Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Mam dyn fu farw yn erfyn am adrodd gyrwyr meddw
Mae mam i ddyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad a achoswyd gan yrrwr oedd heb drwydded ac yn yfed alcohol wrth y llyw wedi annog pobl i adrodd gyrwyr anghyfreithlon i'r heddlu.
Bu farw Dafydd Hughes, 18, wedi i'w ffrind - oedd yn feddw ac wedi cymryd cyffuriau - fynd benben 芒 char arall ar 么l gwyro i ochr anghywir y ffordd.
Dywedodd mam Dafydd, Emma, nad yw hi'n gallu maddau i Ricky Davies, a gafodd ei garcharu am wyth mlynedd am achosi marwolaeth ei mab.
Roedd Davies wedi bod yn yfed a chymryd cyffuriau pan ddaeth i n么l Dafydd o'i gartref yn Abertyswg, Sir Caerffili ym Mai 2022.
'Pwyso'n drwm ar ein meddyliau'
"Roedd Dafydd, fel y rhan fwyaf o fechgyn, yn meddwl y gallai oroesi unrhywbeth, ac fe wnaeth y penderfyniad anghywir i fynd i mewn i'r car y bore hwnnw," meddai Emma, 35.
"Ond nid penderfyniad Dafydd oedd e i Ricky yfed trwy'r dydd, i oryrru a bod ar ochr anghywir y ffordd.
"Wna i fyth faddau i Ricky am yrru y diwrnod hwnnw, yn y stad yna."
Dywedodd Emma fod Davies wedi bod allan gyda thad Dafydd y diwrnod cyn y gwrthdrawiad, ac mai dod i n么l ef oedd Davies y bore hwnnw.
Ond pan wnaeth tad Dafydd wrthod mynd gydag ef, aeth Dafydd - oedd yn byw gyda'i dad, ei fam-gu a'i dad-cu - gyda Davies yn hytrach na'i dad.
Fe wnaeth tad-cu Dafydd erfyn arno i beidio mynd, ond dywedodd Emma fod Dafydd "yn gwrthod gwrando".
O fewn oriau roedd wedi marw.
"Mae'r ffaith ein bod ni wedi methu ei atal yn pwyso'n drwm ar ein meddyliau pob dydd, ond doedd dim dweud wrth Dafydd," meddai Emma.
Doedd Dafydd, na neb arall yn y car y diwrnod hwnnw, yn gwisgo gwregys diogelwch.
"Doedd Dafydd byth yn gwisgo gwregys," cyfaddefodd ei fam.
"Pe bai wedi gwneud hynny, falle y byddai dal yma."
Mae Dafydd, oedd wedi troi'n 18 wythnosau'n unig ynghynt, yn un o 220 o bobl ar gyfartaledd sy'n cael eu lladd ar ffyrdd y DU gan yrwyr meddw pob blwyddyn.
Sut digwyddodd y gwrthdrawiad?
Roedd Davies wedi treulio'r tridiau cyn y gwrthdrawiad yn yfed yn drwm a chymryd cyffuriau, cyn cymryd Dafydd a thri ffrind arall i sioe c诺n ym Mrynbuga.
Roedd Dafydd yn teithio yn sedd gefn Ford Focus Ricky Davies pan aeth i ochr anghywir y ffordd ar droad, yn gwneud tua 50mya mewn ardal 40mya.
Fe aeth y cerbyd benben 芒 char arall ym mhentref Drenewydd Gelli-farch yn Sir Fynwy.
Bu farw Dafydd ar 么l dioddef anafiadau difrifol i'w ben pan gafodd ei daflu am ymlaen yn y gwrthdrawiad.
Fe wnaeth yr heddlu ganfod fideos ar ap cymdeithasol Snapchat oedd yn dangos Davies yn yfed can o seidr wrth yr olwyn cyn y digwyddiad.
Clywodd y llys fod Davies hefyd wedi bod yn smocio canabis, ac nad oedd ganddo drwydded yrru nac yswiriant.
Mae Emma yn gobeithio y bydd rhywun yn dysgu o rannu stori ei mab a'i theulu.
"Rydw i eisiau i bobl ifanc ddeall y niwed y gellir achosi, hyd yn oed os nad nhw sy'n gyrru," meddai wrth raglen Crash Detectives y 大象传媒.
"Bod mewn car gyda rhywun sydd heb drwydded, ac sydd ddim yn ddigon cyfrifol i fod yn gyrru - peidiwch mynd gyda nhw.
"Peidiwch rhoi eich teulu trwy'r hyn ry'n ni'n mynd trwyddo.
"Mae gennych chi eich bywyd i gyd o'ch blaenau a peidiwch ei daflu i ffwrdd - gall pethau newid mewn ennyd.
"Os ydych chi'n credu bod rhywun yn gyrru'n feddw neu ar gyffuriau, galwch yr heddlu."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y 大象传媒.