Cyhuddo dyn o ymosodiad rhyw mewn canolfan siopa

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Bydd Phillip Daniel, o'r Barri, yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun

Mae dyn 32 oed wedi'i gyhuddo yn dilyn ymosodiad rhyw honedig yng Nghaerdydd ddydd Gwener.

Mae Phillip Daniel, o'r Barri, yn wynebu dau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar 么l digwyddiad yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant.

Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.

Mae wedi cael ei gadw yn nalfa'r heddlu tan hynny.