Gwrandawiad cyn cwest Josh Roberts yn clywed pryderon teulu

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Joshua Lloyd Roberts, o Gaernarfon, yn dilyn gwrthdrawiad mis Mehefin y llynedd

Mae teulu dyn ifanc o Wynedd fu farw pan gafodd ei daro gan gar wedi codi pryderon am amgylchiadau ei farwolaeth mewn gwrandawiad cyn ei gwest.

Bu farw Joshua Lloyd Roberts, 19, yn dilyn gwrthdrawiad ar Ffordd Waunfawr ger Caeathro ar gyrion Caernarfon fis Mehefin y llynedd.

Mae dyn 32 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal mewn cysylltiad 芒'r digwyddiad, a'i ryddhau ar fechn茂aeth.

Roedd teulu Josh yn y gwrandawiad yn Rhuthun a gafodd ei gynnal gan uwch grwner dros Ddwyrain a Chanol Gogledd Cymru, John Gittins.

Fe wnaeth ei deulu godi pryderon ynghylch amgylchiadau marwolaeth Josh a'r eiliadau cyn y gwrthdrawiad.

Dywedodd mam Josh, Melanie Tookey: "Dydy Josh ddim yma i siarad drosto ei hun."

Ond dywedodd Mr Gittins: "Does dim byd rwy'n ei weld ar hyn o bryd sy'n awgrymu y byddaf yn cyfeirio hyn yn 么l at yr heddlu."

Gofynnodd Ms Tookey hefyd a fyddai'r crwner yn ystyried clywed tystiolaeth am ganfyddiad peryglon fel rhan o unrhyw adroddiad i atal marwolaethau yn y dyfodol.

Dywedodd Mr Gittins y bydd yn clywed gan yr ymchwilydd gwrthdrawiadau fforensig ac fe fyddai hynny "yn ddigonol".

Ychwanegodd fod rhai o gwestiynau'r teulu am amgylchiadau marwolaeth Josh "yn eistedd y tu allan i'r cylch gwaith a roddwyd i mi".

Mae disgwyl i鈥檙 cwest llawn, sydd i fod i bara dau ddiwrnod, gael ei drefnu ar gyfer fis Chwefror neu fis Mawrth y flwyddyn nesaf.