Ceisio denu rhagor o ymwelwyr i 'em cudd' y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae penaethiaid twristiaeth y gogledd yn gobeithio perswadio ymwelwyr i ymweld ag ardal y maen nhw'n ei disgrifio yn "em cudd".
Un o'r nodau wrth geisio denu twristiaid i ardal Mynydd Hiraethog, yn siroedd Conwy a Dinbych, yw lleihau'r pwysau ar gyrchfannau mwyaf poblogaidd Eryri.
Mae'r ardal yn cwmpasu dros 230 o filltiroedd sgwar - o Fetws-y-Coed hyd at gyffiniau Llangollen - ac yn cynnwys trefi hanesyddol Dinbych, Rhuthun a Chorwen.
Yn 么l Twristiaeth Gogledd Cymru (TGC), sy'n gyfrifol am yr ymgyrch, dydy rhan fwyaf yr ymwelwyr 芒'r rhanbarth "ddim yn gwybod am yr holl hyfrydwch sydd ar gynnig yn Hiraethog" a'u bod "芒 chenhaeth i newid hynny".
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd23 Awst 2021
鈥淢ae wir yn ardal hardd gydag amrywiaeth fawr a gwerthfawr o bethau i'w gweld a'u gwneud," dywedodd Eirlys Jones, cyfarwyddwr masnachol y corff sy'n cynrychioli busnesau twristiaeth a lletygarwch y rhanbarth.
"Ein strap line yw 鈥榓wyr agored, gofod agored, meddwl agored鈥 fel y lle i ddod i gael profiadau trawsnewidiol."
'Digon i'w garu am Hiraethog'
Ymhlith y gweithgareddau lleol, meddai TGC, mae canolfannau c诺n sled a go-cart a chyfleoddd i gerdded, seiclo, pysgota neu fwynhau chwaraeon d诺r amrywiol.
Yn ddiweddwr, mae pobl wedi mynd i ardal Llyn Brenig yn y gobaith o gael cip ar b芒r o weilch a gyrhaeddodd o'r Alban yn 2011.
鈥淢ae wir yn em cudd," medd Eirlys Jones, "ac ein nod yw sicrhau bod ymwelwyr yn darganfod pleserau鈥檙 ardal trwy stopio ac aros a gwario鈥檜 harian yn lleol, gan helpu i greu cyflogaeth a ffyniant.
鈥淵n hytrach na chael ymwelwyr sydd ond yn anelu am y cyrchfannau adnabyddus sydd yn aml yn brysur, rydym eisiau lledaenu鈥檙 cariad [at y rheiny] ac mae yna ddigon i鈥檞 garu am Hiraethog.鈥
Mae'r ymgyrch yn cael ei hariannu gan nawdd Gronfa Fferm Wyn Clocaenog.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd29 Mai 2022
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2020