Cwm Coed Penllergare: Yr hanes a'r ysbrydoliaeth

Ffynhonnell y llun, Betsan Evans

Disgrifiad o'r llun, Betsan Evans

鈥淵r hyn sy鈥檔 arbennig am Gwm Coed Penllergare yw dyma le dechreuodd ffotograffiaeth yn Nghymru.鈥

Mae Coed Cwm Penllergare ger Abertawe yn lle hudolus i鈥檙 ffotograffydd Betsan Haf Evans. Roedd yr yst芒d Fictoraidd arfer bod yn gartref i John Dillwyn Llewelyn (1810 鈥 1882), y ffotograffydd a'r seryddwr arloesol ac mae'n cynnwys milltiroedd o goetir, dau lyn a nifer o deithiau cerdded posib.

Mewn darn arbennig i Cymru Fyw, mae Betsan yn rhannu鈥檙 rhesymau pam fod Cwm Coed Penllergare yn lle mor arbennig ac yn ysbrydoliaeth iddi:

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Ar fore Sadwrn braf ar ddiwedd mis Hydref dyma fi yn cwrdd 芒 fy ffrind i fynd am wac tynnu lluniau Cwm Coed Penllergare. Gan ein bod yn rhannu yr un diddordeb mewn ffotograffiaeth mae鈥檔 gyfle i gloncan, yn enwedig am hanes ffotograffiaeth.

Yr adeg yma o鈥檙 flwyddyn pan yn cerdded yng nghanol y coed chi鈥檔 cael eich taro gan yr awyr iach ac mae鈥檙 llygaid yn cael gwledd o liwiau bendigedig yr hydref.

Mae鈥檙 lle yma鈥檔 tynnu fi n么l lawr i鈥檙 ddaear ac oddi wrth bwrlwm y byd gwaith. Mae鈥檔 gyfle i gael hoe o鈥檙 gwaith bob dydd heb orfod rhoi鈥檙 camera i lawr.

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Cychwyn

Yr hyn sy鈥檔 arbennig am Gwm Coed Penllergare yw dyma le dechreuodd ffotograffiaeth yng Nghymru. N么l yn y 1850au roedd teulu John Dillwyn Llewelyn yn byw yn y st芒d. Roedd gwraig John, sef Emma Thomasina Talbot, yn gyfnither cyntaf i Henry Fox Talbot sef dyfeisiwr y broses negatif a fu mewn cystadleuaeth 芒鈥檙 Ffrancwr Louis Daguerre (dyfeisydd y broses ffotograffiaeth a elwir y daguerreotype) yn 1839.

Roedd y teulu Dillwyn yn gyfoethog iawn, 芒 tad John Dillwyn yn berchen ar weithfeydd crochenwaith Cambrian yn Abertawe.

Felly roedd hyn yn galluogi John Dillwyn i ganolbwyntio ar ei ddiddordebau ym maes gwyddoniaeth, botaneg a seryddiaeth.

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Ar ei dir fe adeiladodd arsyllfa a dyma ble wnaeth John a鈥檌 ferch Thereza dynnu y llun cyntaf o鈥檙 lleuad. Roedd ei chwaer ieuengaf, Mary Dillwyn, hefyd yn amlwg yn y maes ac yn cael ei chyfrif fel ffotograffydd benywaidd cyntaf Cymru.

Adeg hynny camera bach oedd gan Mary yr hawl i'w ddefnyddio tra fod y dynion yn defnyddio鈥檙 camer芒u mawr. Ond roedd hyn yn ei galluogi hi i gymryd lluniau fwy candid / naturiol o bobl.

Yn anffodus does dim llawer o hanes wedi鈥檌 cofnodi am Mary. Oherwydd r么l y fenyw yn yr oes yna bu rhaid i Mary roi鈥檙 gorau i ffotograffiaeth pan briododd hi a symud i ffwrdd i fyw gyda鈥檌 g诺r yn y canolbarth.

Ond mae 鈥榥a un casgliad o鈥檌 lluniau wedi eu digido gan y Llyfrgell Genedlaethol.

Achub y st芒d

Yn anffodus bomiwyd y stad yn y 1960au. O 2000 ymlaen sefydlodd gr诺p o wirfoddolwyr elusen i achub y tirwedd.

Fel ffotograffydd sy鈥檔 hoffi mynd yno i grwydro i dynnu lluniau o natur, dwi鈥檔 ddiolchgar iawn fod gan y teulu Dillwyn ddiddordeb mewn gwyddoniaeth, botaneg a seryddiaeth sy鈥, mewn ffordd, wedi creu cynfas perffaith i artistiaid.

Dyma gasgliad bach o luniau o Gwm Coed Penllergare trwy鈥檔 llygaid bach i.

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

Ffynhonnell y llun, Celf Calon