Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Tywydd cynnes wrth i'r Foo Fighters ymweld â Chaerdydd
- Awdur, Megan Davies
- Swydd, Gohebydd ´óÏó´«Ã½ Cymru
Mae Stadiwm Principality Caerdydd wedi cynghori pobl sy'n ymweld â'r brifddinas ar gyfer cyngerdd y Foo Fighters i fod yn ofalus wrth i'r tywydd gynhesu.
Mi fydd y to ar agor ar gyfer y band Americanaidd ac mae disgwyl i'r trefnwyr gynnig dŵr am ddim.
Mae disgwyl i'r tymheredd gyrraedd 25°C yng Nghaerdydd ddydd Mawrth - un o ddiwrnodau cynhesa'r flwyddyn hyd yma.
'Yfwch ddŵr'
Mewn rhannau o'r DU mae yna rybudd melyn am dywydd cynnes mewn grym tan 17:00 ddydd Iau.
Er na fydd hi'n cyrraedd 30°C yma yng Nghymru, mae disgwyl iddi gyrraedd o leiaf 25°C wrth i filoedd fwynhau'r gerddoriaeth nos Fawrth.
Mae Stadiwm Principality yn galw ar y rhai a fydd yn mynd i yfed digon o ddŵr wrth "aros yn y ciw mewn tymheredd fydd o bosib yn dwym iawn".
Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd ar ran y stadiwm y bydd "peiriannau dŵr am ddim" gan ychwanegu eu bod "yn annog cefnogwyr i’w defnyddio".
"Bydd dŵr ychwanegol yn cael ei ddosbarthu i'r rhai sy'n sefyll."
Y to ar agor yn y Stadiwm
Wedi wythnosau prysur yn y brifddinas yn sgil cyfres o gyngherddau enwogion megis Taylor Swift a Bruce Springsteen, mi fydd y Foo Fighters yn denu miloedd i'r Stadiwm unwaith yn rhagor.
Mae bron i 70,000 o docynnau wedi eu gwerthu gyda niferoedd bach ar gael ar-lein o hyd.
Y disgwyl yw bydd y gatiau yn agor am 16:00.
Am 17:25 mi fydd y gyngerdd yn cychwyn gyda chefnogaeth band o Gymru o'r enw Himalayas a Wet Leg - artistiaid o America.
Mi fydd y Foo Fighters yn cychwyn toc wedi 19:30 gyda disgwyl i'r cyfan orffen am 22:30.
'Cofiwch gynllunio'
Unwaith yn rhagor mi fydd nifer o brif strydoedd y ddinas ar gau o 15:00 tan ganol nos yn sgil y gyngerdd.
O 09:00 ymlaen mi fydd gwasanaeth parcio a theithio mewn grym, gyda chyfle i bobl adael eu ceir ger Stadiwm Dinas Caerdydd a theithio ar fws i’r ardal gyferbyn â Stadiwm Principality.
I'r rhai sydd eisiau parcio, mi fydd safleoedd ar gael yng Ngerddi Sophia a Chanolfan Ddinesig Caerdydd.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
Wrth ysgrifennu ar , fe rybuddiodd Trafnidiaeth Cymru y bydd angen cynllunio teithiau o flaen llaw.
Maen nhw'n dweud bod mwy o le ar gael yn sgil y gyngerdd ac fe fydd yna system giwio.