拢7bn mewn hen arian yn parhau mewn cylchrediad
- Cyhoeddwyd
Nid yw 拢7.2 biliwn mewn hen arian papur wedi eu cyfnewid na'u bancio, er nad yw arian papur 拢20 a 拢50 yn gyfreithlon ers mis Hydref 2022.
Mae arian papur wedi'u disodli gan arian plastig gyda chyfres o nodweddion diogelwch.
Dywedodd Banc Lloegr y gallai'r arian papur gael eu cyfnewid neu eu rhoi yn eich banc o hyd.
Datgelwyd manylion yr arian sy'n dal mewn cylchrediad neu'n cuddio mewn cartrefi yn dilyn ceisiadau rhyddid gwybodaeth gan 大象传媒 Cymru.
Dywedodd Banc Lloegr fod 395 miliwn o ddarnau o arian papur yn parhau mewn cylchrediad:
110 miliwn o bapurau 拢5
62 miliwn o bapurau 拢10
171 miliwn o bapurau 拢20
52 miliwn o bapurau 拢50
Tynnwyd y darnau papur 拢5 yn 么l ym mis Mai 2017, y papur 拢10 ym mis Mawrth 2018, a鈥檙 papur 拢20 a 拢50 ar 30 Medi 2022, ac ers hynny nid ydynt wedi bod yn ddull talu cyfreithiol.
Yn ogystal 芒'r arian papur, dywedodd y Bathdy Brenhinol nad oedd tua 76 miliwn o hen ddarnau arian 拢1 wedi'u dychwelyd.
Fodd bynnag, mae tua 11 miliwn wedi'u dychwelyd dros y flwyddyn ddiwethaf.
O'r 1.6 biliwn sydd wedi'u dychwelyd, roedd tua 1.8 miliwn yn ffug.
Disodlwyd y darn arian crwn 拢1 gan y fersiwn 12 ochr ym mis Hydref 2017, er mwyn mynd i'r afael 芒 ffugio.
Mae'r hen ddarn 拢1 yn dal i gael ei dderbyn gan Swyddfa'r Post ond ni ellir ei wario mewn siopau.
Yn 么l y Bathdy Brenhinol, sy'n eiddo i Drysorlys y DU, mae tua 138 miliwn o hen ddarnau 拢1 wedi'u toddi i wneud rhai o'r rhai newydd yn eu canolfan yn Llantrisant yn Rhondda Cynon Taf.
Daeth y 拢50 polymer - gyda phortread Alan Turing - i gylchrediad ar 23 Mehefin 2021, sy'n golygu bod casgliad cyfan y Banc wedi'i wneud o blastig erbyn hyn.
Er nad yw'r arian papur bellach yn gyfreithiol, byddant bob amser yn cael eu cyfnewid gan Fanc Lloegr.
Eglurodd llefarydd fod "pob papur banc dilys Banc Lloegr sydd wedi ei dynnu allan o gylchrediad yn cadw eu hwynebwerth am byth".
Dywedodd Banc Lloegr mai'r ffordd symlaf a chyflymaf o gyfnewid arian papur "fel arfer fydd eu hadneuo gyda'ch banc".
"Gallwch gyfnewid arian papur mewn rhai o ganghennau Swyddfa'r Post. Y gwerth mwyaf y gallwch ei gyfnewid yn Swyddfa'r Post yw 拢300."
Gostyngodd y defnydd o arian parod yn sydyn yn ystod y pandemig, wrth i gyfnodau clo leihau opsiynau gwario.
Cyflymodd hyn duedd ar i lawr o ran y defnydd o arian parod.
Fodd bynnag, roedd arian parod yn dal i gyfrif am 12% o'r holl daliadau yn 2023, yn 么l y ffigurau diweddaraf gan y corff bancio UK Finance, sy'n golygu mai dyma'r ail ffordd fwyaf poblogaidd o dalu ar 么l cardiau debyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin
- Cyhoeddwyd10 Mai
- Cyhoeddwyd31 Ionawr