Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pryderon am gynnwys Cymraeg ar 'X' ers yr ail-frandio
- Awdur, Jacob Morris
- Swydd, Newyddion S4C
Ers i Twitter droi'n X, mae 'na "bryder enfawr" nad oes cymaint o ddefnyddwyr yn gweld cynnwys Cymraeg.
Yn 么l arbenigwyr digidol, mae鈥檔 鈥渉er newydd i鈥檙 Gymraeg鈥 gyda rhai sefydliadau fel Heddlu'r Gogledd yn penderfynu y byddan nhw'n dod 芒'u cyfrif i ben gan ddweud nad yw negeseuon yn cyrraedd cymunedau Cymraeg fel o'r blaen.
Fe ddaw hyn ar 么l i鈥檙 biliwnydd Elon Musk brynu鈥檙 cwmni y llynedd, gyda rhai - gan gynnwys Aelodau Seneddol - yn gadael X oherwydd camwybodaeth.
Mae X wedi cael cais am ymateb.
Yn 么l Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, mae鈥檙 llu yn mynd i ddileu eu cyfrif yn llwyr ar X oherwydd 鈥済werthoedd鈥 y platfform a lledaeniad camwybodaeth.
"Mae'n debyg nad yw'n rhannu'r un gwerthoedd a ni fel sefydliad ac rwy'n poeni nad yw weithiau'n portreadu'r wybodaeth gywir i'n cymunedau,鈥 meddai Amanda Blakeman.
"Yn ogystal, mae'n debyg nad yw鈥檔 cyrraedd ein cymunedau Cymraeg mor rhwydd ag y mae pobl eraill ac rwy'n credu mai dyma'r penderfyniad iawn i ni," ychwanegodd.
"Mae angen i ni fel gwasanaeth allu cyfathrebu yn gyflym, ac yn hawdd gyda'n cymuned i'w diweddaru, i roi gwybodaeth, ac i ateb cwestiynau, ond mae'r platfform hwnnw wedi dod yn le mwy heriol i wneud hynny yn y misoedd a blynyddoedd diwethaf.
鈥淔elly rydyn ni'n mynd i ddefnyddio ystod o lwyfannau fel y gallwn ni helpu a chefnogi ein cymunedau.鈥
Yn yr un modd, mae un arbenigwr digidol sy鈥檔 gyfrifol am gyfrif 'Yr Awr Gymraeg' ar X - sydd 芒 dros 14,000 o ddilynwyr - hefyd yn poeni nad yw gymaint o bobl yn darllen negeseuon sy'n hyrwyddo cynnwys Cymraeg.
鈥淎r un adeg o'dd y cyrhaeddiad yn cyrraedd cannoedd o filoedd o gyfrifon ond yn enwedig yn y flwyddyn ddiwethaf mae lefel yr ymwneud 芒 rhannu negeseuon yr Awr Gymraeg a negeseuon yn Gymraeg yn gyffredinol wedi gostwng yn sylweddol,鈥 meddai Huw Marshall.
鈥淢ae yna sawl ffactor ar waith. Yn gyntaf ers i Elon Musk brynu fo mae鈥檙 llwyfan wedi mynd yn fwy tocsig ac mae llai yn ymwneud ag ef, a dwi鈥檔 cael y teimlad mai algorithmau X sy鈥檔 lleihau cyrhaeddiad cynnwys yn Gymraeg.
鈥淢ae鈥檔 rhoi鈥檙 argraff bod 'na rhywbeth mwy ar waith. Dydi o ddim byd sinistr, ond yn amlwg maen nhw eisiau gwthio negeseuon sy鈥檔 mynd i fod yn boblogaidd, felly maen nhw鈥檔 mynd i flaenoriaethu ieithoedd mwy poblogaidd fel Saesneg.
鈥淢ae鈥檔 rhoi her newydd i鈥檙 Gymraeg ac mae鈥檔 bryder enfawr.鈥
'Alla i ddim ymddiried yn y platfform'
Ers i鈥檙 biliwnydd Elon Musk brynu鈥檙 cwmni am $44bn, mae ei gyfraniadau cyson a dadleuol yn golygu bod rhai wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio'r platfform.
Yn 么l X, mae 250 miliwn o bobl yn defnyddio'r platfform yn ddyddiol.
Ond yn ol Owen Williams, sy'n arbenigwr ar wefannau cymdeithasol, mae newid amlwg wedi bod ers i Twitter newid i X yn 2023.
鈥淒yw鈥檙 platfform ddim yn gallu cael ei ymddiried ynddo. Dyw e ddim fel Twitter fel oedd e. Mae lot o gynnwys ffug, gwybodaeth a newyddion ffug i gael,鈥 meddai.
鈥淢ae鈥檙 asgell dde yn cael mwy o rwydd hynt i ddweud fel y mynnon nhw. Roedd cyfrifon a gafodd eu gwahardd gan Twitter o'r blaen wedi cael dychwelyd i'r platfform gan Elon Musk - pobl fel Stephen Yaxley-Lennon, neu Tommy Robinson.
鈥淢补别虫27;谤 verified tags wedi eu tynnu oddi ar bobl go iawn, hynny yw, y bobl yn y meysydd gwleidyddol, newyddion, technoleg. Bellach fe all unrhyw un gael y tic glas yna."
Mae Mr Williams hefyd wedi penderfynu gadael yr ap.
鈥淩o鈥檇d 37,000 o ddilynwyr 鈥榙a fi, o'n i 'di crefftio鈥檙 cyfrif yma o'dd yn creu pob math o gynnwys oedd yn cyrraedd bob rhan o鈥檙 byd. Ond bellach alla i ddim ymddiried yn y platfform mwyach," ychwanegodd.
Mae yna adroddiadau bod rhai Aelodau Seneddol Llafur yn bwriadu dileu eu cyfrifon, gydag un eisoes wedi gwneud hynny.
Ond yn 么l un sy鈥檔 gweithio ym maes marchnata digidol sy鈥檔 rhedeg rhai o gyfrifon enwogion a chwmn茂au yng Nghymru, mae ap锚l gwefannau eraill hefyd yn chwarae ei ran.
鈥淢ae X 鈥榙i disgyn lawr y rhestr blaenoriaethau. Mae Facebook, Instagram, TikTok, Threads yn bwysicach,鈥 meddai Martha Owen sy鈥檔 gweithio i gwmni cyfryngau cymdeithasol, Alaw.
鈥淢ae 'di rhoi teimlad o ansicrwydd i bobl yn sicr."
鈥淓rs y rebrand mae'n teimlo fel bod pethau 'di newid fel platfform - 'da 鈥榥i erioed wedi gweld y ffasiwn rebrand yn y byd gwefannau cymdeithasol. Roedd y gair 'tweet' yn y geiriadur,鈥 meddai Ms Owen.
鈥淢a' cynnwys TikTok yn saethu fyny a鈥檙 ymgysylltiad yn dod yn lawer rhwyddach yn Gymraeg o gymharu ag X erbyn hyn.鈥