 鈥測n rhywbeth ro鈥檔 i'n poeni amdano鈥.

Ychwanegodd bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud wrthi hi a鈥檌 g诺r mewn cyfarfod yn ddiweddarach 鈥測 dylai fod pethau wedi eu gwneud yn wahanol,鈥 a 鈥渄ylai mwy o brofion fod wedi eu cynnal, er mwyn gweld a oedd pilen yn eu gwahanu ai peidio鈥.

'Methiannau enbyd yn y gofal meddygol'

Fe ddywedodd Crwner Cynorthwyol Canol a Gorllewin Gogledd Cymru, Kate Robertson, bod 鈥渕ethiant enbyd鈥 wedi bod i ddarparu gofal meddygol addas i'r fam a鈥檌 phlant, a bod cysylltiad clir rhwng hynny 芒鈥檙 marwolaethau 鈥渁 ellid fod wedi eu hosgoi鈥.

Ychwanegodd na ddylai saib wedi bod yn yr arsylwi cychwynnol yn yr uned asesu mamolaeth ar 15 Gorffennaf, a na ddylai Ms Jones fod wedi cael mynd adref, a hithau heb glywed pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa.

鈥淩oedd Glian, Alys ac Efa yn dibynnu ar eraill yn yr ysbyty... ac wrth ystyried hyn oll... roedd methiannau enbyd yn y gofal meddygol,鈥 meddai.

鈥淔e wnaeth esgeulustra gyfrannu at farwolaethau Alys ac Efa.鈥

Fe ddywedodd y crwner na fyddai hi鈥檔 cyflwyno adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol am iddi weld tystiolaeth fod newid a dysgu wedi digwydd yn y bwrdd iechyd, a鈥檌 bod hi wedi derbyn 鈥渃adarnhad y byddai dysgu pellach鈥.

Cafodd achos meddygol marwolaethau鈥檙 efeilliaid ei gofnodi fel anaf amenedigol i'r ymennydd.

'Ymddiheuro'n llawn'

Dywedodd Carol Shillabeer, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rwyf yn rhannu fy nghydymdeimlad 芒'r teulu yn sgil eu colled drasig.

"Mae'n glir fod y bwrdd iechyd wedi methu 芒 darparu gofal o'r safon ddisgwyliedig, ac ry'n ni'n ymddiheuro'n llawn am hynny.

"Rydyn ni'n derbyn canfyddiadau'r crwner yn llawn, ac ry'n ni'n benderfynol o gymryd pob gweithred posib i wella'n gofal.

"Mae'r gwaith yma wedi cychwyn, ac fe edrychwn ni eto am unrhyw gamau pellach gallwn ni eu cymryd."